Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn dathlu llwyddiant twristiaeth a lletygarwch Cymru gyda chwrw gwobredig o Gymru

Arglwydd Bourne: "Mae gan dwristiaeth a lletygarwch rôl bwysig i'w chwarae o ran sicrhau twf economaidd i Gymru a'r Deyrnas Unedig"

Heddiw, (26 Awst) bydd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn codi llwncdestun i lwyddiant twristiaeth a lletygarwch Cymru drwy ymweld â chwmni bragu’r Tiny Rebel Brewing Company.

Bydd y Gweinidog yn cael ei dywys o gwmpas y bragdy yng Nghasnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant cwrw crefft a chwrw go iawn ffyniannus yng Nghymru a blasu’r cwrw ‘Cwtch’ enwog - enillydd Cwrw Gorau Prydain y Flwyddyn yng Ngŵyl Gwrw Prydain Fawr.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n weinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae’n wych ymweld â Tiny Rebel Brewing Company i roi cynnig ar y cwrw sydd nid yn unig yn rhoi’r bragdy lleol hwn ar y map, ond sydd hefyd yn llwyddiant cenedlaethol i Gymru - yn cynrychioli ansawdd ein sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Mae gan dwristiaeth a lletygarwch rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau twf economaidd i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol ac rwy’n gobeithio y bydd pobl ledled Cymru yn gwneud yr un peth.

Fel rhan o ddiwrnod o ymweliadau i ddathlu twristiaeth a lletygarwch Cymru, bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Casnewydd. Bydd yn gweld y casgliad Siartiaeth sy’n cynnwys eitemau arwyddocaol yn ymwneud â mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd ac sy’n cynnwys delweddau, arfau, papurau newydd, arian a dogfennau o gyfnod gwrthryfel y Siartwyr ym 1839.

Fe fydd hefyd yn gweld yr arddangosfa ‘Lluniadu ein Hamgueddfa a’n Horiel Gelf”, sy’n cynnwys gwaith celf gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd.

Mae Amgueddfa ac Oriel Casnewydd wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes a diwylliant cyfoethog Casnewydd er 1888, gydag arddangosfeydd yn amrywio o Gasnewydd a’r Rhyfel Byd Cyntaf i gasgliad Llong Ganoloesol.

Mae diwydiant twristiaeth Cymru yn cynhyrchu gwariant o £5 biliwn y flwyddyn - yn cyflogi dros 120,000 o bobl ac fe ddenodd 10 miliwn o dwristiaid i Brydain yn 2014. Fe wnaeth Uwchgynhadledd NATO ym Medi 2014 arddangos Casnewydd a Chymru’n gyffredinol i gynulleidfa fyd-eang - gan helpu i ddenu twristiaid o bob cwr o’r byd.

Ychwanegodd yr Arglwydd Bourne:

Mae Amgueddfa Casnewydd yn crynhoi rhai o eiliadau hanesyddol mwyaf arwyddocaol y ddinas.

Roedd yn wych cael cipolwg ar hanes y ddinas fywiog hon.

Cyhoeddwyd ar 26 August 2015