Datganiad i'r wasg

Mwy na 100,000 yn hawlio arian yn y Llys Sifil Ar-lein

Cyflwynwyd mwy na 100,000 hawliad am arian yn y llys sifil mewn 18 mis drwy gyfrwng system ar-lein Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Woman sitting on sofa using laptop with cup in hand.
  • proses ar-lein sy’n cymryd deng munud
  • 88% o’r defnyddwyr yn fodlon ar y gwasanaeth ar-lein
  • cyflwyno hawliadau mewn ychydig funudau yn hytrach na dyddiau

Mae’r gwasanaeth digidol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2018, yn caniatáu i bobl y mae symiau o hyd at £10,000 yn ddyledus iddynt ddatrys eu hanghydfod yn gyfan gwbl ar-lein. Gan hynny gellir cyflwyno hawliad, ymateb i’r hawliad a’i setlo heb fod angen i drydydd parti fod yn rhan o’r broses.

Amcan y gwasanaeth yw ei gwneud hi’n symlach ac yn haws i bobl hawlio, drwy ganiatáu iddynt wneud hynny yn eu cartref a chael gwared ar iaith gyfreithiol gymhleth o’r cais ar-lein. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cymryd llai na chwarter awr i lenwi’r ffurflen gychwynnol.

Mae bron i 9 allan o bob 10 sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth wedi bod yn fodlon neu’n fodlon iawn arno, gyda hawliadau yn awr yn cael eu cyflwyno mewn ychydig ddyddiau yn hytrach na dyddiau. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i ddatrys anghydfod ac yn rhoi grym yn ôl yn nwylo defnyddwyr, a dylai hynny gynorthwyo i annog ymddygiad gonestach ymysg masnachwyr fel y bydd llai o bobl yn colli arian.

Meddai Chris Philp AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder:

Mae’r gwasanaeth hawlio arian yn y llys sifil ar-lein yn galluogi miloedd o bobl ledled y wlad i hawlio’r arian sy’n ddyledus iddynt yn gynt ac yn rhwyddach.

Un enghraifft yn unig yw’r gwasanaeth hawlio ar-lein o sut y mae’r Llywodraeth hon yn defnyddio technoleg i sicrhau yr erys ein system gyfiawnder, y mae bri arni drwy’r byd, yn atebol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a chynyddu mynediad at gyfiawnder i bawb sy’n ei defnyddio.

Mae Ola Osenie, 45 oed, o Ogledd Llundain, yn un o’r rhai sydd wedi cael budd o’r gwasanaeth ar-lein.

Meddai:

Roedd y busnes yn honni nad oedden nhw’n fodlon ar fy ngwasanaeth, a gwyddwn nad oedd hynny’n wir; roedden nhw eisoes wedi darparu sylwadau cadarnhaol gan ddweud pa mor fodlon yr oedden nhw. “Roeddwn wedi ceisio datrys y sefyllfa fy hun, drwy geisio trefnu cyfarfod, anfon llythyrau, e-byst, gadael negeseuon ffôn ac anfon negeseuon testun, ond yn ofer.

Deng munud neu chwarter awr gymerodd hi imi hawlio arian ar-lein. Roedd hi’n hawdd dilyn y drefn a defnyddio’r gwasanaeth ac mae wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio mewn ffordd reddfol. Mae’n wasanaeth rhagorol ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Byddwn yn annog pobl eraill y mae arian yn ddyledus iddynt i’w ddefnyddio.

Mae’r gwasanaeth hawlio arian yn y llys sifil ar-lein yn rhan o raglen ddiwygio gwerth £1 biliwn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi sy’n amcanu moderneiddio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd, gan eu gwneud yn gyflymach, yn symlach ac yn haws i’w defnyddio i bawb. Erbyn hyn gellir gwneud cais am ysgariad diwrthwynebiad a phrofiant ar-lein, a chyflwyno ple yn achos troseddau lefel isel.

Nodyn i olygyddion

  1. nid yw gwasanaethau ar-lein yn cymryd lle ceisiadau papur ond maent yn aml yn darparu dull amgen, haws i lawer o bobl.
  2. cyflwynwyd mwy na £10m mewn ffioedd llys drwy wasanaeth Hawlio Arian yn y Llys Sifil Ar-lein GLlTEM.
  3. os hoffech siarad ag Ola, neu bobl eraill sydd wedi hawlio arian yn y llys sifil ar-lein, cysyllter â swyddfa’r wasg yn GLlTEM ar 020 3334 3536.
Cyhoeddwyd ar 5 November 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 July 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation

  3. First published.