Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Gwnewch y mwyaf o’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar y Diwrnod Chwarae

Cofrestrwch ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth er mwyn arbed arian ar eich costau gofal plant

  • Ymgyrch i annog teuluoedd sy’n gweithio i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar y Diwrnod Chwarae i helpu i dalu am glybiau gwyliau, clybiau ar ôl yr ysgol, meithrinfeydd a gwarchodwyr plant
  • Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae teuluoedd yn arbed bron i £100 bob mis drwy’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
  • Cynnydd o 20% yn nifer y teuluoedd sy’n defnyddio’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar gyfer plant 8 oed ac yn hŷn

Mae teuluoedd sy’n gweithio yn cael eu hannog i wirio, ar y Diwrnod Chwarae hwn (5 Awst), a allen nhw dorri costau gofal plant, gan fod ystadegau diweddaraf Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn dangos bod teuluoedd sy’n defnyddio’r cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wedi arbed bron i £100 y mis ar gyfartaledd.

Mae’r Diwrnod Chwarae, sef y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, yno i atgoffa rhieni sy’n gymwys a allen nhw elwa o’r cynllun. Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth roi hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn (neu £4,000 i blentyn anabl) i helpu i reoli costau gofal plant a chydbwyso bywyd gwaith a bywyd y teulu.

Ewch i GOV.UK i wirio’ch cymhwystra ac i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Unwaith y bydd teuluoedd wedi cofrestru, gallan nhw gael £2 ar ben bob £8 maen nhw’n eu rhoi yn y cyfrif. Gall teuluoedd agor cyfrif ar gyfer pob un o’u plant hyd at 11 oed ac, os oes ganddyn nhw blentyn anabl, hyd at 16 oed.

Gallwch ei ddefnyddio i dalu am unrhyw ofal plant cymeradwy gan gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau gwyliau, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl yr ysgol. Mae bron i 75,000 o ddarparwyr bellach wedi’u cofrestru i gael taliadau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Er mai plant bach sydd gan y rhan fwyaf o deuluoedd sy’n defnyddio’r cynllun, mae’r ystadegau diweddar yn dangos bod nifer y teuluoedd sy’n ei ddefnyddio i dalu am ofal plant ar gyfer plant 8 oed a hŷn wedi cynyddu mwy na 20% o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu dros yr haf ac yn y tymor newydd i ddod o hyd i’r gofal mwyaf addas i’ch plentyn. Os dydych chi ddim wedi cofrestru yn barod, gwnewch hynny heddiw i beidio colli’ch cyfle. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Tax-Free Childcare’,

Gall teuluoedd gael gwerth hyd at £500 o arian ychwanegol, neu £1,000 ar gyfer plentyn anabl, bob 3 mis.

Unwaith y bydd teuluoedd wedi agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gallan nhw dalu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gallwch godi unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg.   

Gall teuluoedd fod yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:   

  • mae ganddyn nhw blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maen nhw’n stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes gan y plentyn anabledd, maen nhw’n gallu cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed   

  • mae’r rhiant a’i bartner (os oes ganddo un) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd   

  • nid ydyn nhw’n ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un   
  • nid ydyn nhw’n cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant    

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, yn amodol ar gymhwystra. 

Rhagor o Wybodaeth

Rhyddhawyd yr ystadegau diweddaraf am y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, ar gyfer mis Mawrth 2026, ym mis Mai 2026 ac maen nhw ar gael yma

Diwrnod Chwarae - Chwarae Cymru

Playday 2026: Play – here, there, everywhere!

Play Scotland, the national expert in Play

Playday – PlayBoard NI

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Awst 2026