Stori newyddion

Cyfarwyddyd newydd ar gyfer ardystiad cwsmeriaid o 16 Mehefin

Newid rhai o'n ffurflenni i'w gwneud yn symlach i drawsgludwyr wrth gyflwyno ceisiadau trwy'r post.

Ar 16 Mehefin byddwn yn newid nifer o’n ffurflenni i’w gwneud yn symlach i drawsgludwyr ardystio bod ganddynt dystiolaeth wrth gyflwyno’r ceisiadau hyn trwy’r post.

Mae hyn yn sicrhau bod cyfarwyddyd ardystio ar gyfer ceisiadau trwy’r post yn cydymffurfio â’n cyfarwyddyd ar gyfer ceisiadau electronig.

Bydd trawsgludwyr yn gallu ardystio bod ganddynt dystiolaeth sy’n cefnogi’r mathau canlynol o geisiadau yn hytrach nag anfon y dystiolaeth faterol atom:

Ffurflenni AS1, AS2, AS3, DJP, HR1, HR2, SEV, RX1, RX4, UN1, UN2, UN3, UN4 ac WCT.

Caiff manylion am y cyfarwyddyd ardystio eu cynnwys yn y nodiadau ar ymyl y ffurflenni hyn. Byddwn yn cyhoeddi fersiynau diwygiedig o’r ffurflenni (sydd ar gael o’n tudalen ffurflenni) prynhawn heddiw.

Sylwch mai i drawsgludwyr yn unig y mae’r newid yn ein cyfarwyddyd yn berthnasol. Os nad ydych yn drawsgludwr, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth faterol gyda’ch ceisiadau o hyd.

Cyhoeddwyd ar 16 June 2014