Skip to main content
Stori newyddion

Cyfnod Neil Sachdev fel Cadeirydd Cofrestrfa Tir EF wedi ei estyn

Bydd Neil Sachdev yn parhau yn y rôl tan Fedi 2030.

Mae’r Farwnes Taylor OBE, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi estyn cyfnod Neil Sachdev fel Cadeirydd Cofrestrfa Tir EF am bedair blynedd arall. Mae’r estyniad yn sicrhau parhad arweinyddiaeth brofiadol ar gyfer Bwrdd Cofrestrfa Tir EF.

Dywedodd Neil Sachdev MBE, Cadeirydd Cofrestrfa Tir EF:

Rwyf wrth fy modd ac yn falch o fod yn parhau yn fy rôl fel Cadeirydd Cofrestrfa Tir EF a chefnogi’r sefydliad a’r Bwrdd wrth barhau i gyflawni ein Strategaeth 2025+ a gyhoeddwyd y llynedd.

Mae ein rôl bellach yn bwysicach nag erioed wrth inni chwarae rhan allweddol wrth gefnogi uchelgeisiau’r llywodraeth a galluogi marchnad eiddo well, cyflymach sy’n arwain at lai o straen i bawb. Ein gwerthoedd yw cael uniondeb, hybu arloesedd, bod yn broffesiynol a rhoi sicrwydd. Ers cael fy mhenodi yn 2022, rwyf wedi gweld sut mae’r gwerthoedd hyn wedi llywio’r ffordd rydym yn canolbwyntio ar wasanaethu ein cwsmeriaid, galluogi data dibynadwy, cefnogi buddsoddiad a helpu cymunedau i dyfu.

Rwyf wedi bod wrth fy modd ag ymdrech benderfynol ein 7,000+ o gydweithwyr arbenigol i wella ein gwasanaeth a’u parodrwydd i ymgysylltu’n wirioneddol â’n cwsmeriaid a rhoi eu hanghenion yn gyntaf. Mae eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb wedi bod yn ganolog i’r cynnydd cryf a gweladwy a wnaed. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’m rôl gyda thîm mor ymroddedig, gan wynebu heriau heddiw a chyfleoedd yfory.

Dywedodd Iain Banfield, Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Cofrestrfa Tir EF:

Mae Neil wedi dod â chyfoeth o brofiad arweinyddiaeth, mewnwelediad, craffter busnes a her adeiladol i Gofrestrfa Tir EF. Mae estyn ei benodiad i 2030 yn gam pwysig i’n sefydliad, ac un sydd i’w chroesawu, ac mae’n darparu parhad a sefydlogrwydd wrth inni barhau i gyflawni ein Strategaeth 2025+ a llywio cyfnod o newid a thrawsnewid sefydliadol sylweddol.

Mae Neil yn angerddol am ein pwrpas cyhoeddus, wedi ymrwymo i wella’r gwasanaeth i’n cwsmeriaid, ac yn hyrwyddwr cryf dros greu amgylchedd lle gall ein pobl ffynnu a chyflawni eu gwaith gorau. Rwy’n gwybod y bydd ei arweinyddiaeth a’i gefnogaeth yn ein helpu i’n tywys trwy’r cam nesaf hwn yn ein hanes, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gryfhau’r cynnydd sylweddol a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sicrhau’r canlyniadau gorau i’n cwsmeriaid, a gweithio ar y cyd ar draws llywodraeth a’r diwydiant i wella’r farchnad eiddo i bawb.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Medi 2026