Stori newyddion

System rheoli achosion newydd sy’n darparu mynediad wedi’i ganoli at wybodaeth am achosion troseddol

Mae system rheoli achosion newydd o’r enw’r Platfform Cyffredin nawr yn weithredol yn Llys y Goron Derby, Llys Ynadon Derby a Llys Ynadon Chesterfield.

Mae’r system yn darparu mynediad diogel at yr wybodaeth ddiweddaraf am achosion ar gyfer yr holl bartïon sy’n rhan o achosion troseddol – yn cynnwys y farnwriaeth, cyfreithwyr a bargyfreithwyr, Gwasanaeth Erlyn y Goron a staff y llys.

Ar yr un pryd, mae ein Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC) ym Mirmingham wedi dechrau rheoli’r gwaith gweinyddol sy’n cefnogi’r llysoedd ynadon. Mae staff wedi cael eu hyfforddi’n llawn a bellach maen nhw’n delio â’r galwadau a’r negeseuon e-bost sy’n ymwneud ag achosion Platfform Cyffredin.

Y llysoedd nesaf fydd yn dechrau defnyddio’r Platfform Cyffredin fydd Llys y Goron Bryste a Llys Ynadon Bryste ac yn dilyn hynny bydd Llysoedd Ynadon Gogledd Tyneside, Canol Northumberland, De Ddwyrain Northumberland a Llys y Goron Newcastle hefyd yn ei ddefnyddio.

Bydd y Platfform Cyffredin yn cael ei gyflwyno mewn cyfres o lysoedd eraill a neilltuwyd fel safleoedd mabwysiadu cynnar, cyn iddo gael ei gyflwyno ar draws yr holl lysoedd troseddol ar draws Cymru a Lloegr.

Dywedodd Kevin Sadler, Prif Weithredwr Dros Dro Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM:

Bydd y Platfform Cyffredin yn darparu prosesau clyfrach, symlach a mwy cydlynol. Bydd yn ein helpu i ddarparu cyfiawnder troseddol i bawb yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

Mae’n garreg filltir allweddol yn ein Rhaglen Ddiwygio, a fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn lleihau’r gwaith papur ffisegol, gan gynorthwyo i weinyddu cyfiawnder.

Rwy’n falch iawn cael gweld y Platfform Cyffredin yn dechrau cael ei gyflwyno i’r llysoedd, oherwydd rwy’n gwybod y bydd yn darparu manteision inni a’n asiantaethau partner ynghyd â phawb sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol.

Cyhoeddwyd ar 12 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 November 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.