Stori newyddion

Gweinidogion yn croesawu cyfarfod cadarnhaol ag S4C

Mwynhaodd Gweinidogion Llywodraeth y DU ag S4C drafodaethau ‘cadarnhaol’ am gynlluniau’r cwmni darlledu ar gyfer y dyfodol mewn cyfarfod yn …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mwynhaodd Gweinidogion Llywodraeth y DU ag S4C drafodaethau ‘cadarnhaol’ am gynlluniau’r cwmni darlledu ar gyfer y dyfodol mewn cyfarfod yn eu Pencadlys yn Llanisien ddoe (23 Chwefror 2012).

Cyfarfu Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol, Ed Vaizey AS, a phrif weithredwr newydd y sianel, Ian Jones, a’i chadeirydd, Huw Jones, a fanteisiodd ar y cyfle i danlinellu’r ffaith bod y sianel yn gobeithio ehangu ei gweithgareddau yn y dyfodol.

Mae’r Llywodraeth yn deall bod angen i ddarlledwyr allu ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i’r newidiadau sy’n prysur ddigwydd yn y diwydiant, ac mae mewn trafodaethau ag S4C ynghylch sut y gall barhau i wneud hyn.

 Daeth y BBC ac Awdurdod S4C i gytundeb ynghylch dyfodol a chyllid S4C hyd 2017 ym mis Hydref y llynedd.

Mae’r cytundeb yn diogelu annibyniaeth olygyddol S4C ac yn sicrhau bod arian ffi’r drwydded yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. 

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:

“Rwy’n falch fy mod wedi cael y cyfle i rannu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol S4C a’r Gweinidogion. Mae’r gynulleidfa wrth galon popeth rydym yn ei wneud, ac rwyf am sicrhau y bydd cynnwys S4C yn parhau i ddiddanu ac i roi gwybodaeth ar draws bob llwyfan.  Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio a phartneriaid allanol, y BBC a’r sector cynhyrchu er mwyn parhau i ddarparu cynnwys heriol a hanfodol i’w wylio.”

Ar ol y cyfarfod, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones:

“Mae S4C a rhan anhepgor i’w chwarae yng nghyswllt arddangos iaith a diwylliant Cymru i gynulleidfa eang.  Fel Llywodraeth, rydym wedi pwysleisio ein hymrwymiad droeon i wasanaeth teledu cryf ac annibynnol yn yr iaith Gymraeg.  

“Rydym am sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio i gyfoethogi’r hyn sydd gan S4C i’w gynnig i’r sector darlledu yn y DU. Gyda’r sicrwydd sydd wedi dod yn sgil y cytundeb newydd a’r BBC, a dan gyfarwyddyd ei chadeirydd a’i phrif weithredwr, rwy’n siŵr y bydd y sianel yn mynd o nerth i nerth.”

Dywedodd Ed Vaizey, y Gweinidog dros Gyfathrebu:

“Fel y prif ddarlledwr teledu yn yr iaith Gymraeg, mae gan S4C le hynod o bwysig yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.  Rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ei bod yn parhau i gadw ei hannibyniaeth olygyddol.”

Cyhoeddwyd ar 24 February 2012