Stori newyddion

Newid rheolau MOT: 20 Mai 2018

Bydd y prawf MOT yn newid ar 20 Mai 2018, gyda mathau newydd o ddiffygion, rheolau llymach ar gyfer allyriadau diesel, a rhai cerbydau dros 40 blwydd oed yn eithriedig.

MOT testing sign

Newidir y ffordd mae’r prawf MOT yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban o ddydd Sul 20 Mai 2018.

Mae’r prawf MOT yn gweithio’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y newidiadau’n effeithio ar geir, faniau, beiciau modur a cherbydau ysgafn eraill i deithwyr.

Mae 5 prif newid mae angen i chi wybod amdanynt.

1. Bydd diffygion yn cael eu categoreiddio’n wahanol

Bydd diffygion a ddaw’n amlwg yn ystod yr MOT yn cael eu categoreiddio fel rhai:

  • peryglus
  • o bwys
  • mân

Bydd y categori a roddir gan yr arholwr MOT i bob eitem yn dibynnu ar fath a difrifoldeb y broblem.

Bydd arholwyr MOT yn cynnig cyngor ar eitemau sydd angen i chi eu monitro. Gelwir y rhain yn ‘gynghorion’.

Beth mae’r categorïau newydd yn golygu

Canlyniad yr eitem Beth mae’n golygu ynghylch yr eitem Sut mae’n effeithio ar ganlyniad eich MOT
Peryglus Mae yma risg uniongyrchol, ddi-oed i ddiogelwch y ffordd neu gall gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd.

Peidiwch â gyrru’r cerbyd nes iddo gael ei drwsio.
Methu
O bwys Gall effeithio ar ddiogelwch y cerbyd, gall gyflwyno risg i eraill sy’n defnyddio’r ffordd neu effeithio ar yr amgylchedd.

Rhaid ei drwsio ar unwaith.
Methu
Mân Dim effaith arwyddocaol ar ddiogelwch y cerbyd nac effaith ar yr amgylchedd.

Rhaid ei drwsio cyn gynted â phosibl.
Pasio
Cyngor Gallai fod yn fwy difrifol yn y dyfodol.

Rhaid ei fonitro a’i drwsio os oes angen.
Pasio
Pasio Mae’n cwrdd â’r safon cyfreithiol isaf.

Sicrhewch ei fod yn parhau i gwrdd â’r safon.
Pasio

2. Rheolau llymach ar gyfer allyriadau ceir diesel

Diesel exhaust

Bydd terfynau llymach ar gyfer allyriadau o geir diesel â hidlydd gronynnol diesel (DPF).

Mae DPF yn dal ac yn storio huddygl y bibell wagio er mwyn lleihau allyriadau o geir diesel.

Gwiriwch yn llawlyfr eich car os nad ydych yn gwybod os oes gan eich car DPF.

Bydd eich cerbyd yn cael diffyg o bwys os yw’r arholwr MOT:

  • yn gweld mwg o unrhyw liw o’r bibell wagio
  • yn canfod tystiolaeth bod rhywun wedi ymyrryd â’r DPF

3. Caiff ambell beth newydd eu cynnwys yn yr MOT

Daytime running lights on a car

Bydd goleuadau a defnyddir yn ystod y dydd yn cael eu gwirio ar gerbydau a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf ar ôl 1 Mawrth 2018.

Caiff rhai pethau newydd eu profi yn ystod yr MOT.

Maent yn cynnwys gwirio:

  • os yw’n amlwg bod y teiars heb eu llenwi’n ddigonol â gwynt
  • os yw hylif y brêc yn llygredig
  • os oes hylifau’n gollwng sydd yn cyflwyno risg amgylcheddol
  • goleuadau rhybuddio padiau brêc ac os yw padiau neu ddisgiau brêc ar goll
  • goleuadau bacio ar gerbydau ddefnyddiwyd gyntaf o1 Medi 2009
  • golchwyr y prif olau ar gerbydau ddefnyddiwyd gyntaf o 1 Medi 2009 (os oes yna rai)
  • goleuadau a defnyddir yn ystod y dydd ar gerbydau ddefnyddiwyd gyntaf o 1 Mawrth 2018 (caiff y rhan fwyaf o’r cerbydau hyn eu MOT cyntaf yn 2021 pan fyddant yn 3 blwydd oed)

Bydd newidiadau mân eraill i’r ffordd y caiff rhai eitemau’n eu gwirio. Gall eich canolfan MOT ddweud wrthych am y rhain.

4. Bydd y dystysgrif MOT yn newid

Current and new MOT certificate design

Bydd y dystysgrif MOT gyfredol (chwith) yn newid i arddull newydd (y dde) i restru’r mathau newydd o ddiffygion.

Bydd cynllun y dystysgrif MOT yn newid.

Bydd yn rhestru unrhyw ddiffygion dan y categorïau newydd, fel eu bod yn glir a hawdd eu deall.

Caiff y gwasanaeth i wirio hanes MOT cerbyd ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau.

5. Bydd rhai cerbydau dros 40 blwydd oed ddim angen MOT

Headlight of a classic car

Ni fydd angen MOT ar geir, faniau, beiciau modur a cherbydau ysgafn eraill i deithwyr os ydynt dros 40 blwydd oed a heb eu newid yn sylweddol (PDF, 62.8KB).

Ar hyn o bryd, dim ond cerbydau a adeiladwyd gyntaf cyn 1960 sydd wedi eu heithrio o’r angen am MOT.

When the rules change on 20 May 2018, vehicles won’t need an MOT from the 40th anniversary of when they were registered. Medrwch wirio dyddiad cofrestru’r cerbyd ar-lein.

Enghraifft
Os cafodd cerbyd ei gofrestru am y tro cyntaf ar 31 Mai 1978, ni fydd angen MOT arno o 31 Mai 2018.

You won’t have to apply to stop getting an MOT for your vehicle.

Fodd bynnag, bob tro rydych yn trethu’ch cerbyd hanesyddol (hyd yn oed os nad ydych yn tal ffi), rhaid i chi ddatgan ei fod yn bodloni’r rheolau ynghylch peidio bod angen MOT.

Gwybodaeth bellach

Ni fydd y ffioedd uchaf gall canolfannau MOT godi yn newid.

Ym mis Ionawr 2018, penderfynodd y llywodraeth gadw i 3 blynedd yr oedran pan fydd angen ei MOT cyntaf ar gerbyd, yn hytrach na’i ymestyn i 4 blynedd.

Medrwch gael atgoffeb am ddim ynghylch MOT trwy neges destun neu e-bost mis cyn bod angen eich prawf MOT.

Medrwch gael dirwy hyd at £1,000 am yrru cerbyd heb MOT dilys.

Cyhoeddwyd ar 20 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 May 2018 + show all updates
  1. Added a link to the eligibility criteria for historic vehicles to be exempt from needing an MOT.

  2. Added a link to samples of the new MOT certificate design.

  3. Added Welsh translation.

  4. Added translation