Mae gwasanaethau patentau digidol newydd wedi'u lansio
Cyfres o wasanaethau digidol newydd i wneud cais am batentau'r DU, eu rheoli neu eu hadnewyddu.
Diweddariad gwasanaeth patentau newydd: Mehefin 2026
Ym mis Ebrill lansiodd yr IPO wasanaeth patentau newydd i’r cyhoedd. Ers hynny, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd o’r gwasanaeth newydd, ac mae wedi dod yn brif ffordd y mae pobl yn cyflwyno ceisiadau patent gyda’r IPO.
Ers 1 Ebrill 2026, mae’r gwasanaeth wedi gweld dros:
-
13,000 o drafodion
-
4,700 o geisiadau patent
-
3,000 o ddefnyddwyr newydd
I roi’r ffigurau uchod mewn cyd-destun, rydym wedi derbyn mwy na dwywaith cymaint o drafodion ers y lansiad nag yn ystod cyfnod cyfan y ‘beta preifat’, a redodd o haf 2025 - Mawrth 2026.
Hyd yn hyn, rydym wedi gweld tua tri chwarter y ceisiadau patent yn dod i mewn trwy’r gwasanaeth newydd.
Datgomisiynu hen wasanaethau
Dros y misoedd nesaf byddwn yn dechrau datgomisiynu’r hen wasanaethau sy’n weddill. Mae hwn yn gam pwysig, oherwydd mae rhedeg dau system wahanol ar yr un pryd yn gwneud pethau’n arafach ac yn fwy cymhleth i ni a’n cwsmeriaid..
Bydd dau brif gam yn y broses ddadgomisiynu:
1. Byddwn yn datgomisiynu’r hen offer e-bostio. Mae hyn yn golygu, os ydych chi wedi bod yn derbyn gohebiaeth ddyblyg, y bydd hynny’n dod i ben a dim ond gohebiaeth o’r gwasanaeth newydd y byddwch chi’n ei chael.
2. Byddwn yn datgomisiynu’r gwasanaeth Ffeilio ar y We ac yn rhoi’r gorau i dderbyn ceisiadau patent drwy forms@ipo.gov.uk.
Ni fyddwn yn datgomisiynu’r hen wasanaethau nes bod gennym gynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn na fydd y gwasanaeth newydd ar gael. Nid ydym yn disgwyl i’r broses datgomisiynu gael ei chwblhau cyn hydref 2026. Byddwn yn rhoi rhybudd o flaen llaw o’r union ddyddiadau o leiaf ddau fis.
Bydd y blwch post forms@ipo.gov.uk yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â nodau masnach a dyluniadau.
Gwasanaeth wrth gefn
Cyn i’r hen wasanaethau gael eu datgomisiynu, rydym yn adolygu ein cynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd y gwasanaeth newydd yn dod ar gael dros dro.
Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion unwaith y bydd ein cynlluniau wedi’u cwblhau a chyn i’r hen wasanaethau gael eu datgomisiynu.
Gwelliannau i’r gwasanaeth patentau
Ym mis Chwefror cyhoeddwyd ein map ffordd o welliannau gwasanaeth. Rydym nawr wedi cyhoeddi diweddariad sy’n dangos yr hyn rydym eisoes wedi’i wneud ers hynny a’r hyn rydym yn gweithio arno nesaf.
Ein prif flaenoriaethau rydym yn gweithio arnynt nawr yw:
-
gwelliannau i geisiadau patent
- newidiadau i’w gwneud hi’n haws dewis y cynrychiolydd cywir ar gyfer y cyfrif
- manylion a dogfennau’r cais yn ôl yn syth ar ôl eu cyflwyno
- gwelliannau i’r dudalen ‘Gwirio’ch atebion’ i gynnwys manylion ffioedd ac i annog gwiriadau pellach -
ymateb i welliant arholiad - Opsiwn uwchlwytho dogfennau ychwanegol i ganiatáu llythyr ymateb ar ffurf PDF ac opsiwn i ychwanegu eich cyfeirnod at yr ymateb
-
gwelliannau i gofrestru cyfrif - newidiadau i gyflwyno proses well ar gyfer cysylltu eich cyfrif â’ch patent pan fyddwch chi’n cofrestru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dadgomisiynu ein hen wasanaethau neu’r gwasanaeth newydd, cysylltwch â information@ipo.gov.uk.
