Datganiad i'r wasg

Cam pwysig yn hanes datganoli wrth i bwerau gael eu trosglwyddo i Gynulliad Cymru

Alun Cairns: "Sefydliadau datganoledig yng Nghymru wedi dod i oed"

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig o ran rhoi Deddf Cymru 2017 ar waith wrth i bwerau ddod i rym a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno Cyfraddau Treth Incwm Cymru, gan alluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn seilwaith a chaniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ba enw i’w roi iddo’i hun.

Mae’r pwerau pwysig hyn yn rhoi mwy o benderfyniadau yn nwylo’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ac yn rhoi adnoddau newydd pwysig iddynt eu defnyddio i dyfu economi Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ledled Cymru.

Dyma’r darpariaethau a ddaeth i rym heddiw:

  • Dileu’r gofyniad i gynnal refferendwm cyn cyflwyno Cyfraddau Treth Incwm Cymru.
  • Cynyddu’r swm y gall Gweinidogion Cymru ei fenthyg i ariannu gwariant cyfalaf o £500m i £1bn.
  • Ailddatgan Cynulliad a Llywodraeth Cymru fel rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y DU.
  • Gwreiddio’r confensiwn na fydd Senedd y DU fel arfer yn deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli heb gydsyniad y Cynulliad.
  • Caniatáu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar brotocol ar gyfer rheoli adnoddau dŵr sy’n llifo rhwng y ddwy wlad.

Mae’r newidiadau a wnaed heddiw hefyd yn nodi diwedd anerchiad blynyddol Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Senedd ar Araith y Frenhines a’i hawl i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae heddiw yn nodi trosglwyddo pwerau newydd pwysig i’r Cynulliad. Mae’r rhain yn bwerau sy’n effeithio ar fywydau pawb sy’n byw yng Nghymru ac yn gam pwysig tuag at y setliad datganoli cliriach, cryfach a thecach rydym yn ei roi ar waith.

Am y tro cyntaf, mae Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael eu cydnabod yn ffurfiol fel rhannau parhaol o gyd-destun cyfansoddiadol y DU. Bellach, nid oes angen cynnal refferendwm cyn i Gyfraddau Treth Incwm Cymru ddod yn weithredol a bydd Gweinidogion Cymru yn gallu benthyg hyd at £1bn i fuddsoddi yn y gwaith o adnewyddu seilwaith Cymru.

Mae Datganoli wedi datblygu cryn dipyn ers 2010 ac mae’r pwerau hyn yn nodi bod y Cynulliad wedi datblygu i fod yn Senedd gyflawn. O heddiw ymlaen, gall y Cynulliad benderfynu ar deitl newydd os mai dyna ydi dymuniad Aelodau’r Cynulliad. O hyn ymlaen, ni fydd gen i na f’olynwyr yr hawl i gael sedd yn y Cynulliad ac ni fydd disgwyl i ni roi anerchiad blynyddol i’r Cynulliad ar Araith y Frenhines.

Gyda’i gilydd mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod y sefydliadau datganoledig yng Nghymru wedi dod i oed ac yn nodi bod y gwaith o drosglwyddo i’r setliad newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn sgil Deddf Cymru wedi dechrau. Edrychaf ymlaen at weld y pwerau hyn yn cael eu defnyddio i gyflawni ar ran pobl Cymru.

Nodiadau i olygyddion

Bydd y mesurau yn dod i rym yn awtomatig ddau fis ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol. Derbyniodd Deddf Cymru 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2017