Datganiad i'r wasg

Gweinidog Sywddfa Cymru: Gadewch i ni ganolbwyntio ar ddarparu ac nid ar bwerau

Mae’n hen bryd i wleidyddiaeth Cymru symud ymlaen o hen ddadleuon polisi am wahaniaethau cenedlaethol, a chanolbwyntio ar ddarparu, yn ôl Alun Cairns.

Mae’n hen bryd i wleidyddiaeth Cymru symud ymlaen o hen ddadleuon polisi am wahaniaethau cenedlaethol, a chanolbwyntio ar ddarparu, yn ôl Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru.

Daeth yr alwad mewn araith bwysig ar ddatganoli gan Mr Cairns mewn cynhadledd yng Nghaerdydd.

Yn ôl Mr Cairns, wrth i Gymru groesawu Llywodraeth sy’n fwy atebol, roedd hi’n amser “mabwysiadau agwedd fwy aeddfed at y ddadl yng Nghymru”.

Dywedodd wrth y gynulleidfa “dylai ymgysylltu gwleidyddol yng Nghymru ganolbwyntio ar bolisïau ac nid ar bwerau.”

Roedd Mr Cairns yn canmol Llywodraeth Cymru am bolisïau “arloesol” megis cyflwyno’r system cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau, a’r tâl am fagiau siopa.

Serch hynny, dywedodd “hoffwn weld mwy o’r arloesedd hynny a llai o’r polisïau sy’n wahanol yng Nghymru am y rheswm syml bod cyfrifoldeb drostyn nhw wedi’i ddatganoli.”

Soniodd Mr Cairns am ddatganoli pwerau treth fel enghraifft lle gallai Llywodraeth Cymru ddangos arloesedd pellach.

Dywedodd: “Byddant nid yn unig yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol o ran codi mwy o’r arian mae’n ei gwario yn hytrach na pharhau fel adran wario yn unig, ond yn gyfle hefyd i wneud Cymru yn wlad treth isel.”

Amlygodd Mr Cairns gynnydd Bil Cymru, gan ddweud wrth ei gynulleidfa yng Nghaerdydd bod:

Llywodraeth y DU yn edrych ar “y ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r pryderon” ynghylch yr angen am ganiatâd i’r Cynulliad ddiwygio swyddogaethau Gweinidog y Goron mewn meysydd datganoledig.

Bydd y rhestr o bwerau a gedwir yn cael ei lleihau “i gynnwys y rheini sydd â rheswm da dros eu cadw yn unig”

Serch hynny, gwrthododd y Gweinidog Swyddfa Cymru alwadau am awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru a Lloegr, gan ddweud y byddai’n “ddrud ac yn ddiangen”.

Dywedodd: “Does dim angen awdurdodaeth ar wahân arnom i sicrhau bod model cadw pwerau yn gweithio, a does dim angen chwaith bod yn wahanol er mwyn bod yn wahanol.”

Dywedodd y Gweinidog Swyddfa Cymru wrth y gynhadledd fod Cymru ar drothwy “cyfnod o gyfleoedd” i ganolbwyntio ar faterion sydd “o wirioneddol bwys i bobl ar garreg eu drws”.

Mae datganoli yn “gyfle i ddatblygu polisïau uchelgeisiol ac arloesol i Gymru – nid er mwyn bod yn wahanol, ond i fynd i’r afael â’r heriau economaidd a chymdeithasol ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf”, dywedodd Mr Cairns.

Dadleuodd Mr Cairns fod achos ar gyfer datganoli ehangach yng Nghymru.

“Mae’r ddadl o blaid datganoli yn deillio o’r anghenion gwahanol sydd gan Gymru o’i chymharu â gweddill y DU. Mae’r rhesymeg hon hefyd yn berthnasol yng Nghymru lle mae cymunedau yn wynebu gwahanol faterion, a gall gwneud penderfyniadau yn lleol fod yn fwy effeithiol hefyd.”

Cyhoeddwyd ar 28 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 February 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.