Datganiad i'r wasg

Model gyda phwerau newydd i Gymru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018

Alun Cairns: Mae’r model newydd yn rhoi seiliau cryf ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru

  • Bydd y model cadw pwerau yn gosod ffin glir rhwng y pwerau sy’n cael eu cadw a materion sydd wedi’u datganoli.

  • Bydd y pwerau ychwanegol yn cryfhau datganoli yng Nghymru ar gyfer y Cynulliad ac i Weinidogion Cymru

  • Daw’r model newydd i rym ar 1 Ebrill 2018

Ar 1 Ebrill 2018, bydd model datganoli newydd ar gyfer cadw pwerau yn dod i rym yng Nghymru, gan roi mwy o benderfyniadau dan ofal Gweinidogion Cymru. Bydd y model newydd yn rhoi arfau pwysig newydd iddynt i dyfu’r economi yng Nghymru ac i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Mae’r model newydd yn rhoi datganoli yng Nghymru ar seiliau cadarnach. Mae’n nodi’n glir beth sydd wedi’i ddatganoli, sef yr hyn y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano, a beth sydd wedi’i gadw’n ôl - sef cyfrifoldeb y Senedd.

Mae’r rheoliadau hefyd yn cyflwyno llawer o bwerau pellach sy’n cael eu datganoli i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru dan Ddeddf Cymru 2017, gan gynnwys pwerau dros etholiadau, trafnidiaeth a’r amgylchedd. Bydd y rhan fwyaf o’r pwerau hyn hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.

Daw’r cyhoeddiad wythnos ar ôl Cyllideb y Canghellor lle nododd gynlluniau i sicrhau cynnydd o £1.2 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, ac i adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd y model cadw pwerau newydd yn dod i rym ar yr un pryd â’r trethi newydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, a chyn i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru ddechrau ysgwyddo cyfrifoldeb dros gyfran o’r dreth incwm.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r model cadw pwerau yn cynrychioli newid sylweddol mewn datganoli yng Nghymru ac yn cyflwyno’r setliad datganoli cliriach y darparwyd ar ei gyfer yn Neddf Cymru.

Bydd y pwerau ychwanegol i’r Cynulliad ac i Weinidogion Cymru yn cryfhau datganoli yng Nghymru ac yn ei roi ar lwybr clir i’r dyfodol. Nawr rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn arloesol gyda’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y pwerau newydd hyn gan gyflwyno gwelliannau yn y gwasanaethau sydd wedi’u datganoli y mae pobl Cymru yn eu haeddu,.

Nodiadau i Olygyddion

Mae rhai elfennau o Ddeddf Cymru 2017 eisoes ar waith, yn cynnwys darpariaethau sy’n:

  • ail-ategu ymrwymiad y llywodraeth at sefydlogrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
  • dileu’r gofyn am refferendwm cyn datganoli treth incwm i Gymru; ac sy’n
  • dyblu’r swm (i £1 biliwn) y gall Gweinidogion Cymru ei fenthyg i gyllido gwariant cyfalaf.

Yn gynharach yn y mis, cyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru brotocol dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr a fydd yn diogelu adnoddau dŵr, y cyflenwad dŵr, ac ansawdd dŵr ar gyfer defnyddwyr bob ochr i’r ffin.

Cyhoeddwyd ar 30 November 2017