Stori newyddion

Gadael y cyfyngiadau symud gyda’n gilydd: Pam ein bod yn well yn erbyn coronafeirws wrth fod yn unedig

Mewn erthygl yn y Western Mail heddiw, mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn trafod y pwysigrwydd o ddod allan o’r cyfyngiadau symud fel Teyrnas Unedig.

Welsh Secretary Simon Hart

Welsh Secretary Simon Hart writes in today's Western Mail

Yr wythnos hon rydym yn coffáu Diwrnod VE. Roedd yn adeg o ryddhad cenedlaethol sylweddol ond gyda naws o realiti am yr aberth a wnaed i gyrraedd y pwynt hwn. Mae’r wythnos hon yn dangos, hyd yn oed ar ôl 75 mlynedd, ein bod yn gwbl ymywbodol o’r hyn a ddysgwyd gennym wedi’r cyfnod hir hwn o ryfela.

Ac felly mae’r pandemig coronafeirws presennol yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n bwysig ar gyfnodau fel hyn, a’r hyn a ellir ei gyflawni fel Teyrnas Unedig.

Os oes un peth y mae’r argyfyngau hyn wedi ei gyfleu i ni trwy gydol ein hanes ar y cyd, yw bod gwledydd y Deyrnas Unedig ar eu cryfaf pan maent yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae gwleidyddiaeth yn broffesiwn sy’n ffynnu ar anghytundeb a dadlau, felly roedd rhaid i mi binsio fy hun am fy mod yn cydweld gyda Nick Thomas-Symonds, AS Llafur Torfaen ac Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, pan ddywedodd bod Llywodraeth y DU wedi gweithio’n dda gyda’r gweinyddiaethau datganoledig yn ystod yr argyfwng hwn. Mae ei sylwadau yn adlewyrchu’r gri a ddaw i’m sylw’n ddyddiol gan fusnesau a thrigolion ledled Cymru – rhowch eich gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu ac uno i orchfygu COVID 19 y lladdwr anweledig a digroeso.

Yma yn y Deyrnas Unedig, mae’r ymateb i’r pandemig wedi ei seilio ar wneud penderfyniadau ar y cyd a chydweithredu rhwn Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Dyma’r ymagwedd y mae argyfwng yn ei fynnu a’r lefel o wleidyddiaeth aeddfed y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl. Nid yw hyn yn golygu na ellir herio, anghytuno na chraffu. Mae hyn i gyd yn bywsig, ond ar hyn o bryd mae’n fater o amseriad ac ymdrech, y cyfan wedi ei ganolbwyntio ar un amcan cyffredin.

Weithiau bu i’r gwledydd gwahanol fynd o gwmpas pethau mewn ffordd wahanol wrth i’r gweinyddiaethau ymateb yn y fan a’r lle i’r heriau sylweddol a wynebwyd bob dydd. Rydym i gyd yn derbyn y bydd ychydig o ‘ddargyfeirio’ – dyna realiti llywodraeth ddatganoledig. Er hynny mae’n amlwg er cymaint y gwahaniaethau gwleidyddol yn y gweinyddiaethau o fewn y DU, mae’r ffordd yr aethom ati a’r nodweddion tebyg rhyngom yn llawer iawn mwy na’r gwahaniaethau.

Efallai nad yw hyn yn cael ei gyfleu rhyw lawer, ond rwyf bron yn ddyddiol yn siarad gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac mae’r hyn a elwir yn ‘fecanwaith’ Llywodraeth – gweision sifil, ymgynghorwyr a swyddogion – yn trafod gyda’i gilydd trwy’r amser. A goeliwch chi? Yn amlach na pheidio rydym yn cytuno ar yr union bwynt hwn.

Boed yn warchod swyddi a bywoliaethau, y system lles enfawr ar draws y DU, cefnogaeth lluoedd arfog y DU sydd mor weladwy ledled Cymru a’r gwaith ymchwil a datblygu yn y DU sydd mor uchel ei barch ar draws y byd – ni fu pwysigrwydd yr Undeb (gan gynnwys presenoldeb Llywodraeth y DU yng Nghymru) erioed mor hanfodol i fywydau pobl Cymru. Yn hytrach na bod yn fygythiad i ddatganoli a’r teimlad cryf o falchder cenedlaethol, mewn gwirionedd mae’n eu grymuso.

Felly, fel y bu i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford ei hun grybwyll, fe fu i bob un o’r pedair gwlad gyflwyno’r cyfyngiadau ar symud ar yr un pryd a dylid felly, os yn bosibl, wneud unrhyw addasiadau i’r cyfyngiadau ar yr un pryd. Y rheswm am hyn yw bod ein heconomi a’n systemau i gyd wedi eu cydblethu. Rydym yn cytuno y byddai system drafnidaeth ar draws y DU fyddai’n caniatau gwneud un peth ym Mryste a rhywbeth arall yng Nghasnewydd, yn sicr o fethu. Sut fyddai rhywun yn egluro i rai o’n cyflogwyr mawr bod y rheolau ar Lannau Dyfrdwy yn wahanol i’w ffatri yn Doncaster, yn enwedig os oes stafd yn gweithio rhwng y ddau le?

Mae pobl ledled Cymru wedi bod yn ardderchog yn ystod yr wythnosau ers mis Mawrth pan ddechreuodd y mesurau o gadw pellter cymdeithasol. Mae’r mwyafrif llethol wedi dilyn y canllawiau, wedi aros yn y tŷ ac wedi gwneud eu rhan i arafu lledaeniad y feirws a gwarchod y GIC.

Gwnaed hynny oherwydd bod y canllawiau yn syml a bod ymagwedd y ddwy lywodraeth wedi bod yn unedig. Dyma pam y mae busnesau Cymru heb ddim ffws wedi ymateb i’r her, cynhyrchu PPE, hylif glanhau dwylo a datblygu technoleg newydd ar gyfer peiriannau anadlu. Maent wedi rhoi bwyd a’u hamser, wedi cefnogi gweithwyr allweddol ac wedi edrych ar ôl y gweithlu.

Dyma’r ymagwedd sydd angen i ni ei chynnal yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.

Fe fydd Covid-19 efo ni am gryn amser eto a hyd nes byddwn wedi cyfarfod y pum prawf a osodwyd i drechu’r feirws, rhaid i ni barhau gyda’r mesurau yr ydym wedi bod yn eu cymryd o aros adref, gwarchod y GIC ac arbed bywydau. Yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos hon bydd y Prif Weinidog yn ein diweddaru ar y mesurau a’r penderfyniadau y bydd angen i ni eu cymryd i warchod yr economi ac osgoi y risg o gael ail begwn a fyddai mor niweidiol.

Ymagwedd ledled y DU yn ystod y cyfnod nesaf fydd orau i bobl a busnesau Cymru. Aethom i mewn i’r frwydr fel Teyrnas Unedig ac fe ddown allan ohoni hyd yn oed yn fwy unedig.

DIWEDD.

Cyhoeddwyd ar 7 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 May 2020 + show all updates
  1. Welsh translation added. This was delayed due to the original newspaper article being published in English.

  2. First published.