Skip to main content
Stori newyddion

Cyfarwyddyd ymarfer newydd ar hawliau rheoli contractiol ar gael

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ymarfer newydd i helpu trawsgludwyr a’r farchnad eiddo ehangach ddeall gofynion newydd ar gyfer cytundebau rheoli contractiol ac i baratoi ar eu cyfer.

Mae Cyfarwyddyd Ymarfer 84 yn egluro pryd y mae’n rhaid darparu gwybodaeth i Gofrestrfa Tir EF am hawliau rheoli contractiol dros dir cofrestredig o dan Reoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026, pa wybodaeth sydd ei hangen, a sut a phryd y mae’n rhaid ei chyflwyno. 

Daw’r rheoliadau i rym ar 6 Ebrill 2027. O’r dyddiad hwnnw, rhaid cyflwyno gwybodaeth yn ddigidol i Gofrestrfa Tir EF am gytundebau penodol sy’n effeithio ar dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cytundebau opsiwn, contractau amodol a hawliau blaen brynu.

Bydd y gofynion newydd yn gwella tryloywder yn y farchnad dir trwy ei gwneud yn haws deall pwy sydd â dylanwad dros y ffordd y caiff tir ei ddefnyddio a’i ddatblygu, hyd yn oed pan nad yw’r berchnogaeth wedi newid. 

Mae’r cyfarwyddyd yn ymdrin â’r canlynol: 

  • pa gytundebau a pha dir sy’n dod o dan y rheoliadau
  • pryd y mae’n rhaid darparu gwybodaeth am hawl rheoli contractiol
  • sut i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol
  • pwy sy’n gorfod darparu’r wybodaeth ofynnol
  • y wybodaeth a’r deunydd ategol sydd eu hangen

Pam y dylai trawsgludwyr ddarllen y cyfarwyddyd nawr

Bydd darllen y cyfarwyddyd nawr yn helpu trawsgludwyr i nodi trafodion yr effeithir arnynt a chynghori cleientiaid yn gynnar. Mae hefyd yn tynnu sylw at gamau ymarferol a allai atal oedi neu gost ychwanegol, megis cadw contractau perthnasol, casglu dyddiadau a mannau geni pan fo grantiwr yn unigolyn, a threfnu data gofodol addas pan fo hawl yn effeithio ar ran yn unig o deitl cofrestredig. 

Mae’r cyfarwyddyd ymarfer yn cynnig manylion pellach i’r wybodaeth a ddarparwyd i gwsmeriaid yn flaenorol.

Darllen y cyfarwyddyd ymarfer 

Darllenwch Hawliau rheoli contractiol (CY84) i ddeall y gofynion a dechrau paratoi. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y wybodaeth yn y cyfarwyddyd, anfonwch ebost at: contractualcontrolsteam@landregistry.gov.uk 

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i ddarparu diweddariadau cyn i’r gwasanaeth digidol agor ar 6 Ebrill 2027. 

Nodiadau i olygyddion 

  • Daw Rheoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026 i rym ar 6 Ebrill 2027.
  • Bydd gwasanaeth cyflwyno digidol Cofrestrfa Tir EF ar gael o 6 Ebrill 2027.
  • Disgwylir i ddata rheoli contractiol gael ei gyhoeddi’n gyhoeddus o Ebrill 2028.
  • Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk neu ffoniwch 0300 006 3365.