Cadw eich cofrestr pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Bydd angen i gwmnïau, PACau a chwmni SE gadw cofrestr o ‘bobl â rheolaeth arwyddocaol’ o 6 Ebrill 2016.
Mae mesur nesaf y Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.
Bydd rhaid i chi ddechrau cadw cofrestr o’ch pobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) nawr.
PRhA yw rhywun yn eich cwmni sydd:
- yn berchen ar fwy na 25% o’r cyfrannau’r cwmni
- yn dal mwy na 25% o hawliau pleidleisio’r cwmni
- â’r hawl i benodi neu ddiswyddo mwyafrif o gyfarwyddwyr
- â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol
- â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, reolaeth arwyddocaol dros ymddiriedolaeth neu gwmni sy’n bodloni un o’r 4 amod eraill.
Bydd angen i chi cadw eich PRhA fel rhan o gofrestr eich cwmni, oherwydd bydd rhaid i’r rhiain fod ar gael am archwiliad.
O 30 Mehefin, byddwch yn dechrau cyflwyno’r wybodaeth hon pan ffeiliwch eich datganiadau cadarnhad, neu pan fydd cwmnïau, PACau a chwmni SE yn cael eu corffori.
Sut i adnabod Pobl â rheolaeth arwyddocaol (yn Saesneg)
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 July 2017 + show all updates
-
YouTube video updated
-
First published.