Datganiad i'r wasg

Mae canolbarth Cymru yn ‘barod ar gyfer y gemau, yn agor i fusnes ac yn fan gwych i ymweld ag ef’ – Gweinidog Swyddfa Cymru

Heddiw, [21 Mai 2012] ymwelodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, a Chanolbarth Cymru i weld sut mae cyrchfannau i ymwelwyr yn yr ardal…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, [21 Mai 2012] ymwelodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, a Chanolbarth Cymru i weld sut mae cyrchfannau i ymwelwyr yn yr ardal yn paratoi am haf arbennig.  Ymwelodd y Gweinidog a thri lle o gwmpas Y Trallwng, pob un ohonynt yn edrych ymlaen at gael budd o ddathliadau’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a hefyd Jiwbili Diemwnt y Frenhines yn ystod yr haf.

Mae’r ymweliad yn dilyn taith fasnach a diplomataidd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Dde Ddwyrain Asia fel rhan o ymgyrch ‘GREAT’ VisitBritain. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymweliadau ar draws Cymru ar gyfer y Gweinidog, wrth i fusnesau, sefydliadau ac atyniadau baratoi ar gyfer y tymor ymwelwyr.  Bydd y Gweinidog hefyd yn mynychu cyfarfod caeedig o gynrychiolwyr o sefydliadau a phartneriaethau rhanbarthol sy’n hyrwyddo twristiaeth yn y rhanbarth.

I gychwyn, ymwelodd y Gweinidog a Charlies, busnes lleol poblogaidd a datblygiad £8m ar safle Coed-y-Dinas.  Mae’r busnes yn gobeithio ehangu ei apel fel cyrchfan i ymwelwyr gan gynnwys atyniad fferm ar gyfer ymwelwyr, gyda siop fferm, deli a man chwarae dan do/yn yr awyr agored, gyda phwyslais ar addysg.   Cafodd y Gweinidog ei groesawu gan y perchennog Chris Lloyd a’r Cyfarwyddwr Cyllid Nick Dann, a ddisgrifiodd y cynlluniau ar gyfer ehangu’r safle i’r dyfodol a chyflwyno’r Gweinidog i staff Charlies.

Yn ddiweddarach, ymwelodd y Gweinidog a Chastell Powys, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i weld sut mae’r castell yn paratoi ar gyfer tymor ymwelwyr arbennig. Yn 2010, daeth 107,000 o ymwelwyr i’r castell, un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth a’r atyniad mwyaf sylweddol yng Nghanolbarth Cymru a disgwylir llawer mwy o ymwelwyr eleni.   Rheolwr yr Eiddo, Shane Logan, groesawodd y Gweinidog a’i dywys ar daith o gwmpas casgliadau gwerthfawr y castell, cyn cyfarfod a’r garddwr gwirfoddol Rosemary Denholm.

Wedyn, mynychodd Mr Jones gyfarfod preifat gyda chynrychiolwyr sefydliadau a chyrff sy’n gyfrifol am hyrwyddo Canolbarth Cymru fel atyniad i ymwelwyr cyn mynd i Gei Camlas i gyfarfod ag Eva Bredsdorff, curadur amgueddfa Powysland, Llanidloes, ac amgueddfa tecstiliau y Drenewydd a ddisgrifiodd gynlluniau’r amgueddfa i ddathlu’r Jiwbili yn ogystal a’r Gemau Olympaidd yr haf hwn.    Yn amgueddfa Powysland ceir nifer o arddangosfeydd sy’n dathlu bywyd yn y rhanbarth ac amlinellodd Ms Bredsdorff sut mae’r amgueddfa ar lan y gamlas yn gobeithio manteisio ar gynlluniau datblygu ar gyfer y gamlas i’r dyfodol.

Mae ymweliad y Gweinidog a’r amgueddfa ar lan y gamlas yn dilyn ymweliad blaenorol a Marina’r Waun yn Wrecsam cyn i Ddyfrffyrdd Prydain lansio ei hunaniaeth newydd yng Nghymru: Glandwr Cymru.  Mae Camlas Trefaldwyn, sydd wedi mynd a’i phen iddi ers blynyddoedd, yn awr yn cael ei hadfer fel camlas blesera drwy ardal brydferth y Gororau fel rhan o raglen £45 miliwn 10 mlynedd i ddarparu parc dŵr gwledig llinol 34 milltir o hyd ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned yn gyffredinol. 

