Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn addo gweithredu ar ddyfodol Cronfa Ddŵr Llanisien

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi cytuno i gymryd camau i geisio rhoi sylw i bryderon pobl Gogledd Caerdydd ynglŷn a dyfodol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi cytuno i gymryd camau i geisio rhoi sylw i bryderon pobl Gogledd Caerdydd ynglŷn a dyfodol cronfa ddŵr Llanisien.

Ac yntau’n siarad ar ol Dadl Ohirio ynghylch Cronfa Ddŵr Llanisien yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr, dywedodd Mr Jones: “Mae achos Cronfa Ddŵr Llanisien yn gymhleth gan fod angen ystyried diogelwch y gronfa yn ogystal a materion yn ymwneud a diogelu’r amgylchedd, cyfraith cynllunio ac adeiladau rhestredig. Mae’n fater pwysig iawn i bobl leol, a dyna pam yr wyf wedi cytuno i gymryd cyfres o gamau i roi sylw i’w pryderon.

“Byddaf yn ysgrifennu at Jane Davidson, sef Gweinidog dros yr Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd a chyfrifoldebau datganoledig yng nghyswllt hyn, er mwyn cyfleu’r pryderon a fynegwyd yn y Tŷ neithiwr. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at Robert Symons, Prif Weithredwr Western Power, i annog y cwmni i ymgysylltu a’r rhanddeiliaid a’r bobl leol ynghylch y mater pwysig hwn.”

Mae Cronfa Ddŵr Llanisien wedi cael cryn dipyn o sylw yn sgil penderfyniad y gweithredwr, Weston Power, i ddraenio’r gronfa er mwyn cynnal arolwg o’i diogelwch yn dilyn argymhelliad Peiriannydd Arolygu annibynnol. Er nad oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd ddim pwerau cyfreithiol i atal y gwaith draenio, mae wedi dweud yn glir nad yw’n credu bod angen gwneud hynny er mwyn cynnal yr arolwg.

Dywedodd Mr Jones: “Mae achos Llanisien wedi dwyn rhywbeth i’m sylw, sef bod gan weithredwr y gronfa ffordd o herio penderfyniad Asiantaeth yr Amgylchedd, ond nad oes darpariaeth mewn deddfwriaeth bresennol ar gyfer ailystyried adroddiad Peiriannydd Arolygu ar ol iddo gael ei gyflwyno i’r gweithredwr, hyd yn oed os darperir gwybodaeth newydd neu safbwyntiau cyferbyniol gan ffynonellau eraill. Ymddengys fod hwn yn fater sy’n haeddu sylw pellach, a byddaf yn ysgrifennu at Richard Beynon, Gweinidog DEFRA dros yr Amgylchedd Naturiol a Physgodfeydd, i ofyn iddo ystyried y cwmpas ar gyfer rhoi sylw i’r anghysondeb hwn.

“Yn olaf, rwyf wedi cytuno i ymweld a’r gronfa ddŵr gyda Jonathan Evans, AS Gogledd Caerdydd, a sicrhaodd ddadl neithiwr, i weld a’m llygaid fy hun y materion sydd dan sylw. Rwy’n gobeithio bod y camau y byddaf yn eu cymryd yn rhoi sicrwydd bod y materion diogelwch ac amgylcheddol sydd ynghlwm wrth y gwaith yng nghronfa ddŵr Llanisien yn cael blaenoriaeth a sylw haeddiannol.” 

Nodiadau i Olygyddion

Mae Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yn amlinellu’r drefn ddiogelwch ar gyfer cronfeydd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  Mae cronfa ddŵr Llanisien yn gyforgronfa ddŵr fawr yn ol telerau’r Ddeddf, ac felly dylai gael ei harchwilio gan beiriannydd arolygu cymwys bob deng mlynedd o leiaf.

Gellir gweld trawsgrifiad llawn o Ddadl Ohirio Diwedd y Dydd a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 6 Gorffennaf yn:
http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201011/cmhansrd/cm100706/debtext/100706-0005.htm#10070730000001

__

Cyhoeddwyd ar 7 July 2010