Mae ffigurau newydd yn datgelu bod 7 miliwn o bobl wedi dechrau swydd newydd yn 2025
Annog ceiswyr gwaith, a’r rhai sy’n dechrau swydd newydd, i lawrlwytho ap CThEF er mwyn cael gwybodaeth hanfodol ynghylch eu gwaith.
- Gydag Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd wedi dechrau, caiff y rhai sy’n ceisio gwaith eu hatgoffa i ddefnyddio ap CThEF er mwyn cael yr wybodaeth hanfodol wrth wneud cais am swydd newydd, neu wrth ddechrau swydd newydd
- Fe wnaeth mwy na 7 miliwn o bobl ddechrau swydd newydd yn 2025. Mae hyn yn gynnydd o 300,000 o’r flwyddyn flaenorol
- Mae gan geiswyr gwaith sydd wedi lawrlwytho ap CThEF fynediad hwylus at eu rhif Yswiriant Gwladol, cod treth, a’u cofnod gwaith, sy’n eu helpu wrth fynd ati i ddechrau swydd newydd
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi datgelu bod mwy na 7 miliwn o bobl wedi dechrau swydd newydd yn 2025. Wrth i Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd fynd rhagddo, mae CThEF am atgoffa’r rhai sy’n dechrau swydd newydd yn 2026 i lawrlwytho ap CThEF er mwyn cael eu manylion hanfodol o ran eu cyflogaeth a’u treth.
Boed rhywun yn berson ifanc sy’n chwilio am ei swydd gyntaf, neu yn rhywun sy’n chwilota am her newydd, newid gyrfa, neu wedi ennill dyrchafiad – mae lawrlwytho ap CThEF yn rhoi mynediad mewn ennyd i’r holl wybodaeth hanfodol o ran eu cyflogaeth a’u treth.
Y gwanwyn yw’r cyfnod prysuraf ar gyfer recriwtiaid newydd. Y llynedd fe wnaeth mwy nag 1.8 miliwn o bobl ddechrau swydd newydd rhwng mis Ebrill a Mehefin 2025. Gall lawrlwytho ap CThEF helpu i setlo eich nerfau ar eich diwrnod cyntaf. Mae lawrlwytho’r ap yn rhwydd ac yn syml i’w wneud drwy GOV.UK, yr App Store, neu Google Play.
Wrth wasgu un botwm, gall yr ap ddangos gwybodaeth sy’n atebion i gwestiynau cyffredin gan recriwtwyr a chyflogwyr pan fo rhywun yn dechrau swydd newydd, gan gynnwys y canlynol:
- rhif Yswiriant Gwladol
- cofnod cyflogaeth a chofnod incwm
- gwybodaeth ynghylch Talu Wrth Ennill (TWE), gan gynnwys y P60
- eich cod treth
Meddai Myrtle Lloyd Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Gall ymgeisio am swydd, neu ddechrau swydd newydd, fod yn heriol yn ei hun. Ond mae ap CThEF yn eich darparu â mynediad hwylus at bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud yr ochr weinyddol o bethau ychydig yn haws – yn enwedig i bobl ifanc gan ei fod yn bosibl nad ydynt yn gwybod pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyflogwyr. Lawrlwytha ap CThEF er mwyn arbed amser a straen i ti dy hun, ac er mwyn lleihau’r ofn ar dy ddiwrnod cyntaf.
Roedd gan ap CThEF mwy na 2.7 miliwn o ddefnyddwyr newydd yn 2025. Rhai o nodweddion mwyaf poblogaidd yr ap oedd y canlynol:
- fe wnaeth bron i 270,000 o bobl lawrlwytho eu cofnod TWE, yn dangos eu P60, ac yn cynnwys manylion o’u cyflogaeth flaenorol, eu cyflog, a’r dreth sydd wedi’i thalu ganddynt hyd yn hyn
- fe wnaeth mwy na 507,000 o bobl ddefnyddio’r gyfrifiannell dreth i gyfrifo swm y dreth maent yn ei dalu ar eu cyflog
- fe wnaeth mwy na 522,000 o bobl lawrlwytho eu rhif Yswiriant Gwladol i waled eu ffon symudol, er mwyn cael mynediad ato ar unrhyw bryd
Rhagor o Wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd (2 i 7 Mawrth 2026)
Er mwyn cael help i chwilio am swydd, neu i wneud cais am un, ewch at y canllaw Cynllunio eich chwiliad swydd – 7 cam i lwyddiant – Help Swyddi
Gallwch weld y llif data ynghylch cyflogai yn yr Ystadegau Marchnad Lafur (tabl 6) diweddaraf