Dewis o gyfryngau yng Nghymru yn newyddion da i gynulleidfaoedd mewn oes o newidiadau technolegol cyflym
Alun Cairns: Mae gallu’r cyhoedd i gael mynediad i amrywiaeth eang o newyddion, barn a gwybodaeth yn ganolog i iechyd ein democratiaeth a’n cymdeithas.

Mae angen i gwmnïau cyfryngau yng Nghymru barhau i addasu i’r chwyldro yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio newyddion ac adloniant fel bod gan y cyhoedd y wybodaeth ddiweddaraf mewn cyfnod o ddewis sy’n “ddigon i’ch drysu”, meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru heddiw (13eg Hydref).
Er bod papurau newydd rhanbarthol wedi bod drwy amser caled a ffigurau gwylio teledu dan bwysau, dywedodd Alun Cairns fod cwmnïau cyfryngau yn ceisio sicrhau bod digidol yn gall unioni’r diffyg. Mae enwau sefydledig a newydd-ddyfodiaid yn cynnig gwasanaethau dros ffonau clyfar, gliniaduron a chyfryngau cymdeithasol.
Mae Mr Cairns yn siarad wrth i Aelodau Seneddol heddiw drafod lluosogrwydd y cyfryngau - y dewis o newyddion a gwasanaethau cyfredol sydd ar gael - mewn dadl yn Neuadd Westminster. Mae Mr Cairns yn rhybuddio, wrth i Gymru barhau i fynd drwy newidiadau mawr yn y ffordd y mae’n cael ei llywodraethu, ei bod yn bwysicach nag erioed bod y cyfryngau’n dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif gyda chraffu cadarn.
Meddai’r Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Mae gallu’r cyhoedd i gael mynediad i amrywiaeth eang o newyddion, barn a gwybodaeth yn ganolog i iechyd ein democratiaeth a’n cymdeithas.
Mae’r ffordd y mae pobl yn darllen ac yn pori dros y newyddion yn newid yn gyflym. Erbyn hyn, mae’n well gan rai pobl gael y newyddion diweddaraf ar eu ffôn yn hytrach nag eistedd i lawr o flaen bwletin newyddion ar y teledu amser te.
Mae’r cwmnïau cyfryngau yn ymateb i’r newid yn arferion defnyddwyr drwy addasu’r hyn y maent yn ei wneud ar-lein. Mae’n hanfodol bwysig bod hyn yn parhau.
Dywedodd Mr Cairns hefyd fod gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru yn cael arlwyaeth dda o wasanaethu Cymraeg. Mae radio masnachol hefyd yn cael ei ategu gan rwydwaith cynyddol o orsafoedd lleol bach.
“Yng Nghymru, mae hyn yn golygu bod gan y gwyliwr, y darllenydd a’r gwrandäwr wir ddewis ac amrywiaeth o leisiau i wrando arnynt.”
Fe wnaeth y Gweinidog yn Swyddfa Cymru hefyd ganmol rôl dros 50 o gwmnïau teledu ac animeiddio am gynhyrchu tua biliwn o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru. Mae’r cwmnïau hyn hefyd yn cyfrannu at gyflogaeth yng Nghymru - gyda dros 50,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol yn 2014 a 80,000 yn yr economi greadigol ehangach.