Stori newyddion

Gwasanaethau Asiantaethau Gorfodi Cymeradwy Newydd wedi cychwyn yng Nghymru

Darparwyr gwasanaethau newydd wedi dechrau gweithio yng Nghymru o’r 1af o Ebrill 2021.

Yn dilyn y darparwyr newydd ar gyfer gwasanaethau Asiantaethau Gorfodi Cymeradwy (AEA) yn dechrau gweithio i GLlTEM ym mis Medi 2020 yn Lloegr, dechreuodd darparwyr gwasanaethau newydd weithio yng Nghymru ar y 1af o Ebrill 2021.

Bydd y darparwr newydd, Jacobs, yn rheoli’r holl Warantau Rheolaeth a Gwarantau Arestio yng nghyswllt gorfodi cosbau ariannol troseddol yng Nghymru.

Bydd y contractau newydd yn arbed oddeutu £4 miliwn y flwyddyn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y pum mlynedd nesaf a bydd yn darparu gwasanaeth cyson ac effeithlon. Bydd prosesau cadarn ar gyfer monitro ac adrodd ar berfformiad yn cael eu gweithredu ac mae protocolau ar gyfer ymddygiad, ymdrin â chwynion ac ymdrin â diffynyddion bregus wedi’u sefydlu, yn unol â safonau GLlTEM.

Rhanbath O’r 1af o Fedi 2020 O’r 1af o Ebrill 2021
Llundain CDER Group  
Canolbarth Lloegr CDER Group  
Gogledd Ddwyrain Lloegr Marston Holdings Ltd  
Gogledd Orllewin Lloegr Marston Holdings Ltd  
De Ddwyrain Lloegr CDER Group  
De Orllewin Lloegr Marston Holdings Ltd  
Cymru   Jacobs
Darparwr Eilradd A (Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr a Chymru) CDER Group  
Darparwr Eilradd B (Llundain, Canolbarth Lloegr a De Ddwyrain Lloegr) Marston Holdings Ltd  
Cyhoeddwyd ar 3 June 2021