Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn annog mwy o gwmnïau Cymru i geisio cefnogaeth gan UKTI i sicrhau twf allforio

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn annog mwy o gwmniau bach ledled Cymru i geisio cefnogaeth gan Fasnach a Buddsoddi y DU (UKTI) i…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn annog mwy o gwmniau bach ledled Cymru i geisio cefnogaeth gan Fasnach a Buddsoddi y DU (UKTI) i’w helpu i elwa o werthiannau tramor newydd ac i fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol.

Dywedodd Mr Jones fod rhai o gwmniau Cymru yn dal heb fod yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael gan UKTI i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar farchnadoedd gwerthfawr dramor.  

Dywedodd: “Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod yr amodau ar waith iddynt allu gwireddu eu potensial yn llawn. Gall UKTI weithio gyda chwmniau bach yng Nghymru sy’n tyfu, er mwyn eu hannog a’u cefnogi i fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol, i ysgogi twf ac i greu swyddi cynaliadwy.”

Yr wythnos hon, ymunodd Mr Jones a’r Arglwydd Green, y Gweinidog dros Fasnach a Buddsoddi, ar ymweliad a Gogledd Cymru. Cyfarfu’r Gweinidogion ag arweinwyr busnes er mwyn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth i agor Prydain i fusnes, ac annog cwmniau i hybu masnach ac allforio. Hefyd, bu i Mr Jones helpu i lansio’r wythnos ‘Back2Business’ yng Nghae Ras Cas-gwent, digwyddiad wedi’i drefnu gan Gyngor Sir Fynwy i gefnogi datblygu busnesau newydd a chyfleoedd buddsoddi ledled y sir.

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i greu cyfleoedd busnes, fel y nodir yn Strategaeth UKTI ‘Prydain ar agor i fusnes’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Elfen allweddol o’r Strategaeth dros y pum mlynedd nesaf yw annog mwy o gwmniau bach i allforio dramor, ond mae rhai o gwmniau Cymru yn dal heb sylweddoli y gallant fanteisio ar y gefnogaeth hon.

“Yng Nghymru, mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod cwmniau bach a chanolig yn cyflogi bron i 60% o’r holl weithwyr yn y sector preifat. Yn wir, mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 99.9% o holl fusnesau Prydain ac maent yn cyflogi oddeutu 23 miliwn o bobl.

“Wrth i wahanol adrannau’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd, yn ogystal a gyda Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad, rydym yn gwneud ein gorau glas i gefnogi twf, i ddenu mewnfuddsoddi ac i greu economi allforio.

“Rydym am greu amodau manteisiol i helpu busnesau bach i ffynnu a llwyddo, er mwyn gallu sicrhau twf cadarn a chynaliadwy. Felly, rwy’n annog cwmniau bach sydd a diddordeb mewn cynyddu allforion o Gymru i gysylltu ag UKTI i gael gwybod pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i’w helpu i fod yn gystadleuol ar lwyfan byd-eang ac ennill busnes a chontractau newydd proffidiol dramor”.

Nodyn i olygyddion

Mae Masnach a Buddsoddi y** DU (UKTI)** yn un o adrannau’r llywodraeth sy’n helpu cwmniau yn y DU i lwyddo yn yr economi fyd-eang. Mae UKTI yn cynnig arbenigedd a chysylltiadau drwy ei rwydwaith helaeth o arbenigwyr yn y DU, ac mewn Llysgenadaethau Prydain a swyddfeydd diplomyddol eraill ledled y byd. Mae’n darparu’r dulliau y mae eu hangen ar gwmniau i fod yn gystadleuol ar lwyfan byd-eang. I gael rhagor o wybodaeth am UKTI, ewch i www.ukti.gov.uk neu ffoniwch +44 (0)20 7215 8000. I gael y datganiadau diweddaraf i’r wasg, ewch i’r ystafell newyddion ar-lein yn www.ukti.gov.uk/media. Gallwch gadw llygad ar ddatblygiadau yn UKTI hefyd drwy www.blog.ukti.gov.uk, www.twitter.com/ukti a www.flickr.com/photos/tags/ukti

Cyhoeddwyd ar 9 June 2011