Datganiad i'r wasg

Modurwyr yn derbyn miliynau o bunnoedd mewn ad-daliadau awtomatig am dreth cerbyd

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy na 5 miliwn o fodurwyr wedi derbyn ad-daliadau awtomatig am dreth cerbyd ar ôl gwerthu eu ceir, sy’n gyfanswm o dros £360 miliwn.

Image of mobile phone, car and motorcycle

Pan rydych yn dweud wrth DVLA eich bod wedi gwerthu eich car, rydych yn gymwys am ad-daliad o dreth cerbyd am unrhyw fisoedd sy’n weddill.

Er mai rhoi gwybod ar-lein bod cerbyd wedi’i werthu yw’r ffordd fwyaf cyflym a haws, mae’r ffigyrau diweddaraf wrth DVLA yn dangos nad yw dros 60% yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn golygu y maent yn aros yn hirach am eu had-daliad.

Ychydig o funudau’n unig y mae’r gwasanaeth ar-lein yn cymryd i’w gwblhau, bydd y gwerthwr yn derbyn cadarnhad ar unwaith nad ydynt yn geidwad cerbyd mwyach a bydd yr ad-daliad yn cyrraedd o fewn 3 i 5 niwrnod gwaith. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y fideo canlynol.

Tell DVLA about a sale of a vehicle online.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau’r DVLA Rohan Gye:

Tra bod gan rhai o’n gwasanaethau digidol dros 90% o ddefnydd ar-lein, mae dal miliynau o fodurwyr sy’n rhoi gwybod i ni eu bod wedi gwerthu eu cerbyd drwy’r post. Mae hyn yn golygu eu bod yn gorfod aros yn hirach am eu had-daliad awtomatig o unrhyw dreth sy’n weddill. Fy nghyngor i yw y tro nesaf rydych yn gwerthu eich car - dywedwch wrthym ar-lein.

Gall modurwyr hefyd fynd ar-lein i roi rhif cofrestru ar gerbyd neu i gymryd un oddi ar gerbyd - mae’r gwasanaeth yn profi i fod yn boblogaidd gyda’r mwyafrif (mwy na 85%) yn dewis y ffordd ar-lein yn lle postio’r gwaith papur i DVLA.

Nodiadau i’r golygyddion

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael ar GOV.UK saith niwrnod yr wythnos rhwng 7am a 7pm.

Ers iddo gael ei lansio, mae’r gwasanaeth wedi cael ei ddefnyddio dros 12 miliwn o weithiau.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Chwefror 2018 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.