Stori newyddion

Llwybrau newydd at gyfiawnder: Richard Susskind a Susan Acland-Hood yn trafod diwygio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd

Yn ein podlediad cyntaf ynglŷn ȃ diwygio, mae Susan Acland-Hood a Richard Susskind yn siarad am lysoedd digidol a chynnydd y rhaglen ddiwygio.

Image of Richard Susskind and Susan Acland-Hood speaking at event

Bydd ein rhaglen ddiwygio gwerth 1biliwn o bunnoedd yn trawsnewid y ffordd y mae cyfiawnder yn cael ei ddarparu i alluogi mynediad haws a chyflymach i unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Mae dros 100,000 o unigolion nawr wedi defnyddio ein gwasanaethau digidol i wneud cais am brofiant, cais am ysgariad, neu i wneud hawliad arian sifil ar-lein.

I nodi’r garreg filltir hon, bu i Richard Goodman, Cyfarwyddwr Newid GLlTEM gynnal sesiwn drafod fewnol rhwng Prif Weithredwr y sefydliad, Susan Acland-Hood a’r academydd cyfreithiol, Yr Athro Richard Susskind.

Yn ystod y sesiwn a recordiwyd, gallwch wrando arno fel podlediad, cafwyd trafodaeth am gynnydd y llysoedd digidol, cafwyd gyfle i edrych yn ôl ar y fforwm rhyngwladol diweddar ar lysoedd ar-lein y bu i Susan a’r Athro Susskind ei gyd-gynnal, a rhoddwyd ystyriaeth i sut mae rhaglen ddiwygio GLlTEM hyd yma wedi llwyddo i roi ei egwyddor sylfaenol ar waith – datblygu system gyfiawnder sydd ag unigolion yn ganolog iddi.

Mae trawsgrifiad o'r podlediad ar gael (PDF, 760 KB, 8 pages)

Yn ystod y sgwrs, dywedodd Susan: :

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cynnig gwahanol lwybrau at gyfiawnder i unigolion ar gyfer gwahanol fathau o broblemau – mae meddwl am hyn o safbwynt unigolyn yn golygu penderfynu beth sy’n mynd i weithio orau i unigolion mewn gwahanol amgylchiadau.

Ychwanegodd yr Athro Susskind :

Mae gennym i gyd gyfle i wneud y mwyaf o dechnoleg - nid i esgeuluso’r elfen ddynol - ond i ystyried a oes gwahanol a gwell ffyrdd o ychwanegu at wasanaethau traddodiadol.

Cyhoeddwyd ar 1 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 May 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.