Datganiad i'r wasg

Partneriaeth arbennig yng Nghymru i greu swyddi a harneisio arloesi milwrol

Cymru i dderbyn cyfran o £250 miliwn o gyllid i greu partneriaethau hirdymor.

Welsh Secretary Jo Stevens visiting Drone Evolution in Caerphilly.

  • Cynllun arloesol i ryddhau potensial busnesau a sefydliadau ymchwil yng Nghymru.   
  • Cymru i dderbyn cyfran o £250 miliwn o gyllid i greu partneriaethau hirdymor a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol ac o fudd i Luoedd Arfog y Deyrnas Unedig. 
  • Yn adeiladu ar Gymru fel pwerdy’r Deyrnas Unedig o ran systemau ymreolaethol di-griw, gan ddarparu’r galluoedd arloesol sy’n cadw Prydain yn ddiogel.

Bydd economi Cymru yn cael hwb gan raglen amddiffyn arloesol - a gefnogir fel rhan o fuddsoddiad o £250 miliwn ledled y Deyrnas Unedig - i wella cydweithio, meithrin arloesi a chreu swyddi.    

Mae Bargeinion Twf Amddiffyn yn cael eu creu fel rhan o fenter feiddgar i gefnogi potensial twf y diwydiant amddiffyn, wedi ei ategu gan y cynnydd hanesyddol mewn gwariant ar amddiffyn i 2.6% o gynnyrch domestig gros erbyn 2027 a’r uchelgais i gyrraedd 3% yn y Senedd nesaf.    

Gan ddefnyddio cyfran o £250 miliwn o arian ar gyfer Bargeinion Twf Amddiffyn y Deyrnas Unedig, bydd Cymru yn creu partneriaeth hirdymor rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru, gan uno busnesau a sefydliadau ymchwil yn y genedl i harneisio arbenigedd ac adnoddau lleol i gynorthwyo Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig.   

Heddiw [dydd Llun 8 Medi] bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey yn cyhoeddi’r fenter newydd fel rhan o lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn, a fydd yn gwneud Amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf.    

Yn ganolog i’r Strategaeth, bydd y Bargeinion Twf Amddiffyn yn datgloi twf, arloesi a chreu swyddi o fewn crynodiadau allweddol y diwydiant amddiffyn a deu-ddefnydd ledled y wlad, gan gryfhau gwydnwch sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y Deyrnas Unedig.   

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey AS:   

Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn yn gwneud amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf yng Nghymru, gan gynorthwyo swyddi, y diwydiant ac arloeswyr.  

Mae Bargeinion Twf Amddiffyn yn cynnig partneriaeth newydd gyda sector amddiffyn y Deyrnas Unedig i adeiladu ar gryfderau diwydiannol ac arloesi sydd gan ranbarthau yn barod. Gyda’n gilydd, ein nod yw gyrru cynnydd mewn sgiliau a swyddi amddiffyn ledled Cymru.  

Rydym eisiau gwneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i gychwyn a thyfu cwmni amddiffyn, a byddwn yn rhoi Prydain ar flaen y gad o ran arloesi.

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves: 

Mae hwn yn gynllun ar gyfer swyddi da sy’n talu cyflogau teilwng yng Nghymru a thu hwnt.  

Drwy Fargeinion Twf Amddiffyn byddwn yn rhyddhau pŵer economïau lleol wrth ddiogelu ein gwlad - adeiladu economi sy’n gweithio i bobl sy’n gweithio, ym mhob rhan o’r wlad hon, yn union fel y gwnaethom ei addo yn ein Cynllun ar gyfer Newid.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron i 4,000 o bobl yng Nghymru eisoes yn cael eu cyflogi oherwydd gwariant diwydiant y Weinyddiaeth Amddiffyn, a bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod pob owns o botensial y sector yn cael ei wireddu, gan yrru twf economaidd a chyflawni Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Newid.     

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:  

Bydd y buddsoddiad hwn mewn amddiffyn yn rhoi hwb gwirioneddol i economi Cymru ac yn cefnogi swyddi medrus iawn am flynyddoedd i ddod – dyma ddifidend amddiffyn.  

