Cyhoeddi penderfyniad caniatâd datblygu Fferm Wynt Alltraeth Mona
Heddiw mae cais Fferm Wynt Alltraeth Mona wedi cael caniatâd datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net.

Mona Offshore Wind Farm
Bydd y cais yn cynnwys datblygu fferm wynt alltraeth gyda chapasiti o tua 1500MW ym Môr Iwerddon a ddyfarnwyd fel rhan o Rownd 4 o Drefniadau Trwyddedu Gwynt Alltraeth.
Cyflwynwyd y cais i’r Arolygiaeth Gynllunio i’w ystyried gan Mona Offshore Wind Limited ar 22 Chwefror 2024 a’i dderbyn i’w archwilio ar 21 Mawrth 2024.
Yn dilyn archwiliad lle rhoddwyd cyfle i’r cyhoedd, ymgyngoreion statudol a phartïon â buddiant roi tystiolaeth i’r Awdurdod Archwilio, gwnaed argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Ebrill 2025.
Dyma’r 95fed cais ynni allan o 159 o geisiadau a archwiliwyd hyd yma ac fe’i cwblhawyd unwaith eto gan yr Arolygiaeth Gynllunio o fewn yr amserlen statudol a nodir yn Neddf Cynllunio 2008.
Mae cymunedau lleol yn parhau i gael y cyfle i fod yn rhan o archwiliad prosiectau a allai effeithio arnynt. Roedd pobl leol, yr awdurdod lleol a phartïon eraill â buddiant yn gallu cymryd rhan yn yr archwiliad chwe mis hwn.
Gwrandawodd yr Awdurdod Archwilio a rhoddodd ystyriaeth lawn i bob barn leol a’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr archwiliad cyn gwneud ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae’r penderfyniad, yr argymhelliad a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net a’r dystiolaeth a ystyriwyd gan yr Awdurdod Archwilio wrth gyrraedd ei argymhelliad ar gael i’r cyhoedd ar dudalen y prosiect ar wefan Prosiect Dod o Hyd i Seilwaith Cenedlaethol.
Dylai newyddiadurwyr sydd eisiau rhagor o wybodaeth gysylltu â Swyddfa’r Wasg Arolygiaeth Gynllunio, ar 0303 444 5004 neu 0303 444 5005 neu anfon e-bost at: Press.office@planninginspectorate.gov.uk