Meddai Mr Jones: “Mae wedi bod yn bleser ymweld a Chanolbarth Cymru heddiw i weld sut mae’r rhanbarth yn paratoi ar gyfer haf o ddigwyddiadau nodedig, wrth inni baratoi ar gyfer Jiwbili’r Frenhines, Gemau’r Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd.   Mae gan Gymru gyfoeth o fannau hyfryd ar gyfer ymwelwyr a’r haf hwn bydd busnesau’n gallu dangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig ar lwyfan rhyngwladol. 

“Yn y cyfnod yn arwain at y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain, gallwn edrych ymlaen at ddiddordeb o’r newydd yn atyniadau Cymru.  Mae siop Charlies yng Nghoed-y-Dinas, Castell Powys ac amgueddfa Powysland i gyd yn ehangu ac yn datblygu’u cynnyrch ar gyfer ymwelwyr. A chyda chefnogaeth partneriaethau twristiaeth rhanbarthol maent yn benderfynol o roi’r rhanbarth ar y map.  Mae’r atyniadau yr wyf wedi ymweld a nhw heddiw i gyd yn dwyn sylw at y ffaith bod Canolbarth Cymru yn barod am y Gemau, yn agor i fusnes ac yn fan gwych i wneud busnes.”

Chris Lloyd, perchennog Charlies:

“Rydym yn falch inni gael ein dewis yn gynrychiolydd y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Yn Charlies, rydym yn rhoi pwys ar y dyfodol nid dim ond ar y gorffennol. O’n gwreiddiau fel siop i gymuned amaethyddol fechan, Charlies bellach yw’r manwerthwr nwyddau heblaw bwyd mwyaf yng Nghanolbarth Cymru.  Nid yw ein huchelgais yn dod i ben gyda hynny. Mewn hinsawdd manwerthu anodd, yn ebryn cystadleuwyr byd-eang, mae angen inni adeiladu ar ein treftadaeth o werthoedd traddodiadol a gwasanaethu’r gymuned lle bynnag y maent. Rhaid inni gystadlu a’r manwerthwyr gorau yn y byd, datblygu safleoedd newydd a gwella cyfleoedd cyflogaeth yn ein bro.”

Shane Logan, Rheolwr Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngerddi a Chastell Powys:

“A ninnau’n atyniad sydd a phroffil rhyngwladol, rydym yn falch o’n rol yn denu mwy a mwy o ymwelwyr i Ganolbarth Cymru ac ychwanegu at yr economi leol.

“Mae ymwelwyr yn cydnabod ansawdd y profiad y mae Gerddi a Chastell Powys yn ei gynnig ac maent yn barod i deithio i’r rhanbarth i’w fwynhau.

“Fel sector sy’n werth £1.8 biliwn i economi Cymru, mae twristiaeth yn hanfodol i ffyniant y wlad. Felly, mae’n hanfodol ein bod ni yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel y busnes twristiaeth mwyaf yng Nghymru, yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau ac yn ysgwyddo’r rol bwysig honno o ddenu ymwelwyr i Gymru a’u diddanu.”

Dywedodd Eva Bredsdorff (Amgueddfa Powysland): “Rydym yn llawn cyffro am y Jiwbili a’r Gemau Olympaidd, ac mae Amgueddfa Powysland yn y Trallwng, Amgueddfa Tecstiliau y Drenewydd ac Amgueddfa Llanidloes i gyd yn bwriadu trefnu arddangosfeydd a digwyddiadau i ddathlu’r cerrig milltir hyn.”

Nodiadau i olygyddion

  •           GREAT yw’r cyfrwng y mae VisitBritain a’r diwydiant yn ei ddefnyddio i fanteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Jiwbili Diemwnt, y gemau Olympaidd a’r gemau Paralympaidd, gan arddangos Prydain i gynulleidfa fyd-eang drwy’r cyfryngau, a denu busnesau newydd i’r wlad hon, cyn, yn ystod ac, yn bwysig iawn, ar ol y Gemau.
  • Bydd yr ymgyrch GREAT yn helpu i ddarparu refeniw i’r economi, ehangu’r sector twristiaeth a chreu swyddi newydd ledled y wlad. Dros y pedair blynedd nesaf, nod VisitBritain yw denu 4.6 miliwn o ymwelwyr ychwanegol, gan wario £2.3 biliwn yn ychwanegol ar draws y DU a chefnogi’r gwaith o greu bron i 60,000 o gyfleoedd gwaith newydd.
Cyhoeddwyd ar 21 May 2012