Datganiad i'r wasg

Yr amgen am gyflymder yn arwain at hwb o £9 biliwn i fand eang cyflym iawn

Yng Nghymru, mae’r lefel cyrhaeddiad cyfredol yn 94.7%, gyda 700,364 o gartrefi a busnesau Cymru’n awr yn gallu cael gwasanaeth band eang cyflym iawn o ganlyniad i ddarpariaeth y Llywodraeth gwerth £9 biliwn

  • Mae ymchwil newydd yn dangos cynnydd o £9 biliwn i fusnesau lleol, sydd wedi arwain at hwb pwysig i economi’r DU a chreu swyddi newydd
  • Mae darpariaeth band eang cyflym iawn y Llywodraeth bellach wedi cyrraedd bron i 5 miliwn o gartrefi a busnesau a fyddai wedi bod hebddo fel arall
  • Bydd cyflenwyr yn awr yn dychwelyd mwy na hanner biliwn o bunnoedd i’w ail-fuddsoddi er mwyn ei gyflwyno yng ngweddill y DU, o ganlyniad i’r gyfradd fanteisio uchel
  • Yng Nghymru, mae’r lefel cyrhaeddiad cyfredol yn 94.7%, gyda 700,364 o gartrefi a busnesau Cymru’n awr yn gallu cael gwasanaeth band eang cyflym iawn o ganlyniad i ddarpariaeth y Llywodraeth
  • Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cyfradd fanteisio ar fand eang cyflym iawn o 42.51% yn yr ardaloedd y mae darpariaeth y Llywodraeth yng Nghymru’n eu cyrraedd

Mae busnesau lleol mewn ardaloedd sy’n dod o fewn darpariaeth y Llywodraeth o fand eang cyflym iawn wedi gweld cynnydd gyda’i gilydd o £9 biliwn yn eu trosiant ers yr hwb i gyflymder eu band eang, yn ôl ffigurau newydd.

Mae “The Evaluation of the Economic Impact and Public Value of the Superfast Broadband Programme” yn asesiad annibynnol o effaith y ddarpariaeth yn ystod ei blynyddoedd cyntaf (2012-2016). Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys: * Hwb o £9 biliwn mewn trosiant i fusnesau sy’n elwa ar y cysylltiadau cyflymach sydd ar gael yn awr * Cynnydd net o £690 miliwn yn y Gwerth Ychwanegol Gros i economi’r DU * Gostyngiad o bron i 9000 o unigolion sy’n hawlio lwfans ceisio gwaith, yn ogystal â gostyngiad o 2,500 yn nifer yr hawlwyr tymor hir yn ardaloedd y rhaglen, ynghyd â chreu 49,000 o swyddi lleol * Mae’r rhaglen wedi cyflawni £12.28 o fudd i fusnesau am bob £1 a fuddsoddwyd gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol *Mae awgrym cryf bod y niferoedd uchel sydd wedi manteisio ar raglen band eang cyflym iawn y Llywodraeth wedi annog y diwydiant telathrebu i ehangu eu prosiectau band eang masnachol eu hunain.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid i gyflymu’r gwasanaeth i filoedd o breswylwyr a busnesau ledled Cymru. Er ei bod yn gallu bod yn her yn aml i gyrraedd rhannau mwyaf gwledig y wlad, mae ffigurau heddiw’n dangos cynnydd gwirioneddol yng nghyrhaeddiad y gwasanaeth a fydd, ynghyd â’r Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol erbyn 2020 yn sicrhau y bydd preswylwyr yn gallu disgwyl yn gyfreithiol isafswm gwasanaeth gan eu darparwr, lle bynnag yng Nghymru maent yn byw.

Trwy wneud yn siŵr bod gan bawb fynediad at fand eang dibynadwy a chyflym nid yn unig y gallwn helpu ein cymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru, ond gallwn hefyd roi hwb i’r sector digidol sy’n tyfu mor gyflym, sy’n prysur ddod yn rhan ganolog o economi Cymru.

Meddai’r Gweinidog dros faterion Digidol, Margot James:

Cyflwyno band eang cyflym iawn i bob rhan o’r DU oedd y prosiect seilwaith mwyaf anodd mewn cenhedlaeth, ond mae hefyd yn un o’r llwyddiannau mwyaf. Rydym yn cyrraedd miloedd yn fwy o gartrefi a busnesau bob wythnos, sy’n awr yn gallu gweld y buddiannau real a phendant sy’n dod yn sgil band eang cyflym iawn. Rydym yn helpu i gau’r gagendor digidol.

Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw hefyd yn dangos bod gan tua 5 miliwn o gartrefi a busnesau a fyddai’n gorfod byw â band eang araf bellach fynediad at fand eang cyflym iawn. Mae cynllun y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn i’r ardaloedd hynny a oedd yn cael eu cyfrif fel rhai ‘nad oedd yn hyfyw’n fasnachol’ wedi helpu i godi’r gyfradd dderbyn i 95.39%.

Mae’r niferoedd sy’n manteisio ar y dechnoleg newydd yn yr ardaloedd sy’n elwa ar raglen y Llywodraeth bellach wedi cyrraedd 45% - sy’n fwy na dwbl y gyfran a ddisgwylid. O ganlyniad i’r contractau a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth, bydd y cwmnïau hynny sy’n cyflwyno band eang cyflym iawn yn awr yn dychwelyd mwy na £500 miliwn mewn cymorthdaliadau i’r coffrau cyhoeddus i gael ei ddefnyddio i gyrraedd y mannau hynny nad ydynt eto wedi’u cynnwys yn y cynlluniau presennol.

Amcangyfrifir y bydd mwy na 1 miliwn o gartrefi a busnesau ychwanegol yn y DU yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn, sy’n golygu y bydd band eang cyflym iawn ar gael i 98% o’r wlad mewn ychydig flynyddoedd.

Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol a fydd yn golygu bod gan bawb yn y DU fynediad at fand eang cyflym a fforddiadwy erbyn 2020, ac mae wedi cyhoeddi cynlluniau’n ddiweddar i ddarparu cysylltedd gigabeit (1000Mbps) cenedlaethol erbyn 2033 fel rhan o’i strategaeth ddiwydiannol fodern.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Openreach Clive Selley:

Mae’n wych gweld busnesau ym mhob rhan o’r DU yn elwa ar fand eang cyflymach ac rwyf yn ymfalchïo yn y rôl flaenllaw a fu gan Openreach i helpu i gyflawni rhaglen y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn - un o gyflawniadau peirianyddol mawr Prydain. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi cyflwyno cyfres o brisiau cyfanwerthu is i helpu i annog mwy i fanteisio ar wasanaethau ffibr cyflymach a fydd yn helpu i roi hwb i economi’r DU.

Mae rhaglen y Llywodraeth i gyflwyno technoleg gyflym iawn yn rhan bwysig o’r gwaith trawsnewidiol digidol sydd â’r nod o’i gwneud yn gyflymach a haws i ddinasyddion i ryngweithio â’r Llywodraeth ar-lein.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 20 August 2018