Ffigurau diweddaraf am yr economi’n dangos bod Cymru’n cau’r bwlch ar weddill y DU
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, Cymru yw’r ardal economaidd sydd wedi tyfu gyflymaf y pen y tu allan i Lundain ers 2010.
Mae ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Cymru wedi profi’r twf economaidd cyflymaf y pen yn y DU y tu allan i Lundain ers 2010.
Mae’r duedd i’w gweld yn y ffigurau diweddaraf ar Werth Ychwanegol Gros - mesur o gynnydd yng ngwerth yr economi oherwydd cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau.
Tra bo’r gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yr isaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU, mae’r bwlch cymharol gyda chyfartaledd y DU yn gyffredinol wedi cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 70.5 y cant o gyfartaledd y DU i 71.0 y cant.
Mae’r ffigurau’n datgelu cynnydd cadarn yn y gwerth ychwanegol gros mewn ardaloedd sy’n cynnwys Conwy a Sir Ddinbych, Gwynedd, Powys, Sir Fynwy a Chasnewydd a Chymoedd Gwent.
Cynyddodd y gwerth ychwanegol gros yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd 2.5 y cant o gymharu â chynnydd o 3.0 y cant ar gyfer Dwyrain Cymru. Roedd y cynnydd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn uwch na’r cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros y pen ledled y DU, sef 2.1 y cant.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos mai Cymru yw’r ardal economaidd sydd wedi tyfu gyflymaf y pen y tu allan i Lundain ers 2010. Rydyn ni’n cau’r bwlch ar weddill y DU ac fe welwch chi hynny’n cael ei adlewyrchu yn ein marchnad swyddi sy’n cryfhau.
Mae gogledd, de a gorllewin Cymru i gyd yn cyfrannu at ddarlun cenedlaethol sy’n gwella. Rydyn ni’n newid dibyniaeth draddodiadol y wlad ar wariant cyhoeddus wrth i fuddsoddwyr mawr ddewis Cymru ar gyfer prosiectau’r sector preifat - o’r ganolfan ymchwil newydd ar Lannau Dyfrdwy gyda chefnogaeth Airbus i’r cadarnhad yr wythnos yma bod cwmni Aston Martin wedi prynu safle ym Mro Morgannwg ar gyfer ei fodel DBX.