Datganiad i'r wasg

Pwerau newydd i ddiogelu gyrwyr sy’n dysgu

Hyfforddwyr gyrru sy'n peri bygythiad sylweddol i ddiogelwch y cyhoedd yn wynebu atal dros dro ar unwaith o dan ddeddfwriaeth newydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Driving instructor and pupil

Driving instructor and pupil

Bydd hyfforddwyr gyrru sy’n cyflwyno bygythiad arwyddocaol i ddiogelwch y cyhoedd yn wynebu ataliad dros dro ar unwaith dan ddeddfwriaeth newydd i ddiogelu gyrwyr sy’n dysgu.

Dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae’n cymryd lleiafswm o 45 diwrnod i atal hyfforddwr rhag parhau i roi gwersi gyrru am dal. Fodd bynnag, o 13 Gorffennaf, bydd gan y Cofrestrydd o Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy y pŵer i atal cofrestriad neu drwydded dan hyfforddiant hyfforddwr sy’n cyflwyno bygythiad arwyddocaol i ddiogelwch y cyhoedd.

Meddai’r Gweinidog Diogelwch ar y Ffyrdd Mike Penning:

Mae hyfforddwyr gyrru’n chwarae rol allweddol wrth helpu sicrhau bod ffyrdd Prydain yn aros ymhlith y rhai diogelaf yn y byd.

Mae’r mwyafrif mawr o hyfforddwyr yn cwrdd a’r safonau eithriadol o uchel rydym yn gofyn ganddynt, ond yn yr achosion prin iawn ble mae hyfforddwr yn cyflwyno bygythiad arwyddocaol i’r cyhoedd, mae’n gywir inni weithredu’n gyflym ac effeithiol i ddiogelu dysgwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Mae’r Gofrestrydd yn debygol o ddefnyddio’r pŵer i atal mewn achosion ble euogfarnwyd hyfforddwyr am dramgwydd treisgar neu rywiol neu ble maent yn cyflwyno hyfforddiant o safon beryglus o isel, tra bod y prosesau tynnu neu ddiddymu ffurfiol yn cael eu cwblhau.

Mae hyfforddwyr yn cadw’r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i’w tynnu o’r Gofrestr o Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy neu i ddiddymu eu trwydded dan hyfforddiant. Bydd yr hyfforddwr yn gallu gwneud cais am iawndal ynghylch cyfnod yr ataliad os nas symudir o’r Gofrestr yn y man.

Cyhoeddwyd ar 21 June 2012