Datganiad i'r wasg

Beth am ddilyn esiampl prifysgolion uchelgeisiol Cymru drwy fod yn rhyngwladol yn y byd ar ôl Brexit, meddai Alun Cairns

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn annog arweinwyr o bob sector yng Nghymru i ddilyn esiampl prifysgolion Cymru - drwy geisio am gyfleoedd yn Ewrop a thu hwnt.

Alun Cairns speaking at the Cardiff Met Annual Lecture

Alun Cairns speaking at the Cardiff Met Annual Lecture / Alun Cairns yn siarad yn Narlith Blynyddol Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ddydd Iau 10 Tachwedd, heriodd Alun Cairns y sefydliad gwleidyddol yng Nghymru i ddilyn esiampl y sector addysg uwch ar ôl Brexit yn ei araith fawr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Anogodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru arweinwyr o bob sector ledled Cymru i ddilyn esiampl prifysgolion Cymru – drwy chwilio am gyfleoedd yn Ewrop a thu hwnt.

Gwnaeth Mr Cairns y datganiad hwn yn Narlith Flynyddol y Fforwm yr oedd yn ei thraddodi yn dilyn gwahoddiad gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dywedodd:

Mae’n rhaid i bawb fabwysiadu agwedd gadarnhaol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y newid a ddaw yn sgil Brexit.

Does dim enghraifft well o brifysgol yn estyn allan i’r byd na Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae’n amser ystyried Cymru yn y byd ehangach ymhen 5 i 10 mlynedd.

Ni fu erioed amser pwysicach i fabwysiadu agwedd sefydlog, eangfrydig a rhyngwladol yn y Llywodraeth, mewn busnesau ac mewn prifysgolion yn y DU.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae Bil Cymru, sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, yn gyfle i symud trafodaethau yn eu blaenau a thrafod y materion sydd o bwys i bobl ar lawr gwlad yn hytrach na chynnal dadleuon cyfansoddiadol cymhleth.

Mae gan Gymru lais cryf yn y byd ehangach erioed, o ganlyniad i ddiwylliant, diwydiant ac arloesedd, cyfraniad hanesyddol ein gwlad at y byd, a’i chysylltiadau â chymunedau ar wasgar sy’n parhau hyd heddiw. Rydw i eisiau datblygu a chryfhau’r cyswllt hanfodol hwn yn fyd-eang.

Yn y byd newydd hwn ar ôl Brexit, mae gennym ni gyfleoedd anferthol, ond mae cyfrifoldeb arnom ni hefyd - Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a thrigolion Cymru - i weithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau dyfodol sy’n gweithio i bawb.

Cyhoeddwyd ar 10 November 2016