Datganiad i'r wasg

Gweinidogion yn ymweld â phrosiectau Ffyniant Bro Sir Ddinbych

Ymunodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones, â'r Gweinidog Ffyniant Bro Jacob Young i weld sut mae £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU o fudd i Ogledd Cymru.

Wales Office Minister Fay Jones, Vale of Clwyd MP James Davies, Levelling Up Minister Jacob Young and Salusbury Arms Vice Chair Jane Marsh.

  • Ymunodd Gweinidog Swyddfa Cymru ac AS Dyffryn Clwyd â Jacob Young, y Gweinidog Ffyniant Bro, yn ystod taith o amgylch canol tref y Rhyl yn dilyn cyhoeddiad Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro.
  • Bu’r Gweinidog Young hefyd yn ymweld â’r Salusbury Arms yn Nhremeirchion, a gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar ar ôl derbyn £175,000 trwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF).

Aeth gweinidogion Llywodraeth y DU i Sir Ddinbych i weld sut mae degau o filiynau o bunnoedd o arian ffyniant bro yn adfywio’r ardal.

Gwelodd Jacob Young, y Gweinidog Ffyniant Bro a Fay Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, drostynt eu hunain sut y bydd prosiectau adfywio trawsnewidiol yn Y Rhyl, a wnaed yn bosibl drwy gyllid Llywodraeth y DU, o fudd i’r gymuned leol.

Dyfarnwyd £20 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych yn rownd ddiweddaraf y Gronfa Ffyniant Bro, gyda £11 miliwn wedi’i ymrwymo i adfywio’r Rhyl. Bydd pobl leol yn elwa o adfywio canol y dref, creu mwy o ganolfannau cymunedol, a gwelliannau i lwybrau beicio a cherdded a llwybrau rhwng y dref a’r arfordir.

Mae’r cyllid diweddaraf hwn o drydedd rownd y Gronfa Ffyniant Bro yn dilyn dwy rownd flaenorol a fuddsoddodd ychydig o dan £1.7 biliwn a £2.1 biliwn mewn prosiectau ledled y DU - gan ddod â chyfanswm y gronfa i £4.8 biliwn. Nod y buddsoddiadau seilwaith hyn yw gwella bywyd bob dydd i bobl drwy adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.

Ochr yn ochr â thrawsnewid stryd fawr Y Rhyl, gwelodd y Gweinidogion hefyd lle mae arian yn cael ei ddefnyddio i adfywio Marchnad y Frenhines a’r Promenâd Canolog. Bydd Marchnad y Frenhines yn cael ei throi’n ddatblygiad manwerthu cymysg i hybu busnes, a bydd llwybrau teithio gwell yn ailgysylltu canol y dref â’r promenâd a’r traeth.

Bu gweinidogion hefyd yn ymweld â’r Salusbury Arms, tafarn boblogaidd yn Nhremeirchion a ail-agorodd ei drysau yn ddiweddar gyda chymorth £175,000 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, cynllun sy’n diogelu lleoedd cymunedol poblogaidd sydd mewn perygl o gau. Mae’r dafarn 200 oed, sy’n rhan annatod o’r gymuned a’r unig dafarn sydd ar ôl yn y pentref, bellach wedi cael ei hadnewyddu gyda chymorth cyllid Llywodraeth y DU a’r gymuned sydd nawr yn berchen arni - gan sicrhau bod man poblogaidd ar gael i deuluoedd a thrigolion ei fwynhau.

Meddai Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Jacob Young:  

Roeddwn i wrth fy modd yng Ngogledd Cymru yn gweld drosof fy hun sut y bydd ffyniant bro yn cael ei wireddu yma gyda chymorth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU.

Roeddwn hefyd yn falch o ymweld â’r Salusbury Arms, tafarn boblogaidd iawn yn Nhremeirchion gyda llawer iawn o hanes, sydd wedi’i hachub trwy gyfuniad o ymgyrchu gwych gan y gymuned leol a chefnogaeth ein Cronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mae’r prosiectau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ffyniant bro yng Nghymru ac mae’n galonogol gweld sut bydd yr arian yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau am genedlaethau i ddod.

Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones:

Cawsom ymweliad gwych â Sir Ddinbych ddoe i weld y prosiectau arbennig hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl leol. Bydd y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adfywio’r Rhyl yn hwb enfawr i’r dref, gan helpu i ddenu busnesau, creu swyddi a sicrhau bod yr economi lleol yn tyfu.

Ac roedd yn bleser cyfarfod y bobl y tu ôl i’r ymgyrch i achub Salusbury Arms, sydd wedi gweithio mor galed i ddiogelu’r dafarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – llongyfarchiadau iddyn nhw!

Meddai Is-gadeirydd y Salusbury Arms, Jane Marsh:

Mae sicrhau’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i gefnogi ein cais i fod yn berchen ar y Salusbury wedi golygu ein bod wedi gallu prynu’r adeilad yn llwyr heb unrhyw ddyledion ac hefyd dangos i bron i 200 o gyfranddalwyr fod gan y Llywodraeth hyder yn ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr ased cymunedol gwerthfawr hwn.

Roedd y broses yn syml a buaswn yn annog cymunedau eraill fel ein un ni i wneud cais”.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau ar gyfer Rownd 3 Cyfnod Ymgeisio 3.
  • Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am gyllid i brynu asedau pwysig a’u rhedeg er budd y gymuned leol.
  • Agorodd y cyfnod ymgeisio ar 6 Rhagfyr 2023 a bydd yn dod i ben am 11.59am (cyn hanner dydd) ar 31 Ionawr 2024.

Mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol nesaf ar gael yn www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus/community-ownership-fund-prospectus–3

Cyhoeddwyd ar 17 January 2024