Skip to main content
Stori newyddion

Canllawiau newydd i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd newydd a busnesau sy’n cynhyrchu bwyd drwy feithrin celloedd

Mae’r ASB ac FSS yn cyhoeddi canllawiau newydd i helpu busnesau i roi cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a bwydydd newydd eraill ar y farchnad yn ddiogel.

The image is of a cell cultivated kebab stick.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), mewn partneriaeth â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), wedi cyhoeddi pedwar canllaw newydd i helpu busnesau sy’n datblygu a chynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd – a elwir weithiau’n ‘gig a dyfir mewn labordy’ – a bwydydd newydd eraill i lywio’r gofynion rheoleiddiol sydd angen eu bodloni i roi cynhyrchion diogel ac arloesol ar y farchnad.    

Mae’r canllawiau, a gafodd eu creu drwy’r rhaglen blwch tywod ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, yw’r ail grŵp o gyhoeddiadau gan y fenter a ariennir gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT), sy’n rhedeg tan fis Chwefror 2027. Mae’r blwch tywod yn ategu’r broses o awdurdodi cynnyrch i’w roi ar y farchnad drwy ddod â’r rheoleiddwyr a’r diwydiant at ei gilydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o sut mae rheoliadau bwyd yn gymwys i gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Bwydydd newydd yw’r rhain sydd ddim yn cael eu cynhyrchu drwy ddulliau ffermio traddodiadol, er enghraifft, magu da byw neu dyfu planhigion a grawn. Yn hytrach, maen nhw’n cael eu cynhyrchu drwy gymryd celloedd o blanhigion neu anifeiliaid, a bod y celloedd hyn wedyn yn cael eu tyfu’n fwyd. Dim ond canolbwyntio ar gelloedd anifeiliaid y mae’r rhaglen blwch tywod.    

Dyma’r dogfennau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw:    

Gofynion ar fusnesau bwyd o ran hylendid ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd: canllawiau ar roi Cyfraith Bwyd Gyffredinol a Rheoliadau Hylendid ar waith i gynhyrchu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd.    

Canllawiau atodol ar hunaniaeth, prosesau cynhyrchu a microbioleg: gofynion gwyddonol manwl ar gyfer gwerthuso cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd wrth wneud cais am awdurdodiad i roi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am  sut i nodweddu llinellau celloedd, disgrifio prosesau cynhyrchu a rheoli peryglon microbiolegol.    

Gwella eich cais ar gyfer cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd: argymhellion ymarferol i helpu busnesau i baratoi ceisiadau cryfach a mwy cyflawn ar gyfer awdurdodi cynnyrch i’w roi ar y farchnad, gan fynd i’r afael â’r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae ceisiadau’n wynebu oedi neu fod gofyn am ragor o wybodaeth.    

Gwybodaeth atodol am dreialon blasu bwyd newydd: canllawiau ychwanegol sy’n helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau wrth gynnal treialon blasu bwyd newydd, gan gynnwys cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, fel rhan o weithgarwch ymchwil a datblygu. Mae hyn yn ategu’r canllawiau a gafodd eu cyhoeddi yn 2025 ar dreialon blasu bwyd newydd.    

Nod y canllawiau yw egluro’r rheoliadau sydd eu hangen ar fusnesau fel y gallan nhw fuddsoddi mewn cynhyrchion bwyd arloesol, a’u datblygu, â hyder, gan sicrhau bod diogelwch defnyddwyr yn parhau i fod yn ganolog i unrhyw lwybr sy’n cael ei ddefnyddio i roi rhywbeth ar y farchnad.     

Dywedodd Dr Thomas Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi’r Asiantaeth Safonau Bwyd:    

Mae cynhyrchion sy’n cael eu gwneud drwy feithrin celloedd yn cynrychioli cam newydd sbon i’r diwydiant bwyd, a hoffwn wneud yn siŵr bod busnesau’n cael cyngor clir ar beth sydd ei angen arnyn nhw i roi cynhyrchion diogel ar y farchnad. Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r wybodaeth rydyn ni wedi’i chasglu drwy ymgysylltu â’r diwydiant a’r byd academaidd – a hynny drwy’r rhaglen blwch tywod – ac mae’r canllawiau wedi’u cynllunio i greu llwybr at awdurdodi sy’n fwy tryloyw ac effeithlon. Nid yw diogelwch defnyddwyr yn agored i’w trafod, ac ar ddiwedd y dydd, mae’r dogfennau hyn yn ymwneud â lleihau rhwystrau i dechnolegau bwyd sy’n dod i’r amlwg heb beryglu safonau diogelwch.

Dywedodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:   

Gall datblygiadau yn y sector bwyd arloesol helpu i gynnal system fwyd iachach a mwy gwydn, tra ar yr un pryd gyfrannu at uchelgeisiau llywodraeth y DU ar gyfer economi fodern sy’n ffynnu. Ond fydd busnesau ddim yn gwireddu’r potensial hwnnw os nad oes ganddyn nhw reoliadau eglur i allu buddsoddi na’r hyder i ehangu. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cymorth ymarferol sy’n helpu cwmnïau arloesol i symud yn eu blaen, gan ddefnyddio dull sydd wedi’i arwain gan wyddoniaeth ac sy’n diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae’r rhaglen blwch tywod hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cymorth Busnes, sydd ar gael i gwmnïau sy’n datblygu cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd tan fis Chwefror 2027, gan alluogi cwmnïau i ymgysylltu’n uniongyrchol ag arbenigwyr rheoleiddiol yn yr ASB ac FSS.    

Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau i fusnesau ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd ar gael yn ein Hyb Canllawiau Bwyd Arloesol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2026