Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth ar-lein newydd i yrwyr bysus a loriau

DSA lansio gwasanaeth ar-lein newydd i helpu gyrwyr lorïau, bysiau a bysiau moethus i gadw llygad ar eu hyfforddiant cyfnodol.

Lorry driver with driver qualification card

Lorry driver with driver qualification card

Lansiwyd gwasanaeth ar-lein newydd i helpu gyrwyr loriau, bysus a choetsis i gadw llygad ar eu hyfforddiant cyfnodol heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).

Mae’r gwasanaeth ymholiad gyrrwr ar-lein yn galluogi gyrwyr i weld faint o oriau o hyfforddiant cyfnodol maent wedi ei gwblhau tuag at eu CPC Gyrrwr (Tystysgrif Cymhwyster Proffesiynol Gyrrwr). Gall gyrwyr hefyd roi cyfrineiriau dros dro i ddarpar gyflogwyr neu gyflogwyr cyfredol, gan ganiatau iddynt gadarnhau faint o hyfforddiant mae gyrwyr wedi ei gwblhau.

Meddai Prif Weithredwr y DSA, Rosemary Thew:

Mae CPC Gyrrwr wedi ei ddatblygu i godi ymwybyddiaeth a chynnal gwybodaeth a sgiliau gyrwyr loriau, bysus a choetsis.

Bydd y gwasanaeth ymholiad gyrrwr ar-lein newydd yn caniatau i yrwyr proffesiynol wirio bod eu hyfforddiant wedi ei uwchlwytho ac mae’n galluogi cyflogwyr i weld fod yr hyfforddiant allweddol hwn yn digwydd - gan helpu’r diwydiannau trafnidiaeth teithwyr a chludiant ffordd i gynnal safonau proffesiynol uchel.

Mae’r gwasanaeth yn darparu ‘stop un siop’ i gael mynediad at wybodaeth glir, syml ac i’r funud. Mae’r sgrin ymholiad yn dangos:

  • dyddiad dod i ben cymhwyser CPC Gyrrwr (bws a choets ac/neu lori)
  • manylion pob cwrs hyfforddi a gwblhawyd

Gellir cael mynediad at y gwasanaeth ymholiad gyrrwr ar-lein 24 awr o’r dydd trwy GOV.UK

Cyhoeddwyd ar 17 April 2012