Datganiad i'r wasg

Model gyda phwerau newydd i Gymru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018

Alun Cairns: Mae’r model newydd yn rhoi seiliau cryf ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru

  • Bydd y model cadw pwerau yn gosod ffin glir rhwng y pwerau sy’n cael eu cadw a materion sydd wedi’u datganoli.
  • Bydd y pwerau ychwanegol yn cryfhau datganoli yng Nghymru ar gyfer y Cynulliad ac i Weinidogion Cymru.

Bydd model cadw pwerau newydd yn dod i rym yng Nghymru heddiw (1 Ebrill), gan roi mwy o benderfyniadau dan ofal Gweinidogion Cymru. Bydd y model newydd yn rhoi arfau pwysig newydd iddynt i dyfu’r economi yng Nghymru ac i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Mae’r model newydd yn rhoi datganoli yng Nghymru ar seiliau mwy cadarn. Mae’n nodi’n fwy clir beth sydd wedi’i ddatganoli, sef yr hyn y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano, a beth sydd wedi’i gadw’n ôl – sef cyfrifoldeb y Senedd.

Bydd y Cynulliad a Gweinidogion Cymru hefyd yn derbyn nifer o bwerau newydd heddiw a all wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru, gan gynnwys pwerau dros wasanaethau bysiau a thacsis, porthladdoedd Cymru ac etholiadau’r Cynulliad a llywodraeth leol. Bydd y model cadw pwerau newydd yn dod i rym ar yr un diwrnod â’r trethi newydd cyntaf i gael eu datganoli i Gymru, a alluogwyd yn sgil y Ddeddf Cymru ddiwethaf; a bron i flwyddyn cyn i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gyfran o’r dreth incwm.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y model cadw pwerau newydd ar gyfer Cymru yn golygu llywodraeth fwy tryloyw, gyda chyfrifoldebau mwy pendant ar lefel y DU ac ar lefel ddatganoledig. Gan ei ystyried ynghyd â’r fframwaith cyllidol – sy’n rhoi sicrwydd cyllid i Gymru yn y tymor hwy – mae datganoli yng Nghymru ar sylfaen gadarn i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Ac, wrth newid y model datganoli heddiw, mae pwerau newydd cynhwysfawr yn cael eu datganoli i Gynulliad Cymru.

Bydd yr holl benderfyniadau ynglŷn â phorthladdoedd, rheoleiddio bysiau a thacsis a thâl athrawon, yn ogystal â system etholiadol y Cynulliad a llywodraeth leol yng Nghymru, yn cael eu gwneud yn y Senedd.

Yn fy marn i – dyna ydi datganoli cyfrifol; dyna ydi gwir ddatganoli ac rydw i’n credu bod hynny’n hanfodol i Gymru a’r DU. Nawr rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn arloesol gyda’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y pwerau newydd hyn gan gyflwyno gwelliannau yn y gwasanaethau sydd wedi’u datganoli y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Mae rhai elfennau o Ddeddf Cymru 2017 eisoes ar waith, gan gynnwys darpariaethau sy’n: * ail-ategu ymrwymiad y llywodraeth i sefydlogrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. * dileu’r gofyn am refferendwm cyn datganoli treth incwm i Gymru; ac sy’n * dyblu’r swm (i £1 biliwn) y gall Gweinidogion Cymru ei fenthyg i gyllido gwariant cyfalaf.

Y llynedd, cyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru brotocol dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr a fydd yn diogelu adnoddau dŵr, y cyflenwad dŵr, ac ansawdd dŵr ar gyfer defnyddwyr bob ochr i’r ffin.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2018