Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne: “Mae diwylliant Cymru wrth wraidd prif atyniadau twristiaeth Abertawe”

Bydd y Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Dylan Thomas ac arddangosfa newydd yn Oriel Gelf Glyn Vivian ddydd Llun

Bydd yr Arglwydd Bourne, un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn ymweld â rhai o brif atyniadau TripAdvisor yn Abertawe, sy’n enwog am ei hactorion, ei beirdd a glan y môr y Mwmbwls, yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun 9 Gorffennaf)

Bydd y Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Dylan Thomas, sy’n croniclo bywyd a gwaith un o’r beirdd enwocaf o Gymru, ar drothwy gwyliau’r haf i ysgolion pan fydd disgwyl i nifer y twristiaid gynyddu’n sylweddol yn yr ardal.

Bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cael ei dywys o amgylch arddangosfa newydd o’r enw ᖷACING gan N.S Harsha, un o artistiaid mwyaf blaenllaw India, sy’n cyfuno manylion bywyd bob dydd yn ei wlad enedigol, sef India â’r digwyddiadau a’r delweddau byd-eang a welwn ni ar y newyddion.

Mae’r ymweliad yn digwydd wrth i’r ffigurau twristiaeth diweddaraf ddangos bod 909,000 o ymweliadau tramor wedi bod â Chymru rhwng mis Ionawr a mis Medi y llynedd, sef cynnydd o 6% o’i gymharu â’r cyfnod hwnnw yn 2016. Hefyd, gwariodd ymwelwyr â Chymru £337 miliwn, gan roi hwb i economi Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Mae hanes a diwylliant creadigol cyfoethog Abertawe yn golygu bod ei hatyniadau ymhlith rhai o’r goreuon yn y byd. Does dim syndod felly bod cynifer o dwristiaid yn dod o bell ac agos i ddysgu mwy am rai o’n ffigyrau llenyddol a chelfyddydol byd-enwog.

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yn y rhan hon o Gymru, ac mae’n un o’r diwydiannau allforio mwyaf gwerthfawr yn y DU. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos gallu parhaus Cymru i gystadlu gyda’r goreuon yn y maes hwn, gan sbarduno twf economaidd ledled y wlad.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 9 July 2018