Datganiad i'r wasg

Prif Weithredwr newydd wedi ei benodi i Gofrestrfa Tir EM

Mae Simon Hayes wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cofrestrfa Tir EM.

Mae Simon Hayes wedi cael ei benodi heddiw (25 Medi) gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fusnes yr Arglwydd Duncan yn Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir newydd Cofrestrfa Tir EM.

Bydd Simon yn dechrau arwain Cofrestrfa Tir EM yn Nhachwedd 2019. Bydd yn dod â chryn brofiad gydag ef o’r rolau blaenorol a fu ganddo yn y Swyddfa Gartref i arwain Cofrestrfa Tir EM wrth iddi gyflawni ei strategaeth fusnes a bod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata.

Dywedodd y Gweinidog Busnes yr Arglwydd Duncan:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai Simon Hayes yw Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir newydd Cofrestrfa Tir EM. Mae Simon yn dod â chyfoeth o brofiad gydag ef o’r rolau blaenorol a fu ganddo yn y Swyddfa Gartref a bydd yn sicrhau bod y sefydliad yn parhau i drawsnewid i fod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd, gan ddarparu gwasanaeth digidol o’r radd flaenaf i’w chwsmeriaid.

Hoffwn i ddiolch i Mike Harlow hefyd am ei holl waith fel Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro er mis Ionawr.

Dywedodd Simon Hayes:

Rwy’n falch iawn i gael fy mhenodi i’r rôl hon ar adeg mor gyffrous a phwysig i Gofrestrfa Tir EM. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phawb yn y sefydliad wrth inni barhau â’n taith drawsnewid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, a buddion ar gyfer pob un o’n partneriaid.

Bywgraffiad Simon Hayes

Mae Simon Hayes yn Gyfarwyddwr Fisâu a Dinasyddiaeth, Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Mae UKVI yn rhan o’r Swyddfa Gartref ac yn gyfrifol am reoli systemau ffiniau a mewnfudo y Deyrnas Unedig. Fel Cyfarwyddwr Fisâu a Dinasyddiaeth, mae cyfrifoldebau Simon yn cynnwys goruchwylio’r holl lwybrau ymwelwyr, twristiaid, gwaith, astudio a dinasyddiaeth, yn ogystal â’r system nawdd mewnfudo.

Ymunodd Simon â’r Swyddfa Gartref ym 1997. Mae wedi cael nifer o swyddi ar draws yr heddlu, cyfiawnder troseddol a pholisi mewnfudo, a threuliodd dwy flynedd fel Ysgrifennydd Preifat i’r Dirprwy Ysgrifennydd Cartref (erbyn hyn yr Arglwydd) Paul Boateng. O 2005 i 2008, gwasanaethodd fel Pennaeth Staff i Brif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ffiniau’r DU. Yn 2008 cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf Asiantaeth Ffiniau’r DU ar gyfer Cyfandiroedd America yn Washington DC. Dychwelodd i’r Deyrnas Unedig yn 2012 a’i benodi’n Gyfarwyddwr Rhyngwladol UKVI gyda chyfrifoldeb am weithrediadau fisâu dramor, ein rhwydwaith byd-eang o ganolfannau ceisiadau a gwneud penderfyniadau fisâu, a’n partneriaethau mewnfudo rhyngwladol, cyn ymgymryd â’i rôl bresennol yn 2014.

Nodiadau ar gyfer golygyddion

  • Mae Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Cofrestrfa Tir EM yn benodiad cyhoeddus sy’n cael ei wneud gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’n dilyn cystadleuaeth agored
  • Cafodd y penodiad ei wneud o dan y senedd flaenorol gan yr Arglwydd Henley yn ei rôl fel yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes gyda chyfrifoldeb am Gofrestrfa Tir EM. Yr Arglwydd Duncan sy’n ymgymryd â’r rôl ar hyn o bryd
  • Bydd Simon yn dechrau yn ei swydd ar 11 Tachwedd 2019. Mae’n cymryd lle Mike Harlow a fu’n Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro er Ionawr 2019
  • Mae Simon Hayes yn Gyfarwyddwr Fisâu a Dinasyddiaeth, Fisâu a Dinasyddiaeth y DU (UKVI) ar hyn o bryd sy’n rhan o’r Swyddfa Gartref
  • Cenhadaeth Cofrestrfa Tir EM yw gwarantu a diogelu hawliau eiddo yng Nghymru a Lloegr
  • Mae Cofrestrfa Tir EM yn adran anweinidogol o’r llywodraeth a grëwyd ym 1862. Mae’r ffïoedd a delir gan ddefnyddwyr ei gwasanaethau yn talu am ei chostau gweithredu. Ei huchelgais yw bod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata
  • Mae Cofrestrfa Tir EM yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo sy’n werth £7 triliwn, gan gynnig modd i fwy nag £1 triliwn o fenthyca personol a masnachol gael eu gwarantu yn erbyn eiddo ar draws Cymru a Lloegr
  • Darllenwch ragor o wybodaeth am Gofrestrfa Tir EM
Cyhoeddwyd ar 25 September 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 October 2019 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.