Mae ein prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau am y gwasanaeth newydd wedi newid yn ddiweddar i information@ipo.gov.uk. Bydd ymholiadau am y gwasanaeth newydd nawr yn cael eu casglu gan grŵp ehangach o gydweithwyr, fel roeddent ar gyfer yr hen wasanaethau.
Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o ganllawiau a chefnogaeth ar y gwasanaeth newydd yn y lleoedd canlynol:
-
tudalen ganllawiau manwl (https://www.gov.uk/government/publications/one-ipo-patents-service-details/one-ipo-patents-service-details) ar sut i ddefnyddio’r gwasanaethau newydd
-
cyfres o flogiau (https://ipo.blog.gov.uk/category/transformation/) yn ymdrin â newidiadau allweddol ac awgrymiadau gwych
-
llyfrgell o fideos demo (https://www.youtube.com/playlist?list=PLij_WrWeezY-hQ8ubCrU2zC1gtjVbctm3) sy’n cwmpasu gwahanol nodweddion y gwasanaethau newydd
Gwasanaethau patentau digidol newydd wedi’u lansio: Ebrill 2026
Mae’r gwasanaethau a lansiwyd heddiw yn caniatáu i gwsmeriaid wneud cais am batentau’r DU, eu rheoli a’u hadnewyddu mewn un lle. Mae hyn yn nodi’r cam nesaf yn rhaglen trawsnewid digidol ‘One IPO’ a fydd yn darparu gwasanaethau digidol newydd ar gyfer eiddo deallusol y DU. Yn y pen draw, bydd y rhaglen yn dod â gwasanaethau patentau, nodau masnach, a dyluniadau ynghyd o dan un to ar un platfform digidol.
Mae holl wasanaethau patentau craidd yr IPO nawr ar gael ar y platfform newydd. Bydd nodau masnach a dyluniadau cofrestredig yn dod yn ddiweddarach.
Trosolwg o wasanaethau Newydd
Ym mis Ionawr 2025, fe wnaethom lansio’r gwasanaethau Chwilio am batent a Gwirio’r cyfnodolyn patent (a elwir hefyd yn ‘Chwilio One IPO’), a wnaeth wybodaeth am batentau’r DU yn fwy syml ac yn haws i’r cyhoedd gyrchu
Heddiw mae’r IPO wedi lansio dau wasanaeth patentau arall.
1. Rheoli eiddo deallusol
Mae’r gwasanaeth ‘Rheoli eiddo deallusol’ yn caniatáu i gwsmeriaid patent greu eu cyfrif IP digidol eu hunain am y tro cyntaf. Y cyfrif yw’r porth i’n gwasanaethau digidol newydd eraill. Mae’r manteision yn cynnwys y gallu i:
-
chwilio a gweld statws eich patentau yn y DU ar unrhyw adeg
-
gwneud newidiadau i’ch patentau’n gyflym trwy hunanwasanaeth digido
-
adnewyddu patentau’n ddigidol o’ch cyfrif IP
2. Gwneud cais am batent
Mae’r gwasanaeth ‘Gwneud Cais am Batent’ newydd yn wasanaeth ymgeisio am batent digidol. Mae’r gwelliannau y mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig yn cynnwys:
-
cwblhau eich cais mewn unrhyw drefn, cadw drafftiau a chydweithio â chydweithwyr
-
gweld manylion eich cais ac unrhyw ddiweddariadau yn eich cyfrif
-
diweddaru eich cais ar unrhyw adeg drwy eich cyfrif
Cyrchu gwasanaethau newydd os nad ydw i’n weithiwr proffesiynol IP
Mae’r gwasanaethau newydd nawr ar gael o GOV.UK. Mae’r dudalen Patentau, nodau masnach, hawlfraint a dyluniadau ar GOV.UK yn cynnwys dolenni i holl wasanaethau IPO. Rydym wedi diweddaru’r adran hon o’n gwefan i gynnwys gwybodaeth am gyrchu’r gwasanaethau newydd a chreu eich cyfrif.
Mynediad at wasanaethau newydd fel gweithiwr proffesiynol IP
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol ym maes eiddo deallusol (er enghraifft, cyfreithiwr patent) neu’n gweithio i gwmni sydd â thîm eiddo deallusol mewnol, mae’n debygol ein bod ni eisoes wedi sefydlu cyfrif ar gyfer eich sefydliad.
Pan fyddwn yn sefydlu cyfrif eich sefydliad, rydym yn rhoi mynediad i un person ym mhob cwmni, (nhw sy’n dod yn weinyddwr y cyfrif). Yna nhw sy’n gyfrifol am wahodd pobl eraill yn y sefydliad i’r gwasanaeth.
