Datganiad i'r wasg

Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig tuag at sicrhau Brexit gwyrdd

Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’u diwygiadau eu hunain

  • Mae Llywodraeth y DU yn pennu polisi ôl-Brexit pwysig i fuddsoddi yn yr amgylchedd a rhoi rheolaeth yn ôl i ffermwyr ar ôl bron i 50 mlynedd o dan reolau’r UE.
  • Bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’u diwygiadau eu hunain.

Ar ôl bron i hanner canrif o dan reolau’r UE, bydd deddfwriaeth i ddarparu amgylchedd iachach a glanach i genedlaethau’r dyfodol yn cael ei chyflwyno yn y Senedd heddiw (12 Medi).

Mae’r Bil Amaethyddiaeth yn nodi sut bydd ffermwyr a rheolwyr tir yn cael eu talu am “nwyddau cyhoeddus” yn y dyfodol, fel gwell ansawdd aer a dŵr, pridd iachach, safonau uwch ar gyfer lles anifeiliaid, mynediad cyhoeddus i gefn gwlad a mesurau i leihau llifogydd.

Bydd hwn yn dod yn lle’r system cymorthdaliadau bresennol sy’n darparu Taliadau Uniongyrchol, sy’n aneffeithiol ac yn talu ffermwyr ar sail faint o dir maen nhw’n ei ffermio. Mae’r taliadau hyn yn ffafrio’r tirfeddianwyr mwyaf ac nid ydynt wedi’u cysylltu ag unrhyw fuddiannau cyhoeddus penodol. Mae’r 10% uchaf yn derbyn bron i 50% o’r holl daliadau ar hyn o bryd, a’r 20% isaf ddim ond yn cael 2%.

Bydd system Rheoli Tir er lles yr Amgylchedd yn disodli’r rhain o ddechrau’r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd y llywodraeth yn cydweithio â ffermwyr i ddylunio, datblygu a threialu’r dull newydd. O dan y system newydd, bydd y ffermwyr a’r rheolwyr tir sy’n darparu’r buddiannau amgylcheddol mwyaf yn cael eu gwobrwyo, a fydd yn gosod y seiliau ar gyfer Brexit Gwyrdd.

Hefyd, bydd mesurau i gynyddu cynhyrchiant ac i fuddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu yn sail i’r Bil. Er enghraifft, bydd cyllid ar gael i ffermwyr ddod at ei gilydd i ddatblygu a sicrhau’r prosiectau ymchwil y mae eu hangen a’u heisiau arnynt, p’un ai a yw’r rheini’n ymwneud ag iechyd pridd neu ffermio da byw mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn arwain at fuddiannau ymarferol i ffermwyr a fydd yn eu helpu i wneud mwy o elw ac yn lleihau eu hôl troed amgylcheddol.

Bydd y llywodraeth hefyd yn gallu prosesu taliadau i ffermwyr yn ystod y cyfnod pontio saith mlynedd er mwyn buddsoddi mewn dulliau a thechnolegau newydd sy’n rhoi hwb i gynhyrchiant.

Dywedodd Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd:

Mae cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth yn ddigwyddiad hanesyddol wrth i ni adael yr UE a symud tuag at ddyfodol gwell ym maes ffermio. Ar ôl bron i 50 mlynedd o fod wedi’n clymu i reolau beichus a hen ffasiwn yr UE, mae gennym ni gyfle i sicrhau Brexit Gwyrdd. Bydd y Bil hwn yn caniatáu i ni wobrwyo ffermwyr sy’n gwarchod ein hamgylchedd, gan sicrhau bod cefn gwlad mewn cyflwr mwy glân, gwyrdd ac iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n hollbwysig ein bod yn pontio’n llyfn ac yn raddol er mwyn i ffermwyr a rheolwyr tir allu cynllunio ymlaen llaw.

Ar ôl ymgysylltu’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig, bydd y Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’u diwygiadau eu hunain, ac yn ehangu darpariaethau i Ogledd Iwerddon, nes bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol yn mynd drwy eu deddfwrfeydd eu hunain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos â’r diwydiant ffermio a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pwerau yn y Bil Amaethyddiaeth wedi cael ei hymestyn i Gymru. Bydd y Bil yn rhoi pwerau newydd i Weinidogion ym Mae Caerdydd er mwyn sicrhau bod ein ffermwyr yn cael sicrwydd a sefydlogrwydd wrth i ni adael yr UE.

Mae’n hollbwysig bod yn flaengar ac yn uchelgeisiol er mwyn gwneud y gorau o’r cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig, drwy weithio ochr yn ochr â busnesau a chymunedau i sicrhau bod ein heconomi wledig yn parhau i dyfu.

Roedd Sioe Frenhinol Cymru yn gynharach eleni yn gyfle gwych i ni wneud hyn, ac i gadarnhau ein hymrwymiad i sicrhau bargen dda i’r sector yn ein trafodaethau wrth ymadael â’r UE.

Bydd ffermwyr yn cael eu cefnogi dros gyfnod pontio saith mlynedd wrth i ni adael Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

Ar gyfer 2019, bydd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwneud yn yr un modd ag arfer, ac yn cael eu symleiddio lle bo hynny’n bosibl. Bydd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwneud yn yr un modd yn 2020 hefyd. Byddwn yn symleiddio’r broses cyn gynted â phosibl, yn amodol ar delerau cyfnod gweithredu Brexit yn gyffredinol. Wedyn, bydd cyfnod pontio amaethyddol yn Lloegr rhwng 2021 a 2027 wrth i’r taliadau ddod i ben yn raddol.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, roedd llawer o bobl o blaid lleihau Taliadau Uniongyrchol yn fwy helaeth. Felly, bydd taliadau’r rhan fwyaf o ffermwyr yn cael eu lleihau i ryw raddau yn ystod y cyfnod pontio, ac fe fydd y rheini sy’n cael y taliadau mwyaf yn wynebu gostyngiadau mwy i ddechrau. Bydd hyn yn rhyddhau cyllid i fuddsoddi mewn nwyddau cyhoeddus.

I helpu newydd-ddyfodiaid i ddod i mewn i’r sector ac i roi hyblygrwydd i ffermwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol, bydd Taliadau Uniongyrchol yn ystod y cyfnod pontio amaethyddol hyd at 2027 yn cael eu “datgysylltu” o’r gofyniad i ffermio’r tir.

Bydd y taliadau hyn, y mae modd eu cyfrifo yn unol â’r arian a dderbyniwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol, yn gallu cael eu defnyddio gan ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnes, i amrywio eu gweithgareddau neu i ymddeol o fyd ffermio a rhoi lle i bobl eraill.

Mae’r Bil hefyd yn nodi sut bydd y llywodraeth yn sicrhau rhagor o dryloywder yn y gadwyn gyflenwi er mwyn helpu ffermwyr i gael gwell bargen yn y farchnad.

Drwy gasglu data ledled y gadwyn gyflenwi, bydd y llywodraeth yn helpu cynhyrchwyr bwyd i gryfhau eu safle negodi yng nghlwyd y fferm a gofyn am enillion tecach.

Mae cyflwyno’r Bil Amaethyddiaeth yn golygu y bydd yr holl fesurau angenrheidiol ar waith ar gyfer dechrau’r cyfnod pontio amaethyddol yn 2021, gan sicrhau trosglwyddiad llyfn i’r polisi domestig newydd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 12 September 2018