Stori newyddion

Magistrates’ court listings now published online

Bydd rhestrau llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar-lein am y tro cyntaf, gan ei gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth restru.

Image of magistrates'court sign on building

O heddiw (y 1af o Fedi 2020) ymlaen, gall y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol weld rhestrau llys ynadon ar-lein ar Courtserve.

Bydd Courtserve yn darparu dull ychwanegol i’r cyhoedd ddarganfod ble, pryd a sut y mae achosion llys ynadon yn mynd rhagddynt, gan ddod â llysoedd ynadon yn unol ag awdurdodaethau eraill. Erys cyfiawnder agored yn un o egwyddorion sylfaenol gweithredu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd ac mae’r newid hwn yn cefnogi tryloywder.

Bydd llysoedd yn dal i arddangos y rhestrau yn eu hadeiladau ac yn darparu rhestrau llysoedd i’r cyfryngau a gweithwyr proffesiynol y llys. Yn hytrach, mae’n darparu dull ychwanegol i’r cyhoedd ddarganfod ble, pryd a sut y mae achosion llys ynadon yn mynd rhagddynt.

Bydd y rhestrau a gyhoeddir yn cynnwys yr un wybodaeth â’r rhestrau a arddangosir ar hyn o bryd yn adeiladau ein llysoedd. Mae hyn yn cynnwys: enw llawn y diffynnydd, pwy ddaeth â’r erlyniad gerbron y llys (h.y. yr heddlu), ystafell y llys, yr amser a restrwyd a rhif yr achos.

Cael mynediad i’r rhestrau ac amlder cyhoeddi

Gellir gweld y rhestrau am ddim ar Courtserve. Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr newydd gofrestru ond ar gyfer defnyddwyr presennol, gellir gweld y rhestrau ar unwaith.

Bydd rhestrau’n cael eu cyhoeddi ddiwedd pob dydd a byddant ar gael am un diwrnod. Bydd rhestrau dydd Llun (a dydd Sadwrn lle bo hynny’n berthnasol) yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Gwener.

Eithriadau rhag cyhoeddi

Oherwydd sensitifrwydd, ni fydd manylion achosion sy’n ymwneud â phlant (achosion ieuenctid) yn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn berthnasol i restrau’r llys ieuenctid ond hefyd achosion ieuenctid a restrir yn y llys oedolion. Ni ellir cyhoeddi achosion o gadw pobl yn y ddalfa dros nos (gwrandawiadau remand), gan nad ydynt yn hysbys ar adeg cyhoeddi’r rhestr gyhoeddus. I gael gwybod a yw achosion ieuenctid neu achosion cadw yn y ddalfa dros nos yn mynd rhagddynt, gall y cyhoedd gysylltu â’r llys yn uniongyrchol.

Mae rhestrau’r Weithdrefn Un Ynad eisoes yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Os na chyhoeddir rhestr ar gyfer llys penodol, gallai hyn fod oherwydd nad oes unrhyw eisteddiadau, gallwch, yn yr achos hwnnw, gysylltu â’r llys i gadarnhau. Os oes gennych gwestiynau am unrhyw un o’r achosion a restrwyd, mae angen i chi gysylltu â’r llys perthnasol yn uniongyrchol.

Cyfyngiadau Adrodd

Gall achosion a restrir ar y rhestr gyhoeddedig fod yn destun cyfyngiadau adrodd. Gall y llys osod cyfyngiadau adrodd ar unrhyw adeg a chyfrifoldeb unigolyn yw cydymffurfio â’r cyfyngiadau. Gallwch gadarnhau a oes cyfyngiad adrodd ar waith drwy gysylltu â’r llys perthnasol.

Cyhoeddwyd ar 1 September 2020