Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne: “Mae Cymru yn manteisio ar ei hatyniadau diwylliannol a threftadaeth er budd ei chymunedau”

Gweinidog Llywodraeth y DU yn ymweld â lleoliadau twristiaeth yng ngogledd Cymru

O’n cestyll byd-enwog i’n cynyrchiadau theatr, bydd yr Arglwydd Bourne, un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn gweld drosto’i hun y cyfraniad hanfodol a wna’r diwydiannau twristiaeth a diwylliant i economi Cymru heddiw (26 Ionawr).

Bydd y Gweinidog yn ymweld â’r SeaQuarium yn y Rhyl, a bydd yn mynd i ragor o gyfarfodydd busnes mewn lleoliadau twristiaeth eraill yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Bydd yn gwneud hynny wrth i’r ffigurau twristiaeth diweddaraf ddangos bod y nifer o ymweliadau tramor i Gymru ar gynnydd.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae twristiaeth yn bwysig iawn yng Nghymru ac mae ein hatyniadau arbennig yn aml yn cael eu hystyried fel rhai o’r llefydd gorau i ymweld â nhw yn y byd.

Mae’n galonogol gweld bod gogledd Cymru yn manteisio ar ei atyniadau diwylliannol a threftadaeth er budd cymunedau ledled y wlad.

Mae’r ymweliad yn digwydd wrth i’r ffigurau twristiaeth diweddaraf ddangos bod 909,000 o ymweliadau tramor i Gymru rhwng mis Ionawr a mis Medi y llynedd, sef cynnydd o 6% o’i gymharu â’r cyfnod hwnnw yn 2016. Hefyd, gwariodd ymwelwyr i Gymru £337 miliwn, gan roi hwb i economi Cymru.

Ychwanegodd yr Arglwydd Bourne:

Twristiaeth yw un o ddiwydiannau allforio mwyaf gwerthfawr y DU.

Mae hefyd yn ddiwydiant byd-eang sy’n hynod gystadleuol, ac mae’r canlyniadau hyn yn dangos gallu parhaus Cymru i gystadlu’n rhyngwladol am ymwelwyr. Mae Cymru’n brawf o bwysigrwydd twristiaeth ar gyfer hybu twf economaidd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 26 January 2018