Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn anrhydeddu grwpiau gwirfoddolwyr yng Nghymru
Mae 5 mudiad yng Nghymru, y mae eu gwaith yn cefnogi cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, wedi cael eu cydnabod gyda Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol.
The King's Award for Voluntary Service
- Dyfarnu’r anrhydedd mwyaf, sy’n cyfateb i MBE, i fudiadau gwirfoddol mewn cymunedau ledled Cymru am eu gwaith ym meysydd iechyd meddwl, ieuenctid, yr amgylchedd, cymuned, y celfyddydau a threftadaeth.
Mae 5 mudiad yng Nghymru, y mae eu gwaith yn cefnogi cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, wedi cael eu cydnabod gyda Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol. Dyma’r anrhydedd mwyaf y gall grŵp gwirfoddol ei dderbyn yn y DU ac mae’n cyfateb i MBE.
Bydd y wobr, a gyhoeddir heddiw i enillwyr 2026, yn digwydd yn flynyddol ar ben-blwydd y Brenin. Mae’r wobr yn cydnabod grwpiau sy’n trawsnewid bywydau drwy amrywiaeth eang o fudiadau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, mewn meysydd sy’n cynnwys cymorth iechyd meddwl, gwasanaethau ieuenctid, prosiectau amgylcheddol a mentrau cymunedol.
Mae enillwyr eleni yn cynnwys mudiadau o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw, gyda 87% o’r gwobrau’n mynd i grwpiau y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr.
Mae’r enillwyr yn amrywio o bwyllgorau neuaddau pentref i hosbisau a gorsafoedd radio cymunedol i glybiau pêl-droed. Mae eu gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl o bob oed, gallu a demograffeg, o blant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon i oedolion sy’n derbyn gofal diwedd oes. Mae mudiadau fel hyn yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o fynd i’r afael ag unigrwydd a chynnal bywyd lleol.
Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2002 i nodi Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi’r Frenhines, a’r enw bryd hynny oedd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol. Parhaodd y wobr yn dilyn Esgyniad Ei Fawrhydi, ac mae’r Brenin a’r Frenhines yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddathlu gwirfoddoli rhagorol ar hyd a lled y wlad.
Dywedodd Vicky Foxcroft, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil:
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn cymunedau ledled Cymru. Bob dydd, maen nhw’n helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, yn cefnogi iechyd meddwl pobl ac yn gofalu am y lleoedd rydyn ni’n eu galw’n gartref.
Mae Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod y gorau o’r gwaith hwnnw. Mae’r 250 grŵp hyn yn dangos beth gall pobl ei gyflawni pan fyddan nhw’n dod at ei gilydd gyda phwrpas ac yn gofalu am y bobl o’u cwmpas.
Maen nhw bellach yn ymuno â miloedd o gyn-enillwyr i ennill clod yr Arglwydd Raglawiaid, eu Dirprwyon a phanel aruthrol o arbenigwyr gwirfoddoli cenedlaethol. Mae eu dyfarniadau’n rhoi gwobr fawreddog sy’n datgan ‘Mae eich Brenin yn eich anrhydeddu chi’.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock:
Mae’n wych gweld gwaith caled gwirfoddolwyr ledled Cymru’n cael ei gydnabod gyda Gwobr y Brenin, sy’n wobr uchel ei bri.
Mae pobl sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i helpu eraill ac i wella eu hardal leol yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig. Yn aml, nhw yw asgwrn cefn eu cymunedau, a gall eu cyfraniadau helpu i weddnewid bywydau.
Dywedodd Cadeirydd Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol, Syr Martyn Lewis CBE:
Pob clod unwaith eto i’r fyddin ryfeddol o wirfoddolwyr sydd gennym ar lawr gwlad yn y DU!
Ers o leiaf dair blynedd, ac yn aml ers degawdau, mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi mynd yr ail filltir i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf yn eu cymunedau. Maen nhw’n grwpiau o ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sy’n dod at ei gilydd i helpu i adeiladu ac i gynnal gwead ein pedair gwlad. Maen nhw’n gweld angen, ac yn gwneud rhywbeth amdano, yn gyflym ac yn effeithiol.
Maen nhw bellach yn ymuno â miloedd o gyn-enillwyr i ennill clod yr Arglwydd Raglawiaid, eu Dirprwyon a phanel aruthrol o arbenigwyr gwirfoddoli cenedlaethol. A chyda hynny daw gwobr fawreddog sy’n datgan: ‘Mae eich Brenin yn eich anrhydeddu chi.’
Dyma’r enillwyr o Gymru:
- Hosbis Skanda Vale CIO – sy’n darparu gofal lliniarol am ddim dan arweiniad gwirfoddolwyr i oedolion sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywyd yn Nyfed, Cymru. Gan ddechrau gyda gofal cartref yn 1993, maen nhw wedi datblygu hosbis dydd, seibiant i gleifion mewnol a chwmnïaeth o bell ers hynny. Gan weithredu heb gyllid statudol, maen nhw’n cynnig cymorth tosturiol drwy wirfoddolwyr medrus a chraidd bach o nyrsys cyflogedig.
- Strength Academy Wales – dod â phobl Dyfed at ei gilydd drwy raglenni cynhwysol sy’n gwella iechyd, llesiant a chysylltiadau.
- National Coastwatch Institution – cyfrannu at ddiogelwch arfordirol ac achub bywydau o amgylch arfordir Porthcawl.
- Gardd Berlysiau’r Bont-faen – meithrin a chynnal gardd o’r 18fed ganrif er budd y gymuned leol ac ymwelwyr.
- Canolfan Dreftadaeth ac Ymwelwyr Pontardawe – Hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Pontardawe, gan ddarparu canolfan gymunedol fywiog ar gyfer nifer o swyddogaethau.
Mae’r enwebiadau’n cael eu hasesu’n lleol gan Arglwydd Raglawiaid cyn i bwyllgor o aseswyr annibynnol, cenedlaethol adolygu’r argymhellion yn genedlaethol. Mae’r asesiad yn nodi’r grwpiau sy’n cynnal y safonau uchaf mewn gwirfoddoli a’r rheini sy’n gwneud gwahaniaethau sylweddol a phendant i’w cymuned.
Mae hi nawr yn bosibl cyflwyno enwebiadau ar gyfer gwobrau 2027 ar wefan Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol, a bydd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn 1 Rhagfyr 2026.
DIWEDD