Stori newyddion

Yr Arglwydd Bourne: "Mae pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gam yn y tywyllwch na all busnesau Cymru fforddio ei gymryd”

Lord Bourne: "Mae canlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn ar draws popeth, o fusnesau yng Nghymru a'r diwydiant dur i'r amgylchedd a chynnyrch bwyd"

Heddiw, dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru, y byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gam yn y tywyllwch na all Cymru fforddio ei gymryd.

Yn ystod ymweliad â manwerthwr dillad blaenllaw sydd â’i wreiddiau yng Nghymru, Jojo Maman Bébé, rhybuddiodd y Gweinidog y gallai busnesau bach a chanolig wynebu dyfodol o drafodaethau ac ansicrwydd pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ddiweddar, rhagwelodd y Trysorlys y byddai economi Cymru yn cael ei gyrru i ddirwasgiad a gallai diweithdra godi i 24,000 pe bai’r Deyrnas Unedig yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, sy’n Weinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae canlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ymestyn ar draws popeth, o fusnesau yng Nghymru a’r diwydiant dur i’r amgylchedd a chynnyrch bwyd.

Mae busnesau ar draws Cymru yn dibynnu ar ein cysylltiadau dwfn â’r farchnad sengl sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn rhan greiddiol o’n twf economaidd.

Mae’n bwysig fod pobl yn deall na fyddai unrhyw ddewis arall yn cynnwys mynediad llawn at y farchnad sengl ac y byddai pob dewis gwahanol yn golygu blynyddoedd o drafodaethau ac ansicrwydd i Gymru.

Mae’n rhaid i ni gydnabod y cyfleoedd y mae mynediad at farchnad yr Undeb Ewropeaidd yn eu cynrychioli a gwneud y penderfyniad cywir i sicrhau dyfodol cryf a sefydlog i Gymru. Mae pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gam yn y tywyllwch na all busnesau Cymru fforddio ei gymryd.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn sbardun pwysig ar gyfer busnesau o bob maint ledled y wlad - fel Jojo Maman Bébé yng Nghasnewydd. Yn sgil llwyddiant y cwmni hwn o Gymru, y mae bellach yn cyflogi dros 600 o bobl ac yn gwerthu i 46 o wledydd ledled y byd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Jojo Maman Bébé, Laura Tenison MBE:

Mae yna lawer wedi ei ysgrifennu am fanteision ac anfanteision aros yn yr Undeb Ewropeaidd - dadleuon da a pherswadiol ar y ddwy ochr.

Yr un mater y mae economegwyr yn cytuno arno yw bod newid yn creu ansicrwydd, sy’n ddrwg i fusnes. Os bydd Prydain yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yr ansicrwydd anochel yn arwain at oedi gyda phrosiectau gwariant cyfalaf.

Bydd hyder defnyddwyr yn cael ergyd wrth i’r bygythiad o adleoli pencadlys i’r Almaen gael ei benderfynu. Bydd y cyfnod economaidd sefydlog rydym yn ei brofi yn dod i stop yn sydyn ac mae’n debygol iawn byddwn yn dychwelyd at ddirwasgiad, a fydd yn arwain at golli swyddi ar draws ein busnes a llawer o rai eraill.

Mae’n amlwg bod Cymru ar hyn o bryd yn elwa ar y ffaith fod y Deyrnas Unedig yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae dadansoddiad y Trysorlys yn dangos bod tua 100,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig ag allforion y Deyrnas Unedig i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn yn ychwanegol at £3 biliwn o fuddsoddiad o’r tu allan gan aelodau’r Undeb Ewropeaidd dros y 5 mlynedd diwethaf, gyda thua 100 o brosiectau buddsoddi tramor gwahanol yng Nghymru, sydd wedi creu neu ddiogelu tua 32,000 o swyddi.

Byddai pleidlais dros adael yn sioc economaidd ddwys a allai achosi i ddiweithdra ar draws pob grŵp oedran yng Nghymru godi tua 24,000, tra gallai diweithdra ymysg pobl ifanc godi gymaint â 3,000. Erbyn 2018, gallai effaith y sioc yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd gyfateb â gostyngiad o £2.0 biliwn ym maint economi Cymru heddiw.

Gallai hefyd olygu fod prisiau tai £20,000 yn is erbyn 2018 yng Nghymru na phe bai’r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio dros aros. Gan dybio y byddai’r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio dros aros, byddai prisiau tai yn y rhanbarth wedi tyfu yn unol â rhagolwg prisiau tai Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd ar 24 May 2016