Stori newyddion

New Chief Executive appointed to the Reserve Forces’ and Cadets’ Association for Wales

The Reserve Forces’ and Cadets’ Association for Wales is pleased to announce the appointment of Colonel Dominic Morgan OBE as its new Chief Executive.

Colonel Dominic Morgan

Colonel Dominic Morgan OBE, RFCA for Wales Copyright

Penodi Prif Weithredwr newydd i Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) Mae’r Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) yn falch o gyhoeddi penodiad y Cyrnol Dominic Morgan OBE fel ei Brif Weithredwr newydd.

Bydd y Cyrnol Morgan yn dechrau yn ei swydd ar 1 Gorffennaf 2021, gan gymryd yr awenau gan y Cyrnol Nick Beard TD DL sy’n ymddeol ddiwedd mis Mehefin ar ôl bron i 19 mlynedd ym Marics y Maendy, Caerdydd. Mae’r Cyrnol Dominic Morgan yn ymuno â’r Gymdeithas ar ôl gyrfa ym Myddin Prydain, ac mae ei wasanaeth wedi cynnwys rolau staff amrywiol mewn Brigadau, Adrannau ac ym Mhencadlysoedd y Fyddin ac Amddiffyn. Ei rôl ddiweddaraf oedd fel Attaché Amddiffyn Prydain yn Warsaw. Mae wedi gwasanaethu ar ymgyrchoedd yn Affganistan, yn yr Hen Iwgoslafia ac yn y Deyrnas Unedig.

Mae Dominic, a ddechreuodd ei wasanaeth mewn lifrai fel cadét, yn edrych ymlaen at ei rôl newydd yng Nghymru ac yn falch o’i dreftadaeth filwrol Gymreig. Roedd ei hen daid yn byw yn y Trallwng a gwasanaethodd ym Mrigâd y Reifflwyr yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedd ei daid yn löwr ym Mhwll Glo Maerdy cyn ymrestru â’r Fyddin.

Meddai: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr newydd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at wynebu’r her newydd hon a helpu i wneud gwahaniaeth ym mhob math o agweddau ar waith y Gymdeithas, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd, cymunedau, busnesu a llywodraeth leol ar ran Amddiffyn.”

Meddai’r Brigadydd Russ Wardle OBE DI, Cadeirydd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, “Hoffwn ddiolch o galon i’r Cyrnol Nick Beard ar ran y Bwrdd, aelodau a staff RFCA Cymru am bopeth y mae wedi’i wneud ers bron i 19 mlynedd wrth ddatblygu nodau’r Gymdeithas.

“Mae Nick wedi gwneud gwaith anhygoel ac ar hyd y ffordd mae wedi ennill parch cadlywyddion mewn lifrai ac arweinwyr cymunedol. Dymunaf y gorau iddo a’i deulu yn y dyfodol wrth iddo ymddeol ym mis Mehefin.”

“Wrth i ni ffarwelio â Nick, hoffwn longyfarch Dominic Morgan ar ei benodiad.”

Meddai’r Cyrnol Beard, “Mae wedi bod yn fraint aruthrol arwain sefydliad sydd wedi cyflawni ei gylch gwaith ac wedi gwneud ei orau dros ei gwsmeriaid. Ni allai’r Gymdeithas fod wedi cyflawni cymaint heb staff mor gefnogol a brwdfrydig, boed yn gwasanaethu yn yr Ysgrifenyddiaeth yng Nghaerdydd neu’r Wyddgrug neu fel aelod o’r Staff Cymorth Parhaol yn Lluoedd y Cadetiaid. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm mor ymroddedig. Hoffwn innau longyfarch Dominic ar ei benodiad hefyd a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Bywgraffiad

Dechreuodd y Cyrnol Dominic Morgan OBE ei amser mewn lifrai fel Cadet Byddin Glannau Merswy, troedfilwyr gyda’r Fyddin Diriogaethol a swyddog cadét yn y brifysgol, cyn cael ei gomisiynu fel swyddog rheolaidd gyda’r Corfflu Cludiant Brenhinol ym 1988. Gwasanaethodd am 2 flynedd fel cadlywydd byddin yn yr Almaen, cyn cael ei secondio i Frigâd y Gurkhas yn Hong Kong am 5 mlynedd. Uchafbwynt ei wasanaeth yn Hong Kong oedd cael ei benodi fel Dirprwy Catrodol yng Nghatrawd Cludiant Gurkhas y Frenhines, ac yna am 2 flynedd fel cyfarwyddwr Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Yna aeth ymlaen i reoli sgwadron arloesol yn yr Almaen a chatrawd cludiant wrth gefn yn Lerpwl.

Mae Dominic wedi gwasanaethu mewn rolau staff amrywiol mewn Brigadau, Adrannau ac ym Mhencadlysoedd y Fyddin ac Amddiffyn. Mae wedi gwasanaethu law yn llaw â phartneriaid NATO yn yr Almaen ac yn Affganistan. Mae ei benodiadau staff allweddol yn cynnwys Pennaeth Staff mewn Brigâd Logisteg a Dirprwy Bennaeth Staff mewn pencadlys lefel adrannol, lle bu’n gweithio’n agos gydag unedau a staff Lluoedd wrth Gefn ledled y DU. Ei rôl ddiweddaraf oedd fel Attache Amddiffyn Prydain yn Warsaw, gyda chyfrifoldeb am gysylltiadau milwrol ac amddiffyn dwyochrog Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU gyda Gwlad Pwyl.

Mae Dominic wedi gwasanaethu ar weithrediadau yn Affganistan, yn yr Hen Iwgoslafia ac yn y Deyrnas Unedig. Cafodd OBE ym mis Ionawr 2015 ac mae ganddo radd dosbarth cyntaf mewn Hanes ac Archaeoleg a gradd Meistr mewn Logisteg Amddiffyn.

Mae’n briod gydag un mab a dwy ferch.

Ac i gloi, mae Dominic yn falch o’i dreftadaeth Gymreig. Roedd ei hen daid yn byw yn y Trallwng a gwasanaethodd ym Mrigâd y Reifflwyr yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedd ei daid yn löwr ym Mhwll Glo Maerdy cyn ymrestru â’r Fyddin.

Cyhoeddwyd ar 4 August 2021