Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Arolwg manwerthu blynyddol mawr yn arwain at weithredu ar siocled dull Dubai, cig gafr, a diodydd iâ slwsh

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canlyniadau ei chweched arolwg gwyliadwriaeth manwerthu blynyddol.

Image of an orange slush-ice drink, a piece of Dubai-style chocolate and a brown goat.

Roedd y rhan fwyaf o’r bwyd a brofwyd yn ddiogel ac yn ddilys, ond datgelodd yr arolwg rai methiannau o ran labelu a dilysrwydd mewn cynhyrchion siocled dull Dubai a chig gafr.

Mae’r rhaglen yn targedu meysydd lle mae risg hysbys neu risg bosib. Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2025, samplwyd 845 o gynhyrchion o werthwyr ar-lein, manwerthwyr annibynnol, ac archfarchnadoedd cenedlaethol. Ar ôl cael y canlyniadau cychwynnol, cymerodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gamau cyflym i ddiogelu’r cyhoedd.

Gwiriwyd cynhyrchion i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, wedi’u labelu’n gywir, ac yn cynnwys yr hyn yr oeddent yn honni ei gynnwys.

Siocled dull Dubai

Dim ond un o’r 45 sampl o siocled dull Dubai a lwyddodd ym mhob prawf a gofyniad labelu – canfyddiad a ysgogodd yr ASB i gyhoeddi rhybuddion i ddefnyddwyr cyn Nadolig 2025.

Canfuwyd problemau labelu mewn 42 o’r 45 sampl. Roedd y rhain yn cynnwys dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’ anghywir neu ar goll, alergenau heb eu hamlygu’n glir, cynhwysion heb eu rhestru yn y drefn gywir, a diffyg manylion y mewnforiwr i’r DU.

Gweithredodd yr ASB yn gyflym, gan gynghori busnesau i fod yn wyliadwrus a rhybuddio pobl ag alergeddau i beidio â bwyta siocled dull Dubai.

Cig gafr

O’r 40 sampl o gig gafr a brofwyd, roedd 20 ohonynt yn cynnwys cig defaid yn unig. Roedd sampl arall yn cynnwys cymysgedd o gig defaid a chig gafr, a chanfuwyd bod sampl arall yn cynnwys dim ond cig carw.

Gweithiodd yr ASB yn gyflym gyda’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i rybuddio awdurdodau lleol a busnesau am y canfyddiadau cyn gynted ag y daethant i’r amlwg.

Diodydd iâ slwsh

Datgelodd yr arolwg broblemau parhaus gyda nifer bach o ddiodydd iâ slwsh, yn enwedig o ran lefelau glyserol a’r defnydd mewn siopau o bosteri’n rhybuddio am glyserol.

Cyhoeddodd yr ASB ganllawiau diwygiedig ar glyserol ym mis Gorffennaf 2025, ac mae wedi parhau i ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr ynghylch mabwysiadu rhybuddion gwirfoddol i’r diwydiant ac ailfformiwleiddio diodydd i leihau lefelau glyserol. Mae rhagor o waith samplu ac ymchwil wedi’i gynllunio ar gyfer yr haf hwn i fonitro i ba raddau mae canllawiau’r ASB wedi’u mabwysiadu.

Rhannwyd yr holl ganlyniadau anfoddhaol o’r arolwg gydag awdurdodau lleol, fel y gallent ystyried a oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Wrth drafod canlyniadau’r arolwg, dywedodd Rebeca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r ASB:

Ein rôl ni yw sicrhau bod y bwyd mae pobl yn ei brynu yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Rydyn ni wedi ein sicrhau bod y rhan fwyaf o’r samplau a brofwyd am gydymffurfiaeth o ran alergenau, dilysrwydd a chyfansoddiad yn foddhaol.

Diogelwch defnyddwyr yw ein blaenoriaeth fwyaf. Ym mis Rhagfyr 2025, pan wnaethon ni ganfod nad oedd y rhan fwyaf o gynhyrchion dull Dubai wedi llwyddo yn ein gwiriadau diogelwch bwyd llym, gwnaethon ni gymryd camau ar unwaith, gan rybuddio awdurdodau lleol bod angen gweithio gyda busnesau a grwpiau’r diwydiant i wneud yn siŵr bod y cynhyrchion maen nhw’n eu gwerthu yn ddiogel ac wedi’u labelu’n gywir.

Mae’r canfyddiadau hyn yn dod o arolwg targededig – a oedd yn canolbwyntio ar feysydd lle roedden ni eisoes yn amau bod diffyg cydymffurfiaeth yn bosib. Dydyn nhw ddim yn adlewyrchu diogelwch a safonau bwyd ehangach yn y DU. Mae mentrau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel hyn, yn ein galluogi ni i gymryd camau gwybodus er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Cyflwynwyd y rhaglen gan bartneriaeth rhwng tri o Labordai Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol awdurdodau lleol a dau labordy swyddogol preifat yng Nghymru a Lloegr.

Darllenwch yr Arolwg Gwyliadwriaeth Manwerthu llawn yn adran ymchwil ein gwefan.

Tanysgrifiwch i gael ein rhybuddion bwyd a rhybuddion galw cynhyrchion yn ôl.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf 2026