Datganiad i'r wasg

Cronfa £11M newydd yn agor i gefnogi swyddi, twf a buddsoddi ym Mhort Talbot

Mae'r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi newydd a agorwyd wedi'i dylunio i gefnogi cwmnïau sy'n cynnig cyfleoedd gwaith medrus, gyda chyflog da a'u helpu i dyfu.

A new £11 million fund is now open for business applications in Port Talbot and the wider area.

Gall busnesau ym Mhort Talbot a’r ardal gyfagos bellach wneud cais i gronfa £11.78 miliwn newydd i greu swyddi o ansawdd uchel a denu buddsoddiad hirdymor. 

Mae’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi newydd a agorwyd wedi’i dylunio i gefnogi cwmnïau sy’n cynnig cyfleoedd gwaith medrus, gyda chyflog da a’u helpu i dyfu.

Mae’r gronfa yn cynnwys £6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a £5 miliwn gan Tata Steel UK a bydd yn cyfannu gwaith Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gryfhau’r economi leol.

Mae’r cyllid hwn y diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, o dan gadeiryddiaeth Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau Cymru a’r DU, awdurdodau lleol, undebau a busnesau. Cafodd ei sefydlu i amddiffyn swyddi a’r economi leol yn ystod cyfnod pontio parhaus Tata Steel i waith dur gwyrddach yn y dref.

Ers Awst 2024, mae’r Bwrdd Pontio bellach wedi dyrannu £122 miliwn - £102 miliwn gan Lywodraeth y DU ac £20 miliwn gan Tata Steel - i gronfeydd gwahanol sy’n darparu hyfforddiant sgiliau i gyn-weithwyr, cefnogaeth i fusnesau a’r gadwyn gyflenwi a phrosiectau adfywio wrth i  Tata Steel ymgymryd â’r gwaith pontio i waith dur arc trydan.

Hyd yma, mae cronfeydd y Bwrdd Pontio wedi cynnig:

  • Cefnogaeth ariannol i greu 85 o swyddi newydd yn defnyddio grantiau ar gyfer offer drwy’r Gronfa Egin Fusnes.
  • Grantiau i 59 cwmni yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel DU o Gronfa Pontio’r Gadwyn Gyflenwi.
  • Grantiau i 141 busnes yn yr ardal leol o’r Cronfeydd Gwydnwch a Thwf Busnes. 
  • Miloedd o gyrsiau hyfforddiant i unigolion yr effeithir arnynt gan bontio Tata Steel.

Mae darpariaeth gyflym y cyllid gan Lywodraeth y DU wedi helpu i sicrhau na fu unrhyw gynnydd yn y nifer sy’n derbyn budd-daliadau diweithdra yn rhanbarth Port Talbot ers i’r broses bontio Tata Steel ddechrau.   

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: 

Mae’r gronfa newydd hon yn enghraifft bwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni pan mae’r llywodraeth a busnes yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ar gyfer cymunedau.  Gyda chefnogaeth dros £11.7 miliwn, bydd yn helpu busnesau lleol i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel a denu mwy o fuddsoddiad newydd i Bort Talbot.

Fel llywodraeth, rydym wedi cymryd camau pendant i sicrhau y byddai gwaith dur yn parhau ym Mhort Talbot a hefyd i ddarparu cefnogaeth ariannol sylweddol i weithwyr dur, busnesau’r gadwyn gyflenwi a’r gymuned ehangach.    

Hyd yma, dyrannwyd £122 miliwn gan Fwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot gan arwain at ddosbarthu miloedd o grantiau yn lleol ar gyfer ailhyfforddi, buddsoddiad busnes a phrosiectau adfywio. 

Dywedasom y byddem yn cefnogi gweithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a busnesau sy’n ddibynnol ar Tata Steel ac rydym wedi cyflawni’r addewid honno.

Dywedodd Prif Weithredwr Tata Steel UK, Rajesh Nair:

Mae cyfraniad Tata Steel UK i’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi newydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad hirdymor ardal Port Talbot wrth i ni newid i waith dur gwyrddach. Bydd y gronfa newydd hon yn helpu i annog busnesau i ddod i’r ardal, tyfu, arloesi a chreu swyddi lleol o ansawdd uchel. 

Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â’n partneriaid ar draws y llywodraeth ac awdurdodau lleol i gryfhau ac amrywio’r economi leol, cefnogi datblygu sgiliau a denu’r buddsoddiad hirdymor fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Bort Talbot a’i chymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

Bydd y Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiwydiant lleol wrth i ni arallgyfeirio a phontio ein heconomi tuag at sectorau a chyfleoedd newydd.

Mae’r cronfeydd a lansiwyd eisoes gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot wedi cael effaith mawr a bydd ein tîm Datblygiad Economaidd eto’n darparu cefnogaeth a chyngor i bartion â diddordeb.

Ar ôl llwyddo i ddyrannu grantiau i gannoedd o fusnesau ac unigolion, mae’r Gronfa Gwydnwch Busnes, Cronfa’r Gadwyn Gyflenwi a’r Gronfa Twf Busnes bron wedi ymrwymo ac yn oedi ar gyfer ymholiadau newydd ar hyn o bryd tra mae ceisiadau’n cael eu hadolygu.   Bydd pob unigolyn a busnes a ddyrannwyd grant iddynt hyd yma yn ei dderbyn.

Yn ogystal â’r Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi newydd a agorwyd, mae’r Gronfa Sgiliau a Chyflogadwyedd i bobl sy’n chwilio am swyddi newydd a hyfforddiant a’r Gronfa Cychwyn Busnes i bobl sy’n ceisio cefnogaeth i sefydlu eu busnes eu hunain yn parhau’n agored ar gyfer ceisiadau.  

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £2.5 biliwn o fuddsoddiad i ailadeiladu diwydiant dur y DU am ddegawdau i ddod wrth iddo ddatgarboneiddio.

Mae hyn yn ogystal â’r £500 miliwn a ddyrannwyd i Tata Steel ym Mhort Talbot ar gyfer ffwrnais arc trydan, sydd bellach yn cael ei hadeiladu.

I wneud ymholiadau am y Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi newydd, ewch i’r wefan ceisiadau yn Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel - Cyngor Castell-nedd Port Talbot neu cysylltwch gyda  tsukgrantqueries@npt.gov.uk.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2026