Datganiad i'r wasg

Ffigurau newydd yn dangos cynnydd yn y nwyddau o Gymru sy'n cael eu hallforio

Daw cyhoeddiad y data hwn heddiw gan Lywodraeth y DU wrth i Alun Cairns gefnogi busnesau Cymru ym Mwrdd Masnach Coventry

Mae data newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 6 Medi) gan Lywodraeth y DU yn dangos cynnydd yn y nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru ac o’r DU drwyddi draw. Mae’r ffigurau’n dangos 4.2% o gynnydd i £16.6bn yn yr allforion o Gymru, o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Gan groesawu’r ffigurau cadarnhaol, meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Unwaith eto, mae Cymru yn cystadlu â’r goreuon yn y farchnad allforio fyd-eang, gan brofi bod cyfleoedd yn gallu bodoli mewn marchnadoedd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, oherwydd y galw sy’n bodoli am ein cynnyrch a’n gwasanaethau.

Ond mae llawer o gyfleoedd ar gael o hyd, a nod Strategaeth Allforio newydd Llywodraeth y DU yw rhoi sylw i’r rhain. Mae’n nodi uchelgais ar gyfer y DU i gyd, sef cynyddu ein hallforion fel cyfran o GDP o 30% i 35%, gan ein symud tuag at frig y G7. I gyflawni hyn, mae’n cynnig nifer o fesurau newydd i helpu i gefnogi cwmnïau Cymru ar y llwyfan byd-eang, gan roi’r cymorth ariannol, hyrwyddol ac ymarferol y maent ei angen i allforio.

Daw’r ffigurau cadarnhaol yn dilyn ymweliad diweddar Alun Cairns â De Affrica. Yno, fe ymunodd â’r Prif Weinidog a dirprwyaeth o fusnesau’r DU ar gyfer taith fasnach a buddsoddi allweddol.

Heddiw, mae’n ymuno â’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Dr Liam Fox AS yng nghyfarfod y Bwrdd Masnach yn Coventry, lle bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo cysylltiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Chanolbarth Lloegr.

Mae cyfarfod heddiw yn dilyn y cyhoeddiad y bydd baton y Bwrdd Masnach yn cael ei drosglwyddo i Gymru yn ddiweddarach eleni. Bydd unigolion blaenllaw o fyd busnes a gwleidyddiaeth o bob rhan o’r DU yn cwrdd yn Abertawe ym mis Tachwedd i gydnabod cwmnïau lleol drwy gyfrwng Gwobrau’r Bwrdd Masnach (BOFTAs). Bydd Rhaglen yr Academi Fasnach Genedlaethol yn rhoi sylw penodol i fusnesau Cymru hefyd.

Yn Coventry, bydd Dr Fox yn cyhoeddi y bydd tair ardal Cyfleoedd â Photensial Mawr newydd - yn Swydd Gaerlŷr, Swydd Warwick a Swydd Gaerwrangon - yn cael eu hyrwyddo i fuddsoddwyr o gwmpas y byd, a fydd yn ôl yr amcangyfrif, yn rhoi hwb o sawl biliwn i economi’r DU.

Mae’r cynllun, sy’n cael ei gydlynu gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yn pennu cyfleoedd i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i glystyrau, rhanbarthau a sectorau newydd - gan greu swyddi newydd a thwf ymhob rhan o’r DU.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Drwy’r Bwrdd Masnach, mae Llywodraeth y DU yn dathlu busnesau eithriadol sy’n cymryd camau breision ym maes arloesi, gan greu swyddi a chryfhau eu heconomïau lleol, a hyrwyddo masnach rydd yr un pryd.

Mae allforion o Gymru yn parhau i gynyddu o un flwyddyn i’r llall. Bydd y Bwrdd Masnach yn dyblygu’r gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth a roddodd Llywodraeth y DU i Ganolbarth Lloegr pan fydd y cyfarfod yn cyrraedd Abertawe yn ddiweddarach eleni.

Tra bydd yn Coventry, bydd Dr Fox hefyd yn cyhoeddi ail ysgol haf masnach ryngwladol, i’w chynnal yn ystod haf 2019. Mae hyn yn dilyn llwyddiant ysgol haf Rhaglen yr Academi Fasnach Genedlaethol eleni. Bydd y broses gwneud cais yn agor ym mis Chwefror.

Yn olaf, bydd Dr Fox yn cyflwyno naw BOFTA, sef gwobrau’r Adran Fasnach, i gwmnïau yng Nghanolbarth Lloegr, am eu rhagoriaeth ym maes masnach ryngwladol, dangos arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth.   ###Rhagor o wybodaeth:

Ffigurau allforio:

Mae’r ffigurau’n dangos cynnydd yn yr allforion ar gyfer holl wledydd y DU:

Y Bwrdd Masnach

Mae’r Adran Masnach Ryngwladol yn gweithio’n uniongyrchol gyda chwmnïau mewn 60 gwlad ledled y byd. Y llynedd, bu i’r Adran Masnach Ryngwladol gefnogi 1,682 o brosiectau buddsoddi a lwyddodd i greu a diogelu 81,206 o swyddi yn y DU.

Mae Bwrdd Masnach Llywodraeth y DU yn dwyn ynghyd unigolion blaenllaw o fyd busnes a gwleidyddiaeth o bob rhan o’r DU, gan gynnwys cynrychiolwyr o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Gallwch ddarllen mwy am gyfarfod y Bwrdd Masnach yn Coventry ar wefan yr Adran Masnach Ryngwladol

Cyhoeddwyd ar 6 September 2018