Stori newyddion

Canolfan Newydd Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd ar gyfer Cymru

Casnewydd fydd cartref pumed Canolfan Gwasanaethau fydd yn darparu cymorth i bobl sy’n defnyddio llysoedd a thribiwnlysoedd.

Caiff Canolfan newydd Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd (Canolfan Gwasanaethau) ei lleoli yn Usk House, Casnewydd, De Cymru. Bydd yn cefnogi dros 100 o swyddi ledled yr ardal. Lleolir y ganolfan ger Llys Ynadon Casnewydd a’r gobaith yw y bydd yn barod o fis Mai 2022. Bydd yn ymuno â’n pedair canolfan weithredol arall ym Mirmingham, Stoke-on-Trent, Loughborough a Salford.

Agorodd y Canolfannau Gwasanaethau cyntaf yn 2019 ac maent yn chwarae rhan allweddol yn gwella mynediad at gyfiawnder. Maent yn bwynt cyswllt cyntaf i aelodau’r cyhoedd a defnyddwyr proffesiynol pan fyddant angen yr wybodaeth ddiweddaraf am eu hachos, ac yn caniatáu i staff llysoedd ganolbwyntio ar wrandawiadau a phobl sy’n mynychu’r llysoedd wyneb yn wyneb. Hefyd, mae Canolfannau Gwasanaethau’n rhoi cymorth gweinyddol ar amrywiaeth o wasanaethau. Er enghraifft, mae Canolfan Gwasanaethau Salford Quays yn cefnogi’r system rheoli achosion troseddol Platfform Cyffredin tra bod Canolfan Gwasanaethau Stoke yn cefnogi ein gwasanaeth Gweithdrefn Un Ynad a’n gwasanaeth Hawliadau am Arian ar-lein y Llys Sifil.

Dywedodd Kevin Sadler, Prif Weithredwr dros dro GLlTEM:

Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi y byddwn yn agor ein pumed Canolfan Gwasanaethau yng Nghymru, bydd y ganolfan yn chwarae rhan enfawr yn ein gallu i roi ymatebion effeithlon ac effeithiol i ymholiadau ddaw gan ddefnyddwyr llysoedd.

Mae ein Canolfannau Gwasanaethau wedi llwyddo i wneud gwaith aruthrol. Maent eisoes wedi ymdrin â dros 1.8m o ymholiadau felly mae’n briodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein gallu i ddarparu’r wybodaeth y mae defnyddwyr llysoedd ei hangen yn gyflym.

Yn ogystal ag ymdrin ag ymholiadau, mae staff hynod fedrus hefyd yn prosesu ceisiadau profiant ac yn rhoi cymorth wrth gynnal gwrandawiadau fideo, ymhlith yr holl wasanaethau amrywiol eraill y mae ein defnyddwyr yn dibynnu arnynt yn ddyddiol.

Mae agor y Ganolfan newydd hon yn rhan o fuddsoddiad £1.3 biliwn GLlTEM i drawsnewid llysoedd a thribiwnlysoedd, gan sicrhau bod cyfiawnder yn fwy hygyrch ac yn cael ei ddarparu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

Cyhoeddwyd ar 24 November 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 November 2021 + show all updates
  1. Added translation