Mae gan Gymru sector amddiffyn arloesol a ffyniannus gyda phresenoldeb ym mhob rhan o’r wlad. Gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r diwydiant, bydd y strategaeth hon yn helpu i sicrhau bod y sector yn mynd o nerth i nerth.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: 

Mae Cymru yn rhagori ar draws y sector amddiffyn, mewn meysydd fel seiberddiogelwch, optoelectroneg, systemau tir, hyfforddi a phrofi, felly rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau wrth ddatblygu’r sylfaen ddiwydiannol amddiffyn yma yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. 

Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth lunio Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y Deyrnas Unedig a sicrhau bod Cymru yn rhan ganolog o’i chyflawni. 

Mae hon yn llywodraeth sy’n uchelgeisiol ynghylch ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn, a Bargen Twf Amddiffyn arloesol Cymru, yn allweddol wrth i ni ymdrechu i sbarduno twf economaidd pellach mewn sectorau gwerth uchel ar gyfer cymunedau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at hyrwyddo galluoedd sylweddol Cymru yn y sector amddiffyn yn DSEI yr wythnos hon.

Mae Cymru yn gyflym yn sefydlu ei hun fel pwerdy ym maes datblygu cerbydau awyr di-griw a systemau ymreolus, gyda chwmnïau arloesol fel Tekever yn Sir Benfro yn arwain y gad o ran technoleg cerbydau awyr di-griw arloesol. Mae’r genedl yn ymfalchïo mewn cyfleusterau profi o’r radd flaenaf, gan gynnwys Canolfan Awyrofod Eryri, sy’n darparu seilwaith hanfodol ar gyfer arloesi yn y maes amddiffyn, tra bod rhagoriaeth academaidd yn cael ei gyrru gan sefydliadau fel Canolfan Ymreolaeth Amddiffyn Cymru.  

Bydd y Fargen Twf Amddiffyn hon yn harneisio cryfderau unigryw Cymru mewn ymreolaeth ac awyrofod, gan greu swyddi medrus iawn wrth osod y genedl ar flaen y gad o ran galluoedd amddiffyn y genhedlaeth nesaf a fydd yn cadw Prydain yn ddiogel.   

Bydd Bargen Twf Amddiffyn Cymru yn cael ei datgelu yn y misoedd nesaf. Gan weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig a rhanddeiliaid allweddol eraill, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn lansio bargen twf bwrpasol a fydd yn harneisio cyfleoedd a chryfderau penodol y genedl.   

Bydd cynigion polisi manwl yn cael eu datblygu ar y cyd; disgwylir i’r meysydd ffocws gynnwys:   

  • Sgiliau – mynd i’r afael ag anghenion gweithlu rhanbarthol a gofynion gallu yn y dyfodol;   

  • Arloesi – cefnogi ymchwil, datblygu a mabwysiadu technolegau newydd;   

  • Caffael – alinio cadwyni cyflenwi lleol â blaenoriaethau Amddiffyn;   

  • Buddsoddi – targedu cyllid i ddatgloi gwerth economaidd a strategol;   

  • Partneriaeth – meithrin cysylltiadau effeithiol sy’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru. 

Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn hefyd yn mynd i’r afael â gofynion sgiliau yn y sector, gyda phecyn sgiliau sy’n cynnwys amrywiaeth o fesurau ledled y Deyrnas Unedig gyda’r nod o ddenu a chadw gweithlu medrus yn y Deyrnas Unedig.  

Mae hyn yn cynnwys Cyrchfan Amddiffyn, ymgyrch gyfathrebu gyda’r nod o godi proffil gyrfa yn y sector amddiffyn, presenoldeb amddiffyn ar wefan UCAS, y system glirio i raddedigion a phrentisiaethau, a Phasbort Sgiliau Amddiffyn a fydd yn galluogi mwy o gyfleoedd gyrfa a thwf sgiliau o fewn ecosystem amddiffyn.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Medi 2025