Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth 2014

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.

  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi gostwng 0.4 y cant oddi ar fis Chwefror 2014
  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi codi 5.6 y cant oddi ar fis Mawrth 2013
  • Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £169,124 o gymharu â’r brig o £181,618 ym mis Tachwedd 2007
  • 979 o adfeddiannau yng Nghymru Lloegr yn ystod mis Ionawr 2014
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 312,038 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 72,300 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i’w cofrestru ym mis Mawrth yn amrywio o £10,000 i £19.5 miliwn

Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.6 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £169,124. Mae’r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 31 y cant ym mis Ionawr 2014 i 979 o gymharu â 1,420 ym mis Ionawr 2013.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 12.4 y cant
  • Dwyrain Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarthau welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.1 y cant
  • Cymru welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol o 1.6 y cant
  • Cymru welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda symudiad o -4.2 y cant
  • Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2014 gynyddu 46 y cant i 63,123 o gymharu â 43,373 ym mis Ionawr 2013
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2014 wedi cynyddu 61 y cant i 1,011 o 628 ym mis Ionawr 2013
  • Y rhanbarth gyda’r gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Ionawr 2014 oedd Gogledd Ddwyrain Lloegr
Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Chwefror 2014 Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2013 Pris cyfartalog Mawrth 2014
Dwyrain Lloegr 1.1% 7.1% £184,980
Gogledd Ddwyrain Lloegr 1.1% 3.3% £99,313
De Orllewin Lloegr 0.7% 4.7% £179,066
Llundain 0.6% 12.4% £414,490
Gorllewin Canolbarth Lloegr 0.6% 3.7% £133,532
Cymru a Lloegr -0.4% 5.6% £169,124
De Ddwyrain Lloegr -0.7% 6.1% £221,189
Swydd Gaerefrog a’r Humber -0.9% 1.8% £116,993
Dwyrain Canolbarth Lloegr -1.0% 4.6% £127,384
Gogledd Orllewin Lloegr -1.8% 2.3% £109,042
Cymru -4.2% -1.6% £113,275

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Mawrth 2014 Mawrth 2013 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £265,753 £254,107 4.6%
Tŷ pâr £159,684 £152,197 4.9%
Tŷ teras £126,859 £120,600 5.2%
Fflat/Fflat deulawr £163,437 £151,167 8.1%
Holl £169,124 £160,182 5.6%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2012 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 43,373 43,784 -1%
Chwefror 45,228 44,870 1%
Mawrth 54,659 61,377 -11%
Ebrill 50,968 43,276 18%
Mai 66,246 52,555 26%
Mehefin 65,958 59,891 10%
Gorffennaf 73,536 59,169 24%
Awst 79,224 65,039 22%
Medi 69,561 52,889 32%
Hydref 76,579 59,236 29%
Tachwedd 82,217 63,979 29%
Rhagfyr 77,843 56,707 37%
Cyfanswm 785,392 662,772 19%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 63,123 43,373 46%

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Ionawr 2014 Ionawr 2013 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 66 101 -35%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 93 127 -27%
Llundain 117 194 -40%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 25 43 -42%
Gogledd Orllewin Lloegr 237 297 -20%
De Ddwyrain Lloegr 108 170 -36%
De Orllewin Lloegr 57 88 -35%
Cymru 78 115 -32%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 61 93 -34%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 137 192 -29%
Holl 979 1,387 -33%

Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,300 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Mawrth 2014. Mae’r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi’i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £10.3 miliwn. Mae’r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi’i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £10,000.

Mynediad i’r set lawn o ddata

Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau 1,365,223 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,316,674 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 307,615 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 618,365 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 180,684 yn chwiliadau a 72,982 yn drafodion am werth.

Mynediad i’r set lawn o ddata trafodiad

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
My Home Move Limited 1,668
Countrywide Property Lawyers 843
O’Neill Patient 652
Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 7,462
Optima Legal Services 5,373
Breeze & Wyles 3,813
Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 312,038
Llundain Fwyaf 263,580
Gogledd Orllewin Lloegr 147,442
De Orllewin Lloegr 132,922
Gorllewin Canolbarth Lloegr 116,624
Swydd Gaerefrog a’r Humber 108,816
Dwyrain Canolbarth Lloegr 97,445
Gogledd Lloegr 66,655
Cymru 64,539
Dwyrain Anglia 55,044
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 74
Ynysoedd Sili 44
Cyfanswm 1,365,223

Nodiadau i olygyddion

1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata pris a dalwyd mis Ebrill am 9.30 y bore ar ddydd Mercher 30 Mai 2014.

2. Mae calendr gyda dyddiadau rhyddhau’r prif ffigur a’r Mynegai ar gael yn www.gov.uk/government/publications/about-the-house-price-index.

3. Mae dyddiad cyhoeddi’r Data Trafodiad yn cael ei symud ymlaen fel y bydd ar gael ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis o fis Mai ymlaen. Mae hyn yn golygu y caiff set ddata mis Ebrill ei chyhoeddi ar 22 Mai 2014 am 11 y bore.

4. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

5. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am fwy na 18 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

6. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

7. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

8. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai i gael rhagor o wybodaeth.

9. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Maen nhw ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

10. Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:

  • y cyfeiriad llawn
  • y pris a dalwyd
  • dyddiad y trosglwyddiad
  • y math o eiddo
  • ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio
  • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

11. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

12.\ Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

13. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion bron i 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry.

15. Dilynwch ni ar Twitter , ein blog, LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 30 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 August 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation