Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn canmol rôl y fyddin ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog

Dywedodd Guto Bebb: “Mae heddiw yn gyfle i ni ddiolch i’n milwyr ac i gydnabod eu cyfraniad mewn anghydfodau drwy gydol hanes hyd heddiw.”

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn mynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru, yng Nghastell Bodelwyddan, Sir Ddinbych, heddiw (dydd Sadwrn 18 Mehefin).

Bydd y Gweinidog yn gwylio perfformiad gan Fand Brenhinol Cymru ac yn gwylio Gwasanaeth Awyr Agored ar ôl hynny.

Bydd gweithgareddau milwrol eraill yn cynnwys ‘pentref’ milwrol gyda cherbydau ac arddangosfeydd, perfformiad gan y ‘Falcons’, Tîm Arddangosfeydd Parasiwtio yr Awyrlu Brenhinol, a bydd awyrennau Spitfire a Griffin yn hedfan heibio.

Dywedodd Mr Bebb

Mae unedau a milwyr wrth gefn Cymru wedi gwasanaethu ein gwlad gyda rhagoriaeth bob amser. Eleni, 100 mlynedd ers Brwydr y Somme, mae’n arbennig o ingol gan ystyried aberth milwyr o Gymru yn y frwydr ddychrynllyd honno.

Mae heddiw yn gyfle i ni ddiolch i’n milwyr ac i gydnabod eu cyfraniad mewn anghydfodau drwy gydol hanes hyd heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, yn mynychu digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru, a gynhelir ar Gaeau Chwarae Owain Glyndŵr, Caerffili, ar 25 Mehefin.

Nodiadau i olygyddion

  • Ddydd Llun 20 Mehefin, bydd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei chodi ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad. Bydd Digwyddiad Cenedlaethol 2016 cael ei gynnal yn Cleethorpes, swydd Lincoln, ddydd Sadwrn 25 Mehefin.

  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael drwy fynd i https://www.armedforcesday.org.uk

Cyhoeddwyd ar 18 June 2016