Mae cyrchu’r gwasanaeth fel gweithiwr proffesiynol IP yn dibynnu os:
-
oes gennych gyfrif eisoes, os felly, does dim byd yn newid - rydych chi’n barod
-
oes gan eich sefydliad gyfrif ond does dim gennych chi - gofynnwch i gydweithiwr am fynediad, ni ddylech greu cyfrif newydd ar GOV.UK
-
nad ydych chi’n siŵr os oes gan eich sefydliad gyfrif eto - e-bostiwch oneiposupport@ipo.gov.uk i gael cyngor ar y camau nesaf, ni ddylech greu cyfrif newydd ar GOV.UK
Mynediad i weithwyr proffesiynol adnewyddu patentau
Os mai adnewyddu patent yw’r unig wasanaeth rydych chi am ei ddefnyddio, gallwch chi greu cyfrif ar GOV.UK. Gallwch chi wneud hyn heb i’ch cyfrif fod wedi’i gysylltu â sefydliad. Mae hyn oherwydd y gall unrhyw un dalu i adnewyddu patent - does dim rhaid i chi fod yn berchennog y patent nac yn gynrychiolydd iddo.
Newidiadau i wasanaethau presennol
Yn y dyfodol, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio ein gwasanaethau presennol (‘system etifeddol’). Yn ystod y cyfnod pontio, gallwch gyflwyno ceisiadau i’r IPO yn y ffyrdd canlynol:
-
Gwneud cais am batentau, eu rheoli neu eu hadnewyddu gan ddefnyddio ein gwasanaethau digidol newydd - dyma’r ffordd fwyaf syml a chyflym o weithio gyda ni.
-
Parhau i gyflwyno ceisiadau patent gan ddefnyddio ein gwasanaeth Ffeilio ar y We tan o leiaf haf 2026. Byddwn yn rhoi o leiaf dri mis o rybudd i chi cyn ei ddileu.
-
Parhau i gyflwyno ceisiadau patent drwy forms@ipo.gov.uk a gofyn am estyniad i derfyn amser drwy pateot@ipo.gov.uk tan o leiaf haf 2026
-
Tynnu ceisiadau patent yn ôl drwy withdraw@ipo.gov.uk ac nid oes unrhyw gynlluniau i newid hyn.
Fel nodyn atgoffa, o 1 Ebrill 2026 ymlaen ni ellir cyflwyno ceisiadau patent y DU drwy wasanaeth Ffeilio Ar-lein Electronig (eOLF) Swyddfa Patentau Ewrop. Rhoddodd y gwasanaeth hwn y gorau i dderbyn cymorth technegol gan Swyddfa Patentau Ewrop ar 1 Ionawr 2026 fel rhan o’r broses ddadgomisiynu.
Canllawiau a gwybodaeth bellach
Mae llawer o arweiniad a chymorth ar gael i’ch helpu i ddechrau gyda’r gwasanaethau newydd, gan gynnwys:
-
canllawiau a ffurflenni wedi’u diweddaru ar GOV.UK i adlewyrchu’r gwasanaethau newydd
-
tudalen ganllawiau manwl ar sut i ddefnyddio’r gwasanaethau newydd
-
cyfres o flogiau sy’n ymdrin â newidiadau allweddol ac awgrymiadau gwycha
-
llyfrgell o fideos demo sy’n ymdrin â gwahanol nodweddion y gwasanaethau newydd
-
gweminarau hyfforddi wythnosol ar gyfer defnyddwyr newydd y gallwch gofrestru ar eu cyfer nawr
Camau nesaf
Er bod lansio cyhoeddus ein gwasanaethau patent newydd yn garreg filltir bwysig, dim ond y dechrau ydyw. Rydym wedi ymrwymo i wella’r gwasanaethau hyn yn barhaus yn yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd i ddod ac mae gennym dîm ymroddedig ar waith i wneud hyn. Rydym eisoes wedi cyhoeddi map ffordd o welliannau arfaethedig y byddwn yn eu cyflwyno dros y 12 mis nesaf.
Nawr bod y gwasanaethau patent newydd ar gael i’r cyhoedd, byddwn yn fuan yn dechrau cam dau o’n rhaglen drawsnewid One IPO - gwasanaethau digidol newydd ar gyfer nodau masnach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwasanaethau newydd, cysylltwch ag information@ipo.gov.uk.
Updates to this page
-
New patents service update: June 2026 added.
-
Welsh translation added.
-
First published.