Datganiad i'r wasg

Bydd radar gofod pell newydd yn trawsffurfio diogelwch y DU

Bydd cynllun radar newydd gyda phartneriaid agosaf y DU yn gwella diogelwch y DU drwy allu canfod, olrhain a nodi gwrthrychau’n well yn y gofod pell.

  • Rhaglen galluogrwydd gofod newydd i wella diogelwch byd-eang.
  • Barics Cawdor yng Nghymru wedi’i nodi fel y safle yn y DU sy’n cael ei ffafrio, yn amodol ar Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a chymeradwyaeth cynllunio Tref.
  • Bydd y tri safle radar byd-eang yn weithredol erbyn diwedd y ddegawd.

Bydd rhaglen Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC) – a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddion Amddiffyn Awstralia, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau – yn darparu galluogrwydd 24/7 ym mhob tywydd a fydd yn cynyddu gallu gwledydd AUKUS i nodweddu gwrthrychau ymhell yn y gofod hyd at 22,000 milltir (36,000 cilomedr) oddi wrth y ddaear.

Bydd DARC yn gweld rhwydwaith byd-eang o dri radar daear fydd yn cael eu gweithredu ar y cyd a fydd yn helpu i reoli traffig gofod critigol ac yn cyfrannu at wyliadwriaeth fyd-eang o loerennau yn y gofod pell. Mae lleoliad daearyddol unigryw gwledydd AUKUS yn golygu bod DARC yn gallu darparu darpariaeth fyd-eang, gan gynnwys canfod bygythiadau posibl i systemau gofod sifil neu amddiffyn.

Wrth i’r perygl o ryfela yn y gofod gynyddu, bydd y galluogrwydd pwysig hwn o fudd i rymoedd tir, aer a morol y tair gwlad, yn ogystal â gwarchod seilwaith hanfodol a bod o fudd i’n diwydiannau adeiladu a gofod domestig. 

Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, Grant Shapps:

Wrth i’r byd ddod yn fwy heriol ac wrth i’r perygl o ryfela yn y gofod gynyddu, mae’n rhaid i’r DU a’n cynghreiriaid sicrhau bod gennym y galluogrwydd datblygedig sydd ei angen arnom i gadw ein gwledydd yn ddiogel.

Bydd cyhoeddiad heddiw am rwydwaith radar byd-eang (DARC), sydd wedi’i leoli yn y DU, UDA ac Awstralia, yn gwneud hynny. Grymuso’r DU i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn y gofod pell.

Mae Barics Cawdor yn Sir Benfro wedi cael ei nodi fel y safle sy’n cael ei ffafrio gan y DU ar gyfer DARC. Mae’r penderfyniad lleoli terfynol yn amodol ar ganlyniadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr parhaus a ariennir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r cais Cynllunio Tref dilynol.

Ar hyn o bryd mae Barics Cawdor yn gartref i Gatrawd Signalau Byddin Prydain sydd i fod i adleoli o 2028. Mae cadw’r Safle gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer DARC yn debygol o roi hwb i economi leol Sir Benfro, gan greu cyflogaeth yn ystod y cam adeiladu a darparu hyd at 100 o swyddi tymor hwy.

Ochr yn ochr â manteision amddiffyn DARC, mae hefyd yn gallu monitro a diogelu’r gwasanaethau hanfodol sy’n dibynnu ar loerennau yn y gofod, gan gynnwys agweddau bywyd bob dydd fel cyfathrebu a llywio.

Bydd hyn yn chwarae rhan hollbwysig yng ngallu AUKUS i gadw heddwch ac atal gwrthdaro yn ardal Cefnfor India a’r Môr Tawel a gweddill y byd.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Lluoedd Arfog wedi bod â phresenoldeb sylweddol iawn yng Nghymru ers tro byd, ac mae’r tebygolrwydd y bydd y presenoldeb hwn yn parhau ym Marics Cawdor yn newyddion gwych.

Bydd y prosiect DARC arfaethedig yn darparu swyddi ac yn cryfhau’r economi leol ac yn tanlinellu unwaith eto y rôl hanfodol y mae Cymru’n parhau i’w chwarae yn amddiffyn y DU.

Mae gan y systemau radar newydd hyn sensitifrwydd uwch, gwell cywirdeb, mwy o gapasiti, a thracio mwy ystwyth na radar presennol a systemau optegol sy’n tracio gwrthrychau yn y gofod pell. Bydd hyn yn golygu bod mwy o fonitro byd-eang yn cael ei ddarparu i lywio gweithrediadau amddiffyn y DU, gan osgoi’r cyfyngiadau tywydd garw a golau dydd presennol sy’n nodweddu rhai o’r galluoedd presennol.

Disgwylir y bydd y safle radar DARC cyntaf, sy’n cael ei adeiladu yn Awstralia, yn weithredol yn 2026, gyda phob un o’r tri safle yn weithredol erbyn diwedd y degawd.

Mae rhaglen DARC yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym mis Medi 2023. Bydd DARC yn gwella ein hymwybyddiaeth o’r gofod ar y cyd, sy’n un o amcanion allweddol Strategaeth Gofod Amddiffyn y DU, a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae AUKUS yn bartneriaeth diogelwch ac amddiffyn nodedig rhwng Awstralia, y DU a’r Unol Daleithiau i gefnogi ardal Cefnfor India a’r Môr Tawel rydd ac agored, drwy gryfhau diogelwch byd-eang rhanbarthol. Mae datblygu DARC yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer darparu galluogrwydd diogelwch gwell rhwng y gwledydd partner.

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd Colofn 1 AUKUS yn darparu galluogrwydd tanfor ag arfau confensiynol sy’n cael ei bweru gan ynni niwclear.
  • Bydd Colofn 2 AUKUS yn deirochrog yn darparu galluoedd mewn technolegau milwrol arloesol, yn cynyddu’r gallu i ryngweithredu, ac yn sbarduno rhannu gwybodaeth ac arloesi.
Cyhoeddwyd ar 2 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 December 2023 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.