Y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn creu arbedion Calan Gaeaf hudolus i fwy na 600,000 o deuluoedd
Mae teuluoedd sy’n gweithio yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn arbed arian ar eu costau gofal plant
-
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 601,620 o deuluoedd wedi arbed hyd at £2,000 y flwyddyn gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
-
Mae rhieni sy’n gweithio yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn arbed ar gostau gofal plant y Calan Gaeaf hwn.
-
Mwy na £55 miliwn o arian y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at gyfrifon Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ym mis Mehefin.
Gyda’r gwyliau ysgol arswydus ar y gorwel, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog teuluoedd i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth; gan ddatgan bod mwy na 600,000 o deuluoedd eisoes wedi llwyddo i hudo arbedion a thorri eu costau gofal plant.
Mae’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda’u costau gofal plant, gan arbed hyd at £2,000 y flwyddyn iddynt ar gyfer pob plentyn hyd at 11 oed, neu £4,000 y flwyddyn hyd at 16 oed os yw’n blentyn anabl.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 601,620 o deuluoedd (yng Nghymru) wedi cael cyfran o £55.7 miliwn mewn taliadau atodol gan y llywodraeth ym mis Mehefin. Ar gyfartaledd, ychwanegwyd £93 at gronfa cynilo Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth pob teulu. Am bob £8 sy’n cael ei roi gan rieni yng nghyfrif eu plentyn, mae’r llywodraeth yn ychwanegu £2.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Y Calan Gaeaf hwn, does dim angen i dalu am ofal plant tra rydych yn gweithio fod yn destun braw i’ch cyfrif banc. Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wneud gwahaniaeth go iawn. Ewch i GOV.UK heddiw i gael rhagor o wybodaeth.
Wrth gofrestru heddiw ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth gall teuluoedd arbed ar gynlluniau gofal plant yr hanner tymor Calan Gaeaf hwn, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Gall rhieni gael hyd at £500 (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) bob 3 mis tuag at eu costau gofal plant. Gellir defnyddio’r arbedion i dalu am ba bynnag ofal plant cymeradwy sy’n addas i anghenion y teulu – meithrinfa ar gyfer plant iau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, neu glybiau gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol.
Unwaith y bydd teuluoedd wedi agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gallant dalu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gallwch godi unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio o’r cyfrif, ar unrhyw adeg.
Gall teuluoedd fod yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae ganddyn nhw blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maen nhw’n stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes ganddynt blentyn anabl, maen nhw’n cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed
-
mae’r rhiant a’i bartner (os oes un ganddo) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
-
nid ydyn nhw’n ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un
-
nid ydyn nhw’n cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant
Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra llawn i’w chael ar GOV.UK.
Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant sy’n rhad ac am ddim, yn amodol ar gymhwystra.
Rhagor o Wybodaeth
Cafodd yr ystadegau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ddiweddaraf gyda data hyd at fis Mehefin 2026 eu rhyddhau ar Dydd Mercher, 26 Awst 2026.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a sut i gofrestru.
Mae’n rhaid i bob plentyn cymwys fod â chyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ei hun. Os oes gan deuluoedd fwy nag un plentyn cymwys, bydd angen iddynt gofrestru i gael cyfrif ar gyfer pob plentyn. Yna, bydd y taliad atodol gan y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at y taliadau a wnaed ar gyfer pob plentyn, ac nid ar gyfer yr aelwyd.
Mae’n rhaid i ddeiliaid cyfrifon gadarnhau bod eu manylion yn gyfredol bob 3 mis er mwyn parhau i gael y taliad atodol gan y llywodraeth.
Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.