Stori newyddion

Gwelliannau data cysylltiedig

Newyddion am ddau offeryn newydd sy'n eich helpu i ddefnyddio data'r Gofrestrfa Tir.

Heddiw mae’r Gofrestrfa Tir wedi lansio dau offeryn newydd sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddefnyddio ein data. Bydd y Chwilio’r Mynegai Tai gwell a’r Lluniwr Adroddiad Data Pris a Dalwyd newydd yn galluogi ein cwsmeriaid trwy wella’r ffordd y maent yn cael mynediad i’n data a’i ddefnyddio. Mae datblygiadau eraill i’n set ddata Mynegai agored yn golygu y caiff ei ryddhau fel data cysylltiedig 5 seren, fel y’i diffinnir gan W3C, gan alluogi rhyng-gysylltu â setiau data eraill megis Y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Arolwg Ordnans.

Chwilio cefndir y Mynegai Prisiau Tai

Mae ein chwiliad presennol o’r Mynegai yn rhoi prisiau eiddo cyfartalog, nifer y gwerthiannau a’r math o eiddo ar gyfer lleoliadau penodedig dros gyfnod penodol. Caiff ei ddiweddaru’n fisol ac mae’n rhoi’r cyfle i’n cwsmeriaid chwilio’r wybodaeth Mynegai ddiweddaraf yn ogystal â’r ffigurau wedi’u ailweithio yn dyddio yn ôl i 1995.

Offeryn chwilio beta newydd

Mewn ymateb i adborth cwsmeriaid rydym wedi datblygu offeryn chwilio newydd gwell sy’n ymgorffori ymarferoldeb llwytho i lawr. Trwy ychwanegu hierarchaeth ranbarthol mae bellach hyd yn oed yn haws i chi adnabod a chymharu ardaloedd yng Nghymru a Lloegr. Mae gennych y dewis o deipio enw’r ardal neu ei ddewis ar fap y gallwch glicio arno. Mae rhagolwg amser real yn galluogi’r dewisiadau chwilio i gael eu newid gan eich helpu i bori trwy haenau o wybodaeth.

Gellir llwytho adroddiadau i lawr ar ffurf CSV neu data Turtle (TTL). Yn ogystal, gallwch weld yr ymholiad SPARQL fyddai wedi’i greu yng nghefndir y cais. Gellir creu canlyniadau ffurflen SPARQL ar ffurf XML, JSON, testun plaen neu fel tabl. Tra bo’r chwiliad beta newydd yn cael ei brofi gallwch gael mynediad i’r offeryn chwilio’r Mynegai presennol o hyd.

O ganlyniad i’r datblygiad hwn a’n hymrwymiad parhaus i wella hygyrchedd i’n data, rydym wedi safoni enwau rhanbarthau gyda llythrennau bychain. Mae hyn yn gwella cysondeb â setiau data eraill ac mae’n sicrhau y bydd ein data yn bodloni cyfarwyddiadau data cysylltiedig. Yn ogystal mae wedi’i wneud yn bosibl i ni gysylltu â ffynonellau Data Agored eraill gan wneud ein data cysylltiedig y Mynegai yn set ddata 5 seren.

Lluniwr Adroddiad Data Pris a Dalwyd

Rhyddhawyd ein set ddata pris a dalwyd ym mis Tachwedd 2013, gan roi dros 19 miliwn o drafodion eiddo preswyl ar gael i’n cwsmeriaid eu llwytho i lawr. Mae’r set ddata, sy’n dyddio yn ôl i fis Ionawr 1995 ac sy’n cael ei ddiweddaru’n fisol, yn parhau i dyfu.

Er gwaetha rhyddhau’r data hwn am ddim ar ein gwefan, rydym wedi parhau i gael ceisiadau ar gyfer detholiadau ar archeb o’r data, gwasanaeth a ddarparwyd am ffi cyn mis Tachwedd 2013. Er bod ein data cysylltiedig ymholiad SPARQL yn galluogi’r math hwn o adroddiad, rydym yn ymwybodol nad yw pawb yn gallu ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Er mwyn gwneud ein data’n haws i’w ddadansoddi, rydym wedi datblygu lluniwr adroddiad Data Pris a Dalwyd. Mae’r system yn eich galluogi i lunio detholiadau ar archeb o’n data pris a dalwyd. Gellir diffinio adroddiadau trwy leoliad, daliadaeth, pris a dalwyd neu fath o eiddo dros gyfnod penodedig. Yna gellir llwytho’r canlyniadau i lawr ar ffurf CSV gyda neu heb benawdau, neu ar ffurf TTL. Mae golwg SPARQL ar gael hefyd

Dywedodd Andrew Trigg, Pennaeth y Rhaglen Ddata “fel aelod o’r Grŵp Data Cyhoeddus rydym yn awyddus i sicrhau bod modd cael gafael ar ein data a’i ddefnyddio yn hawdd”. Er mwyn helpu sicrhau ein bod yn cael y cyfan yn gywir, rydym yn eich annog i rannu eich profiadau o ddefnyddio ein hoffer. Gallwch gysylltu â ni ar 0300 006 0478 neu trwy anfon ebost at commercial.services@landregistry.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 30 